Mabwysiadu
Yn achos rhai plant sy’n derbyn gofal, nid yw’n briodol trefnu i’w hadsefydlu gyda’r teulu genedigol, ac mae mabwysiadu’n creu cyfle i sicrhau canlyniadau hirdymor gwell.
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2016, cafodd 340 o blant eu mabwysiadu o ofal yng Nghymru. Mae’r Tîm Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru) yn darparu arweinyddiaeth i weithwyr iechyd proffesiynol sy’n gweithio ym maes mabwysiadu.
Mae gan ein Tîm gysylltiadau cryf â Grŵp Meddygol Cymru, Grŵp Nyrsys Plant sy’n Derbyn Gofal Cymru, Rhwydwaith Diogelu Cymru Gyfan y GIG, a’r Grŵp Llywio ar Blant sy’n Derbyn Gofal, ac mae’n cynrychioli’r GIG ar Grŵp Cynghori’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.
Plant sy'n Derbyn Gofal
Mae plant a phobl ifanc sydd yng ngofal yr Awdurdod Lleol, gan gynnwys y rhai sydd â chynllun ar gyfer mabwysiadu, yn grŵp sy’n arbennig o agored i niwed. Mae mwyafrif y plant sy’n mynd i ofal yn gorfod gwneud hynny oherwydd iddynt gael eu hesgeuluso neu eu cam-drin. Ar 31 Mawrth 2016, roedd 5,662 o Blant yn Derbyn Gofal yng Nghymru.
Mae’r Tîm Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru) yn darparu arweinyddiaeth i weithwyr iechyd proffesiynol sy’n gweithio gyda Phlant sy’n Derbyn Gofal. Mae gan ein Tîm gysylltiadau cryf â Grŵp Meddygol Cymru, Grŵp Nyrsys Plant sy’n Derbyn Gofal Cymru, Rhwydwaith Diogelu Cymru Gyfan y GIG, a’r Grŵp Llywio ar Blant sy’n Derbyn Gofal, ac mae’n cynrychioli’r GIG ar Grŵp Llywio Strategol y Fframwaith Maethu.
Plant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches
Mae angen i weithwyr iechyd proffesiynol ym maes Plant sy’n Derbyn Gofal fod yn ymwybodol o’r sefyllfa o ran Cynllun Trosglwyddo’r DU ar gyfer Plant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches, ac o ran plant sy’n ffoaduriaid ac sy’n agored i niwed, a’u teuluoedd, sy’n cael eu hadsefydlu o Syria, y Dwyrain Canol, a Gogledd Affrica, yn ogystal â gwersylloedd mudwyr yn Ewrop.
Bydd y Tîm Diogelu Cenedlaethol, drwy’r Grŵp Llywio ar Blant sy’n Derbyn Gofal, yn datblygu canllawiau ar asesu a diwallu anghenion iechyd y plant hyn a’u cyfeirio at adnoddau defnyddiol. Yn y cyfamser, bydd yr adnoddau a ganlyn yn ddefnyddiol i weithwyr iechyd proffesiynol:
Math o gam-drin rhywiol yw Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant, sy’n digwydd ym mhob lleoliad ledled Cymru. Mae gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd yn gyfrifol am adnabod plant a phobl ifanc a all fod mewn perygl y bydd rhywun yn camfanteisio’n rhywiol arnynt ac am eu hatgyfeirio, ac maent yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynorthwyo pobl ifanc sy’n agored i niwed. O gofio’r goblygiadau i iechyd corfforol a meddyliol rhai o’r plant a’r bobl ifanc y camfanteisiwyd arnynt yn rhywiol, mae Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant yn bryder mawr o ran iechyd y cyhoedd sy’n gofyn am ddull systematig o atal ac ymyrryd ledled GIG Cymru.
Mae canllawiau amlasiantaethol yn disgrifio rôl gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd, a lansiwyd Strategaeth 2016-19 y GIG yng Nghymru ar gyfer Atal Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant yn ddiweddar er mwyn diffinio rôl sefydliadau iechyd ymhellach.
Hyfforddiant:
Child Sexual Exploitation Level 3 Training for Health Professionals (Saesneg yn unig)
Dogfennau:
Ystyr Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (a elwir weithiau’n enwaedu ar fenywod) yw triniaethau sydd â’r bwriad o newid organau cenhedlu benywod, neu achosi anaf iddynt, am resymau anfeddygol. Mae’r arfer yn anghyfreithlon yn y DU o dan Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003 a Deddf Troseddau Difrifol 2015, ac mae’n orfodol i staff yn y GIG roi gwybod i’r Heddlu am bob achos ymysg plant (iau na 18) drwy ffonio 101. Caiff staff eu cynorthwyo yn hyn o beth drwy ddefnyddio Llwybr Cymru Gyfan ar Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod, a nodir isod.
