Cyhoeddwyd: 1 Hydref 2021
Adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw yw'r cyntaf o'i fath i astudio effeithiau cronnol Brexit, coronafeirws a newid yn yr hinsawdd ynghyd â'u dylanwadau cyfunol ar iechyd, llesiant ac anghydraddoldebau yng Nghymru.
Mae'r papur yn trafod amrywiaeth o ffactorau yr effeithir arnynt gan y tair her, gan gynnwys iechyd, economaidd, cymdeithasol a diogelwch, llesiant meddyliol, yr amgylchedd a mynediad at wasanaethau ac ansawdd y gwasanaethau hynny ac mae'n tynnu sylw at sut y bydd yr ‘her driphlyg’ hon yn cael effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol ar ymddygiad iechyd y boblogaeth, er enghraifft, deiet, maeth, teithio llesol ac alcohol.
Mae'r papur yn rhoi rhai enghreifftiau cynnil o sut y gellir effeithio ar iechyd. Enghraifft sbotolau ar alcohol:
Meddai Liz Green, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae pandemig y coronafeirws wedi datgelu'r berthynas gymhleth, wedi'i chydblethu rhwng iechyd, llesiant, anghydraddoldebau, yr economi, yr amgylchedd, a chymdeithas yn gyffredinol. Wrth wneud hynny, mae wedi creu anghydraddoldebau newydd, ond mae hefyd wedi gwaethygu anghydraddoldebau iechyd presennol. Mae digwyddiadau fel y Deyrnas Unedig (DU) yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (UE) (‘Brexit’) a newid yn yr hinsawdd hefyd yn cael effaith gronnol ar iechyd a llesiant poblogaeth Cymru.
“Mae angen i adferiad y DU o'r pandemig ystyried y DU yn ymadael â'r UE, a rhyngweithio'n ddi-dor â hyn. Rhaid iddo hefyd ystyried sut i ddatblygu cydnerthedd cenedlaethol a lleol a rhoi cymorth i lawer o ddiwydiannau a chymunedau agored i niwed sydd hefyd yn wynebu her gynyddol newid yn yr hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol. Rhaid i Gymru fel cenedl fynd i'r afael â natur amlochrog ac esblygol Brexit, COVID-19 a newid yn yr hinsawdd nid yn unig ar wahân, ond yn gyffredinol gronnol. Mae hyn yn cael ei gymhlethu ymhellach gan y ffaith nad yw'r rhain yn ddigwyddiadau digyfnewid a bydd llanw a thrai dros y tymor byr, y tymor canolig a'r hirdymor. Yn fyr, mae Cymru a'r DU yn wynebu ‘Her Driphlyg’ ddigynsail y mae'n rhaid mynd i'r afael â hi mewn modd cydgysylltiedig – un sy'n ystyried dyfodol y blaned a'i phoblogaeth ac sy'n ystyried atebion i'r heriau llesiant ac economaidd y mae Brexit a COVID-19 wedi rhoi pwyslais manwl iawn arnynt.”
Mae ‘Ymateb i Her Driphlyg Brexit, COVID-19 a Newid yn yr Hinsawdd ar gyfer iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru’ yn gyfres o adroddiadau byr sy'n trafod effeithiau unigol a chronnol Brexit, coronafeirws a newid yn yr hinsawdd ar iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru a sut y mae'r effeithiau hyn yn amlweddog, nid ydynt yn ddigyfnewid ac maent yn debygol o effeithio ar Gymru yn awr ac yn yr hirdymor. Bydd dau bapur sbotolau ar ddiogelwch bwyd a'r effeithiau ar gymunedau gwledig yn dilyn y trosolwg strategol hwn.