Neidio i'r prif gynnwy

3.4 Blaenoriaeth 4: Cefnogi Datblygu System Iechyd a Gofal Gynaliadwy

Mae gan ICC rôl genedlaethol, gan weithio mewn partneriaeth â GIG Cymru a chymunedau i gydlynu gweithgareddau iechyd cyhoeddus. Mae ymchwil a gwerthuso yn bwysig yn y maes hwn er mwyn darparu modelau cynaliadwy o ofal iechyd i leihau'r baich ar y system iechyd a helpu pobl i fyw bywydau iachach. Mae angen gwella ansawdd data a rhannu data yn y maes hwn hefyd, gan gynnwys data ar anghydraddoldebau a nodweddion gwarchodedig.

Cwestiynau Ymchwil

Mynediad i Wasanaethau Gofal Iechyd

1.    Sut y mae hygyrchedd gwasanaethau gofal iechyd, fel Ymarfer Cyffredinol, yn dylanwadu ar ddiagnosis, triniaeth, ac ystyriaethau’r gweithlu?
2.    Beth yw cost-effeithiolrwydd gwaith atal eilaidd a ddarperir drwy leoliadau gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd?
3.    Sut y mae salwch ac absenoldeb oherwydd salwch ymhlith gweithlu'r GIG yn effeithio ar argaeledd a chostau gwasanaethau'r GIG?
4.    Pa ffactorau sy'n cyfrannu at oedi cyn ceisio gofal brys mewn ardaloedd â lefelau uchel o amddifadedd?

Strategaethau Atal ac Ymyrraeth Gynnar

1.    Pa strategaethau sy'n effeithiol yn y meysydd atal ac ymyrraeth gynnar i atal unigolion rhag mynd i ofal sylfaenol ac eilaidd?

2.    Pa ymyriadau cyn-sefydlogi sydd wedi bod yn effeithiol i oedolion ar restrau aros am lawdriniaeth ddewisol, a pha nodweddion neu elfennau penodol sy'n hanfodol i lwyddiant yr ymyriadau hyn?

3.    Sut y mae baich gordewdra yn effeithio ar ddefnyddio gwasanaethau iechyd sylfaenol ac eilaidd a darparu gofal? 

4.    Sut y gellir defnyddio argaeledd cynyddol data genomeg i gynllunio a thargedu gwasanaethau yn well tuag at gymunedau ac unigolion? 

5.    Pa gyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio gwybodaeth am genomeg y boblogaeth i gynllunio a thargedu mesurau yn well i atal neu ymyrryd yn gynnar er mwyn creu gwell canlyniadau mewn clefydau cronig?

Rôl y GIG fel Sefydliad Angori

1.    I ba raddau y mae arferion caffael sefydliadau'r GIG yng Nghymru yn arwain at fanteision i iechyd a llesiant (gan gynnwys cyflogaeth) ymysg y boblogaeth leol?

2.    Pa bolisïau sy'n llwyddiannus yn y GIG o ran lleihau ei effaith amgylcheddol?