Dogfennau:
Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005, sy’n berthnasol i Gymru a Lloegr, yn darparu fframwaith statudol i bobl na allant wneud penderfyniadau drostynt eu hunain, neu sydd â’r gallu hwnnw ac sydd am baratoi ar gyfer amser yn y dyfodol pan na fyddant â’r gallu hwnnw, o bosibl. Mae’n nodi pwy sy’n gallu gwneud penderfyniadau, ac ym mha sefyllfaoedd, a sut y dylent fynd ati i wneud hynny. Mae’r fframwaith deddfwriaethol a ddarperir gan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 wedi’i ategu gan God Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol (y Cod), sy’n darparu canllawiau a gwybodaeth ynglŷn â’r modd y mae’r Ddeddf yn gweithredu’n ymarferol. Mae grym statudol i’r Cod, sy’n golygu bod categorïau penodol o bobl (gan gynnwys staff gofal iechyd) â dyletswydd gyfreithiol i roi sylw iddo wrth weithio gydag oedolion nad ydynt efallai â’r gallu i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain, ac i ofalu amdanynt.
Mewn rhai achosion, nid oes gan bobl y gallu i gydsynio â thriniaeth neu ofal arbennig y mae eraill yn cydnabod ei fod yn creu lles iddynt, neu a fydd yn eu diogelu rhag niwed. Pan allai’r gofal hwn gynnwys amddifadu pobl sy’n agored i niwed o’u rhyddid, mae trefniadau diogelu ychwanegol wedi’u cyflwyno yn y gyfraith i amddiffyn hawliau’r bobl hynny ac i sicrhau bod y gofal neu’r driniaeth a gânt yn creu’r lles mwyaf iddynt. Cyflwynwyd y trefniadau diogelu rhag colli rhyddid er mwyn darparu fframwaith cyfreithiol ynghylch colli rhyddid. Cawsant eu cyflwyno’n benodol i atal achosion o dorri’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, fel yr un a nodwyd gan ddyfarniad Llys Hawliau Dynol Ewrop yn achos HL yn erbyn y Deyrnas Unedig3 (a elwir yn gyffredin yn ddyfarniad ‘Bournewood’).
Mae effaith problemau iechyd meddwl a’u cysylltiadau â diogelu yn amrywiol ac yn gymhleth. Maent yn cynnwys y materion a ganlyn, ymysg eraill:
Dogfennau:
Elfen o strategaeth wrthderfysgaeth y DU a elwir yn CONTEST yw PREVENT, a nod y strategaeth yw lleihau’r risg i’r DU a’i buddiannau dramor gan derfysgaeth, fel y gall pobl fyw eu bywyd yn rhydd ac yn hyderus. Mae CONTEST wedi’i rannu’n bedair ffrwd waith, sy’n hysbys yn y gymuned wrthderfysgaeth o dan deitl y “pedwar ‘P’”, sef: Atal [Prevent], Dilyn [Pursue]; Diogelu [Protect]; a Pharatoi [Prepare].
Diben PREVENT yw atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth. Mae hyn yn cynnwys gweithredu yn erbyn ideoleg terfysgwyr a herio’r rhai sy’n ei hyrwyddo, gan gefnogi unigolion sy’n arbennig o agored i gael eu radicaleiddio, a gweithio gyda sectorau a sefydliadau lle yr aseswyd bod risg fawr o radicaleiddio. Channel yw enw’r rhaglen atal radicaleiddio.
Gosododd Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 ddyletswydd ar gyrff penodol, y mae’r GIG yn un ohonynt, i roi sylw dyledus wrth gyflawni eu swyddogaethau i’r angen i atal pobl rhag cael eu denu i derfysgaeth. Y brif her i’r sector gofal iechyd yw sicrhau, pan fo arwyddion bod rhywun wedi’i ddenu i derfysgaeth, neu ei fod yn cael ei ddenu i derfysgaeth, fod y gweithiwr gofal iechyd wedi’i hyfforddi i adnabod yr arwyddion hynny’n gywir a’i fod yn gwybod am y cymorth sydd a’r gael a ble i’w gael, gan gynnwys rhaglen Channel, pan fo angen. Mae atal rhywun rhag cael ei ddenu i derfysgaeth i’w gymharu i raddau helaeth â diogelu mewn meysydd eraill, gan gynnwys yng nghyswllt cam-drin plant neu drais domestig.
Bydd Timau Diogelu Lleol yn y Byrddau a’r Ymddiriedolaethau Iechyd yn gallu darparu gwybodaeth leol berthnasol i staff ynglŷn â sut i weithredu pan fo gan staff bryder yn