Cyhoeddwyd: 25 Ebrill 2023.
Mae canlyniadau arolwg newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, lle gofynnwyd i gyfranogwyr a ydynt yn cytuno neu'n anghytuno â datganiadau am newid hinsawdd a chynaliadwyedd, wedi datgelu y byddai 90 y cant o bobl yng Nghymru yn hoffi gweld busnesau mawr yn gwneud rhagor i'w helpu i wneud rhagor ar gyfer yr amgylchedd. Roedd 36 y cant yn cytuno ac roedd 54 y cant yn cytuno'n gryf â'r datganiad ‘Mae angen i fusnesau mawr fel archfarchnadoedd wneud rhagor i helpu pobl i newid eu hymddygiad’.
Ymatebodd 1007 o aelodau panel i'r arolwg Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Chwefror a mis Mawrth 2023 a ofynnodd i drigolion Cymru am eu barn ar amrywiaeth o bynciau sy'n gysylltiedig ag iechyd.
Meddai Sarah Jones, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Gallai busnesau mawr wneud rhagor i gynorthwyo defnyddwyr i wneud dewisiadau gwell ar gyfer yr amgylchedd. Drwy weithio gyda gwneuthurwyr i ddatblygu a hyrwyddo'r defnydd o ddewisiadau amgen mwy cynaliadwy, gallai archfarchnadoedd helpu i'w gwneud yn haws i ddefnyddwyr wneud newidiadau bach a allai gyfrif a sicrhau gostyngiadau mawr o ran allyriadau.”
Er enghraifft, gallai newid syml i annog y defnydd o sebon a siampŵ solet yn lle fersiynau hylif sicrhau'r canlynol;
Mae pryder am newid hinsawdd ymhlith pobl yng Nghymru yn uchel. Datgelodd yr arolwg fod 81 y cant o bobl yn bryderus iawn (40 y cant) neu'n weddol bryderus (41 y cant) ynghylch newid hinsawdd. At hynny, pan ofynnwyd iddynt am eu rôl wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd, roedd 72 y cant o bobl yn cytuno (51 y cant) neu'n cytuno'n gryf (21 y cant) â'r datganiad ‘Fy nghyfrifoldeb i yw gwneud rhywbeth am newid hinsawdd’.
Dangosodd yr arolwg hefyd fod y diffyg consensws ynghylch newid hinsawdd yn achosi ansicrwydd gyda 45 y cant o'r cyfranogwyr yn cytuno â'r datganiad ‘Mae cymaint o wybodaeth sy'n gwrthdaro ynghylch newid hinsawdd mae'n anodd gwybod beth i'w gredu’.
“Er ei bod yn galonogol iawn gweld bod cynifer o bobl yn teimlo ymdeimlad o gyfrifoldeb i gymryd camau gweithredu er mwyn helpu i liniaru yn erbyn newid hinsawdd, mae'r arolwg hefyd yn tynnu sylw at rai o'r heriau y mae pobl yn eu hwynebu o ran cael gafael ar ffynonellau gwybodaeth dibynadwy am newid hinsawdd.
“Mae'n ddealladwy y gallai pobl deimlo wedi'u llethu gan swm y wybodaeth sydd ar gael, ond mae ffynonellau dibynadwy ar gael i helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus. Ceir tystiolaeth os gallwn i gyd wneud newidiadau bach, gyda'i gilydd gallai hyn wneud gwahaniaeth enfawr.
“Mae'r Ganolfan Iechyd a Chynaliadwyedd wedi cyhoeddi canllaw yn ddiweddar i esbonio'r hyn y gall pobl ei wneud i dorri eu hallyriadau carbon. Mae rhai cyfrifwyr syml ar gael i'ch helpu i gyfrifo eich ôl troed carbon (e.e. Cyfrifydd Ôl-troed WWF) ac i'ch helpu i nodi camau gweithredu y gallwch eu cymryd – y newyddion da yw bod llawer o bethau sy'n dda i'n hamgylchedd yn dda i'n hiechyd hefyd fel cerdded, beicio a cheisio bwyta deiet sy'n fwy seiliedig ar blanhigion. Ymhlith rhai o'r ffyrdd gorau o wneud gwahaniaeth carbon personol yw drwy newid i ffynonellau ynni gwyrdd, bwyta llai o gig a chynnyrch llaeth ac osgoi hedfan cymaint â phosibl.”
Cynhaliwyd yr arolwg diweddaraf ym mis Chwefror a mis Mawrth 2023 a gwahoddwyd dros 2,500 o aelodau panel i lenwi'r arolwg. Gofynnwyd i drigolion Cymru am eu barn ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys ymwybyddiaeth o raglenni ac ymgyrchoedd sgrinio, cynaliadwyedd a'u pryderon presennol.
I gael rhagor o wybodaeth am fynd i'r afael â newid hinsawdd, rydym wedi cyhoeddi amrywiaeth o ganllawiau y gellir eu gweld YMA.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn aelod o'r panel, cofrestrwch yma.
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg Chwefror Mawrth
2023, ac mae’n ymdrin â materion gan gynnwys sgrinio , cynaliadwyedd ,
ymgyrchoedd a phryderon cyfredol.