Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cymru yn wynebu 'her driphlyg' ddigynsail i iechyd a llesiant

Cyhoeddwyd: 1 Hydref 2021 

Adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw yw'r cyntaf o'i fath i astudio effeithiau cronnol Brexit, coronafeirws a newid yn yr hinsawdd ynghyd â'u dylanwadau cyfunol ar iechyd, llesiant ac anghydraddoldebau yng Nghymru.

Mae'r papur yn trafod amrywiaeth o ffactorau yr effeithir arnynt gan y tair her, gan gynnwys iechyd, economaidd, cymdeithasol a diogelwch, llesiant meddyliol, yr amgylchedd a mynediad at wasanaethau ac ansawdd y gwasanaethau hynny ac mae'n tynnu sylw at sut y bydd yr ‘her driphlyg’ hon yn cael effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol ar ymddygiad iechyd y boblogaeth, er enghraifft, deiet, maeth, teithio llesol ac alcohol.  

Mae'r papur yn rhoi rhai enghreifftiau cynnil o sut y gellir effeithio ar iechyd. Enghraifft sbotolau ar alcohol:  

  • Brexit – gallai cytundebau masnach yn y dyfodol gael effaith gadarnhaol neu negyddol ar allu cenedl i ddeddfu neu reoleiddio ar gyfer safonau a chynnwys labelu cryfach o ran alcohol, bwyd neu dybaco. Gall mwy o reoleiddio hefyd arwain at brisiau uwch, gyda chytundebau masnach yn y dyfodol yn arwain at heriau gan weithgynhyrchwyr mewn perthynas â chyfreithiau iechyd cyhoeddus ar gyfer labelu a phris, er enghraifft Isafbris Uned. 
  • Newid yn yr Hinsawdd - mae tystiolaeth yn tynnu sylw at gynnydd mewn tymheredd a digwyddiadau tywydd eithafol sy'n gysylltiedig â gwres a all arwain at yfed mwy o alcohol a chanlyniadau iechyd gwaeth. Mae cynnydd yn y defnydd hefyd yn niweidiol i'r amgylchedd, gan gynhyrchu cyfartaledd o 3 y cant o gyfanswm yr allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr sy'n gysylltiedig â deiet, ac mewn is-boblogaethau â'r defnydd uchaf roedd hyn yn cynyddu i rhwng 6–11 y cant. 
  • Coronafeirws - rhagwelodd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) y byddai'r cyfyngiadau symud yn ystod pandemig COVID-19, o bosibl yn cynyddu'r defnydd o alcohol ac felly'n gwaethygu'r perygl o fod yn agored i niwed o ran iechyd, ymddygiad cymryd risg, problemau iechyd meddwl a thrais. Flwyddyn ar ôl y cyfyngiadau symud cyntaf yng Nghymru, nododd 18 y cant o bobl eu bod yn yfed mwy o alcohol nag yr oeddent cyn y pandemig, sy'n cyfateb i tua 445,000 o oedolion a nododd adroddiad diweddar o Loegr gynnydd o 21 y cant mewn marwolaethau clefyd alcoholaidd yr afu/iau yn ystod blwyddyn y pandemig, wedi'i gyflymu gan yfed mwy o alcohol yn ystod y cyfyngiadau symud. 

Meddai Liz Green, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae pandemig y coronafeirws wedi datgelu'r berthynas gymhleth, wedi'i chydblethu rhwng iechyd, llesiant, anghydraddoldebau, yr economi, yr amgylchedd, a chymdeithas yn gyffredinol. Wrth wneud hynny, mae wedi creu anghydraddoldebau newydd, ond mae hefyd wedi gwaethygu anghydraddoldebau iechyd presennol. Mae digwyddiadau fel y Deyrnas Unedig (DU) yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (UE) (‘Brexit’) a newid yn yr hinsawdd hefyd yn cael effaith gronnol ar iechyd a llesiant poblogaeth Cymru. 

“Mae angen i adferiad y DU o'r pandemig ystyried y DU yn ymadael â'r UE, a rhyngweithio'n ddi-dor â hyn. Rhaid iddo hefyd ystyried sut i ddatblygu cydnerthedd cenedlaethol a lleol a rhoi cymorth i lawer o ddiwydiannau a chymunedau agored i niwed sydd hefyd yn wynebu her gynyddol newid yn yr hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol.  Rhaid i Gymru fel cenedl fynd i'r afael â natur amlochrog ac esblygol Brexit, COVID-19 a newid yn yr hinsawdd nid yn unig ar wahân, ond yn gyffredinol gronnol. Mae hyn yn cael ei gymhlethu ymhellach gan y ffaith nad yw'r rhain yn ddigwyddiadau digyfnewid a bydd llanw a thrai dros y tymor byr, y tymor canolig a'r hirdymor.  Yn fyr, mae Cymru a'r DU yn wynebu ‘Her Driphlyg’ ddigynsail y mae'n rhaid mynd i'r afael â hi mewn modd cydgysylltiedig – un sy'n ystyried dyfodol y blaned a'i phoblogaeth ac sy'n ystyried atebion i'r heriau llesiant ac economaidd y mae Brexit a COVID-19 wedi rhoi pwyslais manwl iawn arnynt.” 

Mae ‘Ymateb i Her Driphlyg Brexit, COVID-19 a Newid yn yr Hinsawdd ar gyfer iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru’ yn gyfres o adroddiadau byr sy'n trafod effeithiau unigol a chronnol Brexit, coronafeirws a newid yn yr hinsawdd ar iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru a sut y mae'r effeithiau hyn yn amlweddog, nid ydynt yn ddigyfnewid ac maent yn debygol o effeithio ar Gymru yn awr ac yn yr hirdymor. Bydd dau bapur sbotolau ar ddiogelwch bwyd a'r effeithiau ar gymunedau gwledig yn dilyn y trosolwg strategol hwn.