Mae diogelu oedolion yn ymwneud â diogelu’r rhai sydd mewn perygl o gael eu cam-drin/dioddef niwed (oedolyn mewn perygl) rhag dioddef camdriniaeth neu esgeulustod.
Mae’n cynnwys mesurau i atal camdriniaeth ac i ddiogelu iechyd, llesiant a hawliau dynol pobl, a’u galluogi i fyw heb unrhyw niwed, camdriniaeth nac esgeulustod.
Gall camdriniaeth ddigwydd yn unrhyw le. Gall ddigwydd gartref, mewn cartref preswyl neu nyrsio, mewn ysbyty, mewn addysg uwch, yn y gwaith neu ar y stryd. Gall fod yn fwriadol neu’n anfwriadol.
Mae’r person sy’n gyfrifol am y gamdriniaeth fel arfer yn adnabod y person a gaiff ei gam-drin yn dda. Gallant fod yn:
Os hoffech anfon unrhyw adborth am dudalennau’r Tîm Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru), llenwch ein ffurflen adborth ar-lein.