Neidio i'r prif gynnwy

Ionawr 2022: Canlyniadau arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd 'Sut ydym ni yng Nghymru?'

Cyhoeddwyd: 4 Chwefror 2022

Mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf i ymgysylltu â'r cyhoedd, sef ‘Sut ydym ni yng Nghymru?’ wedi'u rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

Dyma'r canfyddiadau allweddol o arolwg mis Ionawr:  

  • dywedodd 85 y cant o bobl eu bod yn cefnogi'r gofyniad parhaus am orchuddion wyneb mewn siopau a mannau cyhoeddus dan do eraill yng Nghymru. Fodd bynnag, dywedodd 13 y cant nad oeddent, sef cynnydd o gymharu â 5 y cant ym mis Rhagfyr 2021. Roedd y gweddill yn ansicr.   

  • dywedodd 38 y cant o bobl eu bod yn deall y cyfyngiadau presennol sydd ar waith yng Nghymru i leihau lledaeniad coronafeirws ‘yn dda iawn’, a 44 y cant yn eu deall yn ‘eithaf da’. Ymatebodd 15 y cant gan ddweud ‘ddim yn dda iawn’ a 4 y cant ‘ddim o gwbl’. 

  • dywedodd 47 y cant o bobl eu bod wedi bod yn dilyn y cyfyngiadau ‘yn llwyr’ a dywedodd 38 y cant arall eu bod yn cydymffurfio gan mwyaf. 

  • roedd 67 y cant o bobl o'r farn bod y cyfyngiadau sydd ar waith i reoli coronafeirws yn ‘iawn fwy neu lai’. Fodd bynnag, dywedodd 24 y cant eu bod ‘yn ormod’, sef cynnydd o gymharu â 12 y cant ym mis Rhagfyr 2021. Roedd yr 8 y cant arall o'r farn bod y cyfyngiadau'n ‘rhy ychydig’. 

Mae adroddiad diweddaraf yr arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd ar y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu Ionawr 2022, pan gafodd 1005 o bobl eu holi.  

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal cyfweliadau â miloedd o bobl 18 oed neu drosodd ledled Cymru, i ddeall sut y mae'r Coronafeirws a’r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru. Dros y 18 mis diwethaf, mae dros 25,000 o drigolion Cymru wedi cymryd rhan yn yr arolwg. 

Mae'r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy gyfnod y Coronafeirws.