Mae'r cyhoeddiad hwn yn nodi Meysydd Ymchwil a Gwerthuso o Ddiddordeb i Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) sy'n rhestru'r cwestiynau ymchwil y mae gennym ddiddordeb mewn dysgu rhagor amdanynt. Rydym wedi llunio a chyhoeddi'r rhestr hon mewn perthynas â'n chwe blaenoriaeth strategol hirdymor, er mwyn galluogi ymchwilwyr, cyllidwyr a chydweithwyr i ddeall ein blaenoriaethau a chanolbwyntio eu hymdrechion er mwyn cael yr effaith fwyaf.
Rydym yn awyddus i drafod ac ymgysylltu â rhanddeiliaid gan gynnwys ymchwilwyr a chyllidwyr i elwa ar ystod eang o gryfderau ac arbenigedd er mwyn mynd i'r afael â'r cwestiynau hyn. Gellir cysylltu â ni drwy Swyddfa Ymchwil a Datblygu ICC ICC.Ymchwil@wales.nhs.uk sydd wrth law i ganfod arbenigwyr mewn meysydd penodol ar draws ICC er mwyn dechrau'r sgwrs.
Mae'r cyhoeddiad hwn yn adeiladu ar Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso ICC (2023-2026) sy'n disgrifio'r ffordd y byddwn yn gweithio i ddatblygu gwaith Ymchwil a Gwerthuso o fewn y sefydliad ac mewn cydweithrediad â phartneriaid. I gael gwybod rhagor am y rhaglenni a'r gwasanaethau arbenigol y mae ICC yn eu darparu, ochr yn ochr â'n harbenigedd a'n blaenoriaethau iechyd cyhoeddus, gweler Ein Cynllun Strategol (2023-2026) a'n Strategaeth Hirdymor.