Neidio i'r prif gynnwy

Annog brechu rhag y pas wrth i achosion godi'n gyflym yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 24 Ionawr 2024

Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yng Nghymru yn annog pob menyw feichiog a rhieni babanod a phlant ifanc i sicrhau eu bod wedi cael eu brechiadau pertwsis (y pas) wrth i achosion yng Nghymru ddangos cynnydd cyflym dros yr wythnosau diwethaf.

Mae'r pas yn haint o'r ysgyfaint a'r tiwbiau anadlu a achosir gan facteria pertwsis Bordetella. Mae'n lledaenu'n hawdd iawn ac weithiau gall achosi problemau difrifol, yn enwedig mewn babanod o dan flwydd oed.

Gwelir achosion cynyddol o haint y pas bob 3-4 blynedd ac yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae hysbysiadau o'r pas wedi codi'n sydyn. Yn dilyn llai o gylchrediad yn 2020-2022, mae'r hysbysiadau presennol ar lefelau na welwyd ers 2012 a 2015. Nid yw'r achosion a gadarnhawyd gan labordai wedi codi eto yn unol â hysbysiadau ond maent yn debygol o gynyddu wrth i ganlyniadau profion gael eu hadrodd.

Mae'r pas yn glefyd y gellir ei atal drwy frechu. Mae'r brechlyn pertwsis wedi'i gynnwys yn y ‘brechlyn 6 mewn 1’ a roddir i fabanod yn wyth, 12 ac 16 wythnos.

Yn 2013, sefydlwyd rhaglen frechu hefyd i gynnig brechu pertwsis i bob mam feichiog yn y DU o wythnos 16 - 32 o feichiogrwydd. Mae hyn er mwyn helpu i amddiffyn eu babanod newydd-anedig rhag y pas nes eu bod yn ddigon hen i gael eu brechlyn ‘6 mewn 1’ yn gyntaf pan fyddant yn 8 wythnos oed.

Gan fod imiwnedd rhag pertwsis yn pylu dros amser, mae dos atgyfnerthu yn cael ei roi hefyd yn y pigiadau atgyfnerthu cyn oed ysgol (a roddir fel arfer pan fyddant yn 3 oed 4 mis) gyda'r nod o leihau'r pas mewn grwpiau oedran hŷn sy'n cael ei drosglwyddo i fabanod heb eu brechu neu wedi'u brechu'n rhannol.

Mae'r cyfraddau brechu 6 mewn 1 yng Nghymru yn parhau'n uchel, ond yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae'r cyfraddau brechu yn ystod beichiogrwydd wedi gostwng o dros 80% i 70%.

Dr Christopher Johnson, Epidemiolegydd Ymgynghorol a Phennaeth Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n esbonio, “Rydym fel arfer yn gweld cyfraddau uchel o'r pas yn cyrraedd uchafbwynt bob tair i bedair blynedd, a chyda'r cyfraddau wedi'u hatal yn ystod cyfnodau clo'r pandemig rydym yn naturiol yn gweld adfywiad eleni.

“Mae'r pas yn heintus iawn ac mae'n cael ei ledaenu drwy anadlu defnynnau bach yn yr aer o beswch a thisian pobl eraill. Babanod o dan chwe mis oed sy'n wynebu'r risg fwyaf. Gall fod yn ddifrifol iawn ac arwain at niwmonia a niwed parhaol i'r ymennydd. Mae babanod ifanc sydd â'r pas yn wynebu risg o farw o'r clefyd.

“Mae'r amddiffyniad a gewch o'r brechlyn pertwsis yn ystod beichiogrwydd yn trosglwyddo i'ch babi heb ei eni ac yn amddiffyn y babi yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd, tan iddo gael ei imiwneiddio rheolaidd cyntaf pan fydd yn ddeufis oed. Mae'r brechlyn hefyd yn eich amddiffyn rhag cael y pas ac yn lleihau'r risg y byddwch yn ei drosglwyddo i'ch babi.

“Byddem yn annog pob menyw feichiog a rhieni babanod a phlant ifanc i sicrhau eu bod yn manteisio ar eu cynnig brechu pan gaiff ei roi, neu i ofyn i'w meddyg teulu, bydwraig neu ymwelydd iechyd os ydynt yn credu nad ydynt efallai wedi ei gael.”

I gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn pertwsis yn ystod beichiogrwydd.