Rhoddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fwy na 940,000 o wahoddiadau sgrinio i unigolion cymwys dros ei saith rhaglen sgrinio genedlaethol y llynedd.
Rhoddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fwy na 940,000 o wahoddiadau sgrinio i unigolion cymwys dros ei saith rhaglen sgrinio genedlaethol y llynedd.
O'r rhai a wahoddwyd, manteisiodd dros ddwy ran o dair o unigolion ar eu cynnig sgrinio.
Mae Adroddiad Blynyddol Adran Sgrinio Cymru Gyfan ar gyfer 2018-19 yn dangos bod cyfraddau cyfranogi wedi cynyddu ar draws bron pob rhaglen, gyda Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru (+1.6 y cant) a Sgrinio Coluddion Cymru (+1.6 y cant) yn gweld y cynnydd mwyaf o'i gymharu â 2017-18. Roedd dros 3,000 yn fwy o bobl wedi derbyn eu cynnig i sgrinio'r coluddyn eleni o gymharu â'r llynedd.
Dangosodd y rhaglen Sgrinio Llygaid Diabetig gynnydd hefyd gyda 2,500 yn fwy o bobl yn manteisio ar eu cynnig sgrinio eleni.
Arhosodd canran y rhai a gafodd brawf Sgrinio Clyw Babanod a Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig yn uchel iawn ar 99.4% a 99.5% yn y drefn honno.
Cafwyd gostyngiad bach o 0.3 y cant o ran nifer y menywod cymwys sy'n mynd i Bron Brawf Cymru ar gyfer sgrinio'r fron.
Yn y cyfamser, yn 20fed flwyddyn rhaglen Sgrinio Serfigol Cymru, cynyddodd sgrinio serfigol 0.7 y cant i 73.2 y cant.
Ym mis Mawrth 2019, cynhaliodd y rhaglen ymgyrch arloesol ar y cyfryngau cymdeithasol i annog menywod ifanc i fanteisio ar eu cynnig sgrinio serfigol. Aeth yr ymgyrch #caragegdygroth i'r afael â phethau a nodwyd gan fenywod ifanc fel y prif rwystrau i fynychu, fel embaras a delwedd y corff.
Dechreuodd y broses o gyflwyno'r prawf imiwnocemegol ysgarthol (y prawf FIT), gwell prawf sgrinio ar gyfer canser y coluddyn ym mis Ionawr 2019, a chafodd ei gweithredu'n llawn ym mis Medi 2019.
Mae hwn yn brawf mwy sensitif sy'n haws i gyfranogwyr ei gwblhau.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r rhaglen wedi ymgymryd â nifer o fentrau gyda'r nod o ddeall y rhwystrau sy'n atal pobl rhag cymryd rhan mewn sgrinio'r coluddyn a mynd i'r afael â'r rhain er mwyn gwella'r nifer sy'n eu derbyn y prawf.
Meddai Dr Sharon Hillier, Cyfarwyddwr Adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae llunio ein hadroddiad blynyddol yn gyfle i ni ystyried y gwaith caled sy'n digwydd ar draws yr adran drwy gydol y flwyddyn, a hefyd i weld canlyniadau'r gwaith hwnnw wedi'i adlewyrchu yn nifer y rhai sy'n cael eu sgrinio a ffigurau cwmpas ar gyfer y saith rhaglen.
“Mae'n dyst gwirioneddol i staff sy'n gweithio ar draws yr adran sgrinio ein bod wedi gweld y ffigurau hyn yn cynyddu ar draws y rhan fwyaf o'n rhaglenni eleni.
“Er bod gwaith yr Adran Sgrinio o ddydd i ddydd yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau sgrinio diogel ac effeithiol, mae datblygiad bob amser i'n gwaith - rydym yn chwilio'n barhaus am gyfleoedd i wella, boed hynny drwy newidiadau polisi, technolegau newydd neu adborth gan ddefnyddwyr gwasanaethau.”
Mae sgrinio yn broses o nodi pobl sy'n ymddangos yn iach a all fod mewn mwy o berygl o glefyd neu gyflwr. Mae rhaglenni sgrinio yn galluogi canfod a thrin problemau iechyd posibl yn gynnar.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyflawni'r saith rhaglen sgrinio genedlaethol sy’n seiliedig ar boblogaeth yng Nghymru ac yn rheoli rhwydwaith clinigol Sgrinio Cyn Geni Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyfeiriad polisi, cyngor a chanllawiau ar raglenni sgrinio cenedlaethol er budd poblogaeth Cymru.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y rhaglenni sgrinio a ddarperir ac a reolir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gellir gweld yr adroddiad llawn yn llyfrgell ddata Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Adroddiad Blynyddol Cymru, Gyfan Yr Adro Sgrinio, Iechyd Cyhoeddus Cymru 2018-19 cyhoeddwyd 16 Ionawr 2020