Neidio i'r prif gynnwy

Diweddaru ystadegau goroesi canser Cymru

Cyhoeddwyd: 16 Awst 2022

Mae ystadegau diweddaraf Goroesi Canser yng Nghymru a gyhoeddwyd heddiw gan Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru (WCISU) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n cwmpasu'r cyfnod 2002-2019 yn dangos darlun cymysg. 

Cynyddodd goroesi canser un flwyddyn a phum mlynedd ledled Cymru ar gyfer llawer o fathau cyffredin o ganser fel canser yr ysgyfaint a'r prostad. Fodd bynnag, bu lefelu a hyd yn oed lleihad yn y blynyddoedd diwethaf ar gyfer rhai canserau llai cyffredin fel canser y bledren, yr anws, y laryncs a’r groth.  

Mae cam y canser ar adeg diagnosis yn parhau'n bwysig o ran penderfynu canlyniadau hirdymor. Mae goroesi yn lleihau wrth i gam a diagnosis ddatblygu, er enghraifft; mae 87 y cant yn goroesi canser y colon a'r rhefr am flwyddyn pan roddir diagnosis ohono ar gam 3. Mae'r ffigur hwn yn mwy na haneru i 41 y cant os rhoddir diagnosis ohono ar gam 4. 

Er bod y gwelliannau diweddar o ran goroesi canser yn galonogol, mae i ba raddau y bydd pandemig COVID-19 yn effeithio ar oroesi canser yn parhau'n anhysbys. Mae'r dadansoddiad a gyhoeddwyd heddiw yn defnyddio tablau bywyd a gyhoeddwyd ONS nad ydynt yn rhoi cyfrif llawn am newidiadau i farwolaeth gefndir oherwydd pandemig Covid. Mae ymchwil bellach yn mynd rhagddi i ymchwilio i sut y gall canfod a thrin canser fod wedi newid o ganlyniad i hyn ac i ddeall hyn.  

Meddai Dr Giles Greene, Pennaeth Ymchwil Canser y Boblogaeth yn WCISU:

“Rydym wedi gwneud gwaith ymchwil ar y cyd â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Queens Belfast a Phrifysgol Rhydychen. Rydym yn archwilio sut y mae'r ymateb i bandemig y Coronafeirws digynsail wedi effeithio ar wasanaethau canser ac a yw'r ymateb wedi effeithio ar anghydraddoldebau iechyd hirsefydlog i roi gwell dealltwriaeth i ni o sut y mae'r pandemig wedi effeithio ar gyfraddau goroesi canser cyffredinol.”