Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth newydd i rieni ar Strep A wrth i GIG 111 Cymru gael llif o alwyr pryderus.

Cyhoeddwyd: 13 Rhagfyr 2022

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio offeryn gwirio symptomau newydd er mwyn helpu rhieni i nodi arwyddion Strep A. Y gobaith yw y bydd yn helpu rhieni i benderfynu pryd i drin eu plentyn gartref a phryd mae'n briodol gofyn am gyngor meddygol.

Mae'n dilyn cynnydd yn nifer y galwadau i GIG 111 Cymru y penwythnos diwethaf. Cafwyd dros 18 mil o alwadau – mwy na dwbl y galwadau a gafwyd ar yr un penwythnos y llynedd. Roedd cyfran sylweddol o'r rhain gan rieni plant 12 oed ac iau ac oddi wrth y rhai a oedd yn poeni am ddolur gwddf a phroblemau gyda’r gwddf.

Mae'r gwiriwr symptomau newydd ar ffurf goleuadau traffig sy'n dangos i rieni pryd y mae'n ddiogel trin plentyn gartref ac ar ba gam y dylent ystyried ffonio GIG 111 Cymru neu eu meddyg teulu. Y gobaith yw y bydd yn helpu rhieni i deimlo'n fwy hyderus ynghylch pryd y mae angen iddynt ofyn am gymorth meddygol.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa rhieni bod achosion o haint streptococol grŵp A ymledol (iGAS) yn parhau'n brin yng Nghymru, a bod gan blant risg isel iawn o ddal y clefyd. Erbyn heddiw, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cael ei hysbysu am lai na phum marwolaeth mewn plant o dan 15 oed y cafodd iGAS ei ganfod ynddynt ers 1 Medi 2022. Oherwydd y risg o adnabod, ni fydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cadarnhau nifer y marwolaethau sy'n is na phump.

Mae symptomau annwyd a thebyg i'r ffliw yn gyffredin iawn ar yr adeg hon o'r flwyddyn, yn enwedig mewn plant.  Os oes gan blentyn ddolur gwddf neu gur pen/pen tost, bydd gan y rhan fwyaf feirws tymhorol, ac nid oes angen cysylltu â'r meddyg – dim ond eu trin gartref drwy sicrhau bod y plentyn yn yfed digon, a'i drin â pharasetamol.

Os bydd plentyn yn datblygu twymyn, cyfog neu chwydu, neu frech binc-goch fân sy'n teimlo fel papur tywod i'w chyffwrdd, gall fod yn arwydd o'r dwymyn goch.  Os felly, cysylltwch â'n meddyg teulu neu GIG 111 Cymru am gyngor.  Mae'r dwymyn goch fel arfer yn salwch ysgafn a bydd y rhan fwyaf o blant yn gwella ohono heb gymhlethdodau, yn enwedig os yw'r cyflwr yn cael ei drin yn iawn gyda gwrthfiotigau.

Meddai Dr Graham Brown, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Rydym yn deall bod rhieni yn debygol o boeni am yr adroddiadau y maent yn eu gweld mewn perthynas ag achosion cynyddol o'r dwymyn goch ac rydym am eu sicrhau ei fod yn dal yn salwch ysgafn fel arfer y bydd y rhan fwyaf o blant yn gwella ohono heb gymhlethdodau, yn enwedig os yw'r cyflwr yn cael ei drin yn iawn gyda gwrthfiotigau.

"Mewn achosion prin iawn, gall haint streptococol grŵp A achosi iGAS, sef cymhlethdod prin sydd fel arfer yn effeithio ar lai nag 20 o blant yng Nghymru bob blwyddyn.  Er bod iGAS yn gyflwr sy'n peri pryder, bydd y mwyafrif o'r plant hyn yn gwella gyda thriniaeth briodol.

"Y peth gorau y gall rhieni ei wneud i amddiffyn eu plant yw defnyddio'r offeryn gwirio symptomau goleuadau traffig a dilyn y cyngor priodol.  Mae hefyd yn bwysig sicrhau bod eu plant yn cael eu brechlyn ffliw eleni oherwydd gall dal ffliw gynyddu'r siawns o fynd yn ddifrifol wael gyda heintiau eilaidd fel Strep A.”

Ychwanegodd Liam Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd a Nyrsio ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, sy'n darparu gwasanaeth GIG 111 Cymru:

“Mae ein gwasanaeth GIG 111 Cymru wedi gweld ei benwythnos prysuraf erioed gyda nifer enfawr o alwadau gan rieni a gofalwyr yn poeni am Strep A.

“Yn anffodus, mae wedi golygu bod llawer o bobl wedi gorfod aros amser hir i'w galwad gael ei hateb, neu i gael galwad glinigol yn ôl, a hoffem ymddiheuro i bawb sydd wedi gorfod profi hyn ac a oedd yn pryderu.

“Mae'n ddealladwy bod rhieni yn ofalus pan fydd eu plentyn yn sâl. Mae plant fel arfer yn profi amrywiaeth eang o fân heintiau yn ystod y gaeaf a gellir ymdrin â'r rhan fwyaf o'r rhain yn ddiogel gartref gan rieni a gofalwyr.

“Os yw rhieni neu ofalwyr yn poeni am Strep A, y peth gorau y gallant ei wneud yw darparu'r gofal y byddent fel arfer yn ei ddarparu i blentyn â symptomau annwyd a thebyg i'r ffliw, ac i ymgyfarwyddo â symptomau'r dwymyn goch ac iGAS fel rhagofal."

Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi diweddariadau wythnosol am iGAS ar ein gwefan bob dydd Mawrth.