Neidio i'r prif gynnwy

3.3 Blaenoriaeth 3: Hybu Ymddygiad Iach

Caiff ymddygiad sy'n gysylltiedig ag iechyd pobl ei ddylanwadu gan ystod o ffactorau, gan gynnwys eu hamgylchedd cymdeithasol, economaidd a chorfforol a'u llesiant meddyliol. Mae gan ICC rôl allweddol i'w chwarae mewn perthynas â chydlynu ymchwil ar draws y system yn y maes hwn. Mae gennym rôl hefyd o ran gwerthuso polisïau neu raglenni i ganfod eu heffaith ar hyrwyddo ymddygiad iechyd. Ar draws holl system iechyd y boblogaeth, mae angen casglu data cadarn fel mater o drefn a galluogi data i gael eu cysylltu er mwyn monitro effaith ymyriadau iechyd sy'n hyrwyddo ymddygiad iach.

Cwestiynau Ymchwil

Ysmygu a Fepio 

1.    Pa strategaethau (gan gynnwys marchnata, brandio, arloesi cynnyrch a phrisio) y mae’r diwydiant fepio yn eu defnyddio i hyrwyddo dechrau fepio yng Nghymru a'r DU?

2.    Beth yw'r berthynas rhwng dechrau ysmygu a fepio, rhoi'r gorau i ysmygu a fepio a dechrau eto a sut y mae hyn yn amrywio yn ôl oedran, rhywedd a ffactorau cymdeithasol?

3.    Pa ymyriadau sydd fwyaf tebygol o fod yn effeithiol i'r rhai sy'n fepio ac yn ysmygu ac sy'n dymuno (a) rhoi'r gorau i ysmygu yn unig (b) rhoi'r gorau i'r ddau?

Deiet a Gordewdra

1.    Pa effeithiau sy'n gysylltiedig â bwyta bwydydd tecawê a bwyd a gaiff ei ddanfon i’r cwsmer ar batrymau deietegol a chyffredinrwydd gordewdra?

2.    A yw iechyd geneuol gwael yn ystod plentyndod cynnar/y glasoed yn rhagfynegydd ar gyfer gordewdra pan yn oedolyn?

Ymarfer Corff

1.    Pa ddulliau gweithredu/ymyriadau yn yr ysgol sy'n effeithiol o ran gwella a chynnal gweithgaredd corfforol ymysg plant, yn enwedig mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd (yn ôl statws economaidd-gymdeithasol, rhyw, ethnigrwydd, ardaloedd gwledig/trefol, oedran ac anabledd)?

2.    Sut y mae ymyriadau amgylcheddol (e.e. strydoedd ysgol, terfynau cyflymder 20mya) yn dylanwadu ar newid ymddygiad yn y maes teithio llesol?

3.    Beth yw’r ffordd fwyaf effeithiol o fesur gweithgaredd corfforol ar lefel y boblogaeth, at ddibenion gwyliadwriaeth, monitro, cynllunio a gwerthuso mentrau?

Gamblo

1.    Beth yw effaith canlyniadau triniaethau gwahanol ar gyfer gamblo a beth sy'n effeithiol ar draws gwahanol boblogaethau? 

2.    Pa ymyriadau sydd wedi bod yn effeithiol o ran atal pobl ifanc rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau gamblo?

Alcohol a Chyffuriau

1.    Pa newidiadau sydd wedi digwydd yn ymddygiad pobl ifanc o ran yfed alcohol, defnyddio cyffuriau a gweithgareddau bywyd nos mewn ymateb i COVID-19?