Neidio i'r prif gynnwy

4. Gweithio gyda ni

Rydym yn croesawu ymgysylltiad o bob rhan o'r gymuned ymchwil a gwerthuso yng Nghymru, y DU a thu hwnt i fynd i'r afael â'r cwestiynau ymchwil uchod. Mae hyn yn ymestyn i gyllidwyr, sefydliadau academaidd, y trydydd sector, y sector cyhoeddus ac ymchwilwyr y diwydiant i'n galluogi i fanteisio ar gryfderau ac arbenigedd ar draws sectorau a sefydliadau er mwyn mynd i'r afael â'r meysydd sydd o ddiddordeb i ni. Hoffem drafod cyfleoedd i gydweithio ar y diddordebau a nodir yma, neu mewn meysydd eraill sydd y tu hwnt i'r rhai a amlinellir uchod. 

Gellir cysylltu â ni drwy Swyddfa Ymchwil a Datblygu ICC ICC.Ymchwil@wales.nhs.uk sydd wrth law i ganfod arbenigwyr yn y meysydd hyn ar draws ICC er mwyn dechrau’r sgwrs.