Neidio i'r prif gynnwy

Mae Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru yn sicrhau bod pobl sy'n agored i niwed yn cael eu diogelu yn ystod cyfnod heriol

 

Cyhoeddwyd: 4 Awst 2022 

Mae Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru yn grŵp strategol yn GIG Cymru sy'n cynnwys aelodau o fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd GIG Cymru, Llywodraeth Cymru, y Tîm Diogelu Cenedlaethol a rhanddeiliaid allweddol eraill.  

Mewn adroddiad newydd a gyhoeddir heddiw, mae'r rhwydwaith yn nodi'r gwaith gwerthfawr y mae'n ei wneud i weithredu fel adnodd hollbwysig wrth gadw plant ac oedolion sy'n agored i niwed yn ddiogel ledled Cymru.  

Mae'r Tîm Diogelu Cenedlaethol, a leolir yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydlynu'r Rhwydwaith ac yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid i wella'n barhaus y gwaith o ddiogelu grwpiau agored i niwed fel plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed ar draws GIG Cymru drwy gysylltu pobl, dysgu ac adnoddau. 

Mae Adroddiad Blynyddol Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru 2020-21 yn rhannu'r ffyrdd y mae'r Rhwydwaith wedi defnyddio dull ystwyth drwy gydol pandemig y Coronafeirws i barhau i gydweithio i gyflawni  ‘Cymru lle mae pawb yn ddiogel’. Mae’r adroddiad yn ymhelaethu ar yr eitemau cyflawnadwy a gyflawnwyd yn 2021-22 drwy gydweithio ar draws y Rhwydwaith a gweithredu ffyrdd newydd o weithio.  

Meddai Dr Aideen Naughton, Arweinydd Gwasanaeth y Tîm Diogelu Cenedlaethol, yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae diogelu o fewn pandemig byd-eang wedi newid a llunio GIG Cymru mewn ffyrdd na ellid fod wedi eu rhagweld. Wrth i ni ddechrau byw gyda COVID-19, mae ymarferwyr diogelu yn cael budd o arfer arloesol a ddatblygwyd yn ystod y pandemig wrth gadw meddylfryd ystwyth ar gyfer yr heriau sydd o'n blaenau wrth i'r byd o'n cwmpas barhau i gyflwyno pwysau a galwadau newydd. 

“Bydd  effeithiau cronnus Brexit, coronafeirws a newid hinsawdd - yr ‘Her Driphlyg’ - yn cael effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol  ar y boblogaeth gan roi mewnwelediadau y mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol ohonynt ar gyfer arfer diogelu yn y dyfodol. Mae ein hadrannau blaengynllunio a sganio'r gorwel yn dangos sut y mae'r Rhwydwaith yn paratoi ar gyfer heriau sy'n dod i'r amlwg; yn ymwybodol y bydd angen i ni edrych ymlaen ac ar yr un pryd adeiladu ar y cydnerthedd a'r sylfaen wybodaeth o'r cyfnod diwethaf.” 

Ymhlith y meysydd adrodd allweddol mae: 

  • Arweinyddiaeth Systemau Cymru Gyfan   
  • Plant sy'n Derbyn Gofal a Mabwysiadu 
  • Dulliau Gwella 
  • Ymgorffori Polisi mewn Ymarfer 
  • Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol  
  • Uwchsgilio Gweithlu Cymwys 
  • Ymarfer Rhanbarthol Arloesol ar draws Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd 
  • Parodrwydd a Sganio'r Gorwel