Neidio i'r prif gynnwy

Ai torri allyriadau carbon yw'r adduned Blwyddyn Newydd orau y gallem i gyd ei gwneud?

Cyhoeddwyd: 10 Ionawr 2023

Newid hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf sylweddol i iechyd a llesiant dynol yn ogystal ag iechyd y blaned.

Mae swm y carbon deuocsid (CO2) yn yr atmosffer bellach yn uwch nag y bu erioed yn hanes y ddynoliaeth. 

Prif achos newid hinsawdd yw gweithgarwch dynol. 

Ann Jones, Prif Ymarferydd Datblygu Cynaliadwy ac Iechyd , Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n esbonio pam mai ymrwymo i dorri carbon allai fod yr adduned Blwyddyn Newydd orau y gallech ei gwneud eleni. 

“Blwyddyn Newydd, delwedd newydd i mi…cadw'n heini, colli pwysau, edrych ar ôl fy hun ychydig bach yn well. Dyna'r hyn dwi'n ei ddweud wrth fy hun bob blwyddyn ac a ydw i'n llwyddo? Yn anffodus, nac ydw.  Gyda thri o blant ifanc a chi bach erbyn hyn, heb anghofio gwaith, gwaith tŷ, gŵr a bywyd yn gyffredinol, prin fod gen i amser i disian y dyddiau hyn, felly efallai fod angen i mi fod yn fwy caredig i mi fy hun (dyna mae fy ffrindiau'n dweud wrthyf). 

Mae hyn wedi fy ysbrydoli i gael Pecyn Adduned Blwyddyn Newydd 2023. Mae'n becyn llesiant. Rwy'n bwriadu cwrdd â ffrindiau a mynd â'r ci am dro yn amlach ar draethau hyfryd Ynys Môn sydd o'm cwmpas, bwyta deiet iachach a chreu mwy o amser i mi. Rwyf hefyd am greu arferion da yn fy mhlant fy hun a gwneud iddynt werthfawrogi'r pethau bychain mewn bywyd.   

Rwy'n angerddol am sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y dechrau gorau mewn bywyd ac rwy'n ffodus iawn i weithio yn y Ganolfan Iechyd a Chynaliadwyedd, yn Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n ceisio gwneud hynny.  Ers ymuno â'r Ganolfan, rwyf wedi cael fy syfrdanu gan yr angerdd a'r adnoddau eithriadol sydd wedi'u datblygu i'n helpu i ofalu amdanom ein hunain, ein planed a chenedlaethau'r dyfodol a bod yn fwy cynaliadwy ar yr un pryd.  

Fel y gwyddom, mae newid hinsawdd yn argyfwng iechyd cyhoeddus ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyfrannu at Sero-net erbyn 2030.  Mae ystyried yr amgylchedd naturiol ac iechyd y blaned a phobl ym mhopeth a wnawn yn bwysicach nawr nag erioed.  

Er mwyn cefnogi cynllun Datgarboneiddio Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r Ganolfan wedi cyflwyno ffeithlun i'n helpu i gyd i feddwl am y pethau bychain y gallwn eu newid sydd, gyda'i gilydd yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.  Ymhlith rhai o'r pethau rwy'n eu gwneud yw troi'r gwres i lawr ac ail-lenwi fy mhoteli siampŵ a sebon llyfnu. Rwyf wedi prynu ŵy golchi dillad Eco a newid i oleuadau LED, ac mae hyn i gyd yn arbed arian i mi nawr.  Edrychwch ar y ffeithlun i gael rhai syniadau ar gyfer eich addunedau cynaliadwy ar gyfer y Flwyddyn Newydd gartref ac yn y gwaith. 

Mae Cymru yn gweithredu heddiw ar gyfer gwell yfory gyda'i Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol unigryw ac sy'n arwain y byd. Rhannwch sut rydych yn gweithredu heddiw ar gyfer gwell yfory – publichealth.sustainability@wales.nhs.uk

Pob lwc gyda’ch Addunedau Cynaliadwy Blwyddyn Newydd eich hun a gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”