Mae penderfynyddion ehangach iechyd yn cyfeirio at ystod o ffactorau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol sy'n dylanwadu ar iechyd a llesiant unigolyn y tu hwnt i'r gwasanaethau gofal iechyd a ddefnyddir. Mae'r penderfynyddion hyn yn chwarae rhan hanfodol o ran dylanwadu ar ganlyniadau iechyd cyffredinol ac ansawdd bywyd unigolyn. Mae deall y penderfynyddion hyn, a mynd i'r afael â hwy yn hanfodol er mwyn creu cymunedau a phoblogaethau iachach. Ymysg y penderfynyddion allweddol mae: addysg a sgiliau da; gwaith ac iechyd; digon o arian ac adnoddau; tai safonol, hygyrch, fforddiadwy a thrafnidiaeth gynaliadwy wedi'i chynllunio'n dda.
Addysg a Sgiliau Da
1. Beth yw effaith polisïau gofal plant y blynyddoedd cynnar ar iechyd, llesiant ac anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru?
2. Beth yw dylanwad y bwlch cyrhaeddiad mewn addysg rhwng gwahanol grwpiau economaidd-gymdeithasol ar anghydraddoldebau iechyd?
Gwaith ac Iechyd
1. I ba raddau y mae poblogaeth oedran gweithio Cymru yn cymryd rhan mewn gwaith teg (fel y'i diffinnir gan nodweddion gwaith teg) yn ôl sector diwydiant, maint busnes, daearyddiaeth a demograffeg?
2. Pa sectorau diwydiant a'u harferion penodol yng Nghymru sy'n cael y dylanwad mwyaf ar anghydraddoldebau iechyd sy’n ehangu drwy ddarparu gwaith teg e.e. cyflog, mathau o gontractau a lefelau risg galwedigaethol?
3. Beth yw effaith polisïau ac arferion rheoli absenoldeb salwch gan sefydliadau a rheolwyr llinell ar atal neu leihau hyd absenoldebau salwch hirdymor, ac atal pobl rhag gadael gwaith oherwydd afiechyd?
Digon o Arian ac Adnoddau
1. Sut y mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar wahanol grwpiau demograffig a sut y mae'r gwahaniaethau hyn yn cyfrannu at ganlyniadau iechyd gwahanol ymysg y poblogaethau hyn?
2. Sut y mae ymyriadau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol sydd wedi’u cynllunio i ymateb i’r argyfwng costau byw yn effeithio ar iechyd, llesiant ac anghydraddoldebau iechyd?
Tai Hygyrch a Fforddiadwy o Safon
1. Beth yw safon, argaeledd, fforddiadwyedd a sefydlogrwydd llety rhent, a sut y mae hyn yn effeithio ar iechyd a llesiant meddwl unigolion a grwpiau demograffig gwahanol?
Yr amgylchedd adeiledig a naturiol
1. Beth yw'r rhwystrau rhag gweithredu polisi cynllunio iach yng Nghymru?
Trafnidiaeth a Theithio
1. Sut y mae'r system drafnidiaeth yn dylanwadu ar gael gafael ar ofal iechyd, rhyngweithio cymdeithasol, a chyfleoedd mewn addysg a chyflogaeth i unigolion sy'n byw mewn tlodi, a beth yw'r effeithiau amlochrog ar eu llesiant cyffredinol?
Masnach ac Iechyd
1. Sut y mae'r gwahaniaethau iechyd a llesiant y disgwylir iddynt ddeillio o gytundebau masnach rhyngwladol wedi'u dosbarthu ymhlith gwahanol grwpiau demograffig, yn enwedig plant, oedolion ifanc, poblogaethau mudol a ffoaduriaid, a thrigolion ardaloedd gwledig neu arfordirol?
2. Pa mor effeithiol yw'r dulliau presennol ar gyfer cynnwys rhanddeiliaid nad ydynt yn fusnesau mewn trafodaethau sy'n ymwneud â pholisïau masnach rhyngwladol yng Nghymru a'r DU?
Penderfynyddion Masnachol Iechyd
1. Beth yw dylanwad penderfynyddion masnachol iechyd ar lesiant unigolyn, a pha ddangosyddion mesuradwy y gellir eu defnyddio i asesu'r effeithiau hyn ar lefel unigol?
2. Pa strategaethau sydd fwyaf effeithiol o ran dylanwadu ar benderfynyddion masnachol iechyd?