Neidio i'r prif gynnwy

Annog rhieni a phobl ifanc i ddefnyddio ffynonellau y gellir ymddiried ynddynt i gael gwybodaeth am frechlynnau

Cyhoeddwyd: 6 Gorffennaf 2022

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni a phobl ifanc i beidio â dibynnu'n llwyr ar y cyfryngau cymdeithasol i gael gwybodaeth am frechlynnau ac i chwilio am ffynonellau y gellir ymddiried ynddynt, er mwyn sicrhau bod ganddynt yr holl ffeithiau cyfredol, cywir ynghylch pam mae brechlynnau'n helpu i achub bywydau.  

Byddai ffynonellau dibynadwy yn cynnwys gwefannau GIG Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a byrddau iechyd, deunyddiau argraffedig fel taflenni i gleifion gan feddygon teulu a lleoliadau ysbyty a gweithwyr iechyd proffesiynol eu hunain.  

Daw'r alwad i weithredu ar ôl i BMG gynnal astudiaeth ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru, a drafododd agweddau, canfyddiadau ac ymwybyddiaeth o frechlynnau'r Coronafeirws a ffliw ymhlith pobl ifanc 11 i 25 oed a rhieni'r rhai 11 i 16 oed.  

Canfuwyd mai'r rhyngrwyd a ffynonellau sy'n ymwneud â darparwyr gofal iechyd – fel gwefannau, posteri a thaflenni, oedd y rhai ddefnyddir amlaf gan rieni a phobl ifanc. Roedd y cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio'n fwy cyffredin gan bobl ifanc na rhieni i gael gwybod am frechlynnau'r Coronafeirws a ffliw.  

Mae dadansoddiad pellach yn dangos bod gwybodaeth a geir drwy'r cyfryngau cymdeithasol yn debygol o gyfleu cymysgedd o negeseuon o blaid ac yn erbyn brechu ymhlith pobl ifanc ac yn fwy tebygol o gyfleu negeseuon gwrth-frechu i rieni - gan ei gwneud yn hanfodol bod y ddwy garfan yn chwilio am ffynonellau y gellir ymddiried ynddynt i sicrhau bod ganddynt y wybodaeth gywir.  

Meddai Dr Chris Johnson, Pennaeth Dros Dro y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:  

“Gyda chymaint o gamwybodaeth a thwyllwybodaeth ar gael, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol, rydym yn annog pawb i gael eu gwybodaeth am frechlynnau o ffynonellau gwybodaeth dibynadwy y gellir ymddiried ynddynt, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, fel gwefannau'r Llywodraeth, y GIG neu Iechyd Cyhoeddus Cymru, eu meddyg teulu neu eu bwrdd iechyd. 

“Mae pobl ifanc yn cael eu llethu â gormod o wybodaeth, ac mae'r wybodaeth honno yn aml yn gwrthdaro ac yn gamarweiniol ar y cyfryngau cymdeithasol ac rydym am sicrhau eu bod yn gwybod bod y wybodaeth gywir ar gael iddynt. Rydym yn ymrwymedig i ymgysylltu â phobl  ifanc er mwyn deall sut y gallwn roi'r wybodaeth y maent yn teimlo sydd ei hangen arnynt mewn ffordd y maent am ei chael a bod gwaith ymchwil fel hyn yn hanfodol i ni ddeall sut y gallwn wneud hyn yn well. 

“Dangosodd yr astudiaeth newydd hon hefyd fod amddiffyn eraill yn ysgogydd mawr i bobl ifanc ac rydym yn ddiolchgar iawn i'r rhai sy'n meddwl felly. Mae'r wyddoniaeth yn dangos i ni mai cael eich brechu rhag y Coronafeirws a ffliw yw'r ffordd fwyaf effeithiol o amddiffyn eich hun ac eraill mewn cymdeithas rhag mynd yn sâl neu'n ddifrifol wael o'r feirysau hyn.  

“Fodd bynnag, waeth beth fo'u hoedran, gall unrhyw un fynd yn ddifrifol wael gyda ffliw neu Covid-19 neu ddioddef o Covid hir ac rydym am amddiffyn pobl ifanc rhag hyn. Mae brechu yn achub bywydau. Dyma'r peth pwysicaf y gallwn ei wneud i amddiffyn ein hunain ac eraill rhag salwch. Mae brechlynnau yn atal hyd at dair miliwn o farwolaethau ledled y byd bob blwyddyn.” 

Mae canfyddiadau allweddol yr astudiaeth yn cynnwys:  

  • Mae 72 y cant o bobl ifanc wedi cael brechlyn Coronafeirws  
  • Mae 49 y cant o bobl ifanc wedi cael brechlyn rhag y ffliw. Amddiffyn eu hunain ac eraill oedd y cymhelliant mwyaf ar gyfer manteisio ar frechiad o ran y brechlynnau Coronafeirws a ffliw 
  • Gofal iechyd a'r ysgol yw'r ffynhonnell wybodaeth y gellir ymddiried ynddi fwyaf ar gyfer y ddau grŵp 
  • Ar ôl hyn, y cyfryngau cymdeithasol, y teulu a'r teledu yw lle mae pobl ifanc yn cael eu gwybodaeth am frechlynnau  
  • Mae 60 y cant yn teimlo bod ganddynt ddigon o wybodaeth am frechlynnau neu'n gwybod ble i ddod o hyd i'r wybodaeth honno 
  • Mae 60 y cant yn ymddiried yn Iechyd Cyhoeddus Cymru fel ffynhonnell wybodaeth y gellir ymddiried ynddi 
  • Mae 20 y cant wedi dod ar draws gwybodaeth nad yw o blaid brechlynnau 
  • Mae 60 y cant yn ymddiried yn y brechlynnau ac yn credu eu bod yn llai o risg na'r clefydau eu hunain 
  • Y prif reswm a roddodd ymatebwyr i'r rheswm pam y gallent fod yn betrusgar ynghylch cael y brechlyn Coronafeirws oedd ansicrwydd yn y brechlynnau a sut y cawsant eu profi 
  • Y prif reswm a roddodd ymatebwyr dros beidio â chael y brechlyn ffliw oedd ymddiried yn eu system imiwnedd eu hunain i roi amddiffyniad 

Mae ‘Agweddau tuag at Imiwneiddio COVID-19 a Ffliw ymhlith Pobl Ifanc a Rhieni’ yn cynnwys canfyddiadau o raglen o gasglu data meintiol ac ansoddol sy'n trafod agweddau, canfyddiadau ac ymwybyddiaeth o'r Coronafeirws a ffliw ymhlith pobl ifanc 11 i 25 oed a rhieni pobl ifanc 11 i 16 oed. Mae'r canfyddiadau a gyflwynwyd yn deillio o'r dadansoddiad o arolwg meintiol gyda 230 o rieni a 457 o bobl yn ogystal â chwe grŵp ffocws ansoddol gyda rhieni a phobl ifanc. Cynhaliwyd yr astudiaeth gan BMG ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2022 a bydd ei chanfyddiadau yn helpu i lywio'r gwaith o gynllunio'r rhaglen frechu genedlaethol yng Nghymru. 

I gael rhagor o wybodaeth am frechlynnau'r Coronafeirws a ffliw: Imiwneiddio a Brechlynnau - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)