Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad ar gyfraddau brechu HPV yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 23 Ionawr 2023

Meddai Dr Chris Johnson, Pennaeth Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Yng Nghymru, mae canran y rhai sy'n cael y dos cyntaf hanfodol o'r brechlyn HPV erbyn blwyddyn ysgol 10 yn 2021-22 yn uchel, sef 83.1 y cant, ac mae'n 72.7 y cant ar gyfer yr ail ddos."  

“Mae hyn oherwydd ymdrechion sylweddol gan ein timau brechu, ar ôl i bandemig Covid effeithio ar ganran y rhai a frechwyd yn y grŵp oedran hwn.

“Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod lle i wella, a byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i wneud mwy i hyrwyddo'r brechiad ac annog pobl i fanteisio ar y brechlyn ledled Cymru.

“Mae strategaeth Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer dileu canser ceg y groth yn nodi, er mwyn dileu canser ceg y groth mewn merched sydd â HPV, dylai brechu fod ar 90 y cant erbyn 15 oed.

“Gall merched a bechgyn* hyd at 25 oed nad ydynt wedi cael eu brechiad HPV ddal i fyny drwy gysylltu â'u meddyg teulu a threfnu brechiad.”

Mae data sy'n ymwneud â chanran y rhai sy'n cael y brechiad HPV ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

*Dim ond i fechgyn a anwyd ar ôl 1 Medi 2006