Neidio i'r prif gynnwy

Cyfathrebu sy'n ystyriol o ymddygiad: Offeryn

Cyhoeddwyd: 20 Mawrth

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi offeryn ymarferol newydd sy'n rhoi manylion am sut y gall mynd ati i ddefnyddio gwyddor ymddygiad i ddeall ymddygiad pobl yn well arwain at gyfathrebu mwy effeithiol.

Meddai Alice Cline, Uwch-wyddonydd Ymddygiadol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae cyfathrebu sy'n cael effaith yn gydran hanfodol o ddatblygu polisi ac ymyriad. Mae cynllunio a darparu cyfathrebu'r sector cyhoeddus gan ddefnyddio technegau gwyddor ymddygiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn golygu y gallwn gael yr hyn rydym yn anelu ato'n amlach.

 “Drwy ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o sut a pham mae unigolion a phoblogaethau'n ymateb i amgylchiadau, gallwn gael mwy o effaith drwy fwy o gynllunio a chyflawni sydd wedi'i deilwra ac sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

“Drwy gydol y canllaw, rydym yn rhannu technegau a dulliau gwyddor ymddygiad, ac yn tywys y defnyddiwr drwy broses cam wrth gam gan ddefnyddio dull ‘SCALE’, er mwyn helpu i gryfhau eu cyfathrebu.”

Mae ‘Datblygu Cyfathrebu sy'n ystyriol o Ymddygiad’ ar gyfer unrhyw un sydd angen dylanwadu ar ymddygiad drwy gyfathrebu fel llythyrau, fideos, taflenni neu bosteri ac mae'n offeryn byr, ‘bachu a mynd’, hawdd ei ddefnyddio, ymarferol. Mae'n tywys y defnyddiwr drwy ffeil PDF y gellir ei golygu, gan roi manylion ynghylch sut mae bod yn benodol, ystyried rhwystrau a hwyluswyr newid, gosod eich cynnwys ymgyrch, cymryd amser i gynllunio trefn eich cyfathrebu a chynllunio gwerthuso, i gyd yn creu ymgyrch fwy effeithiol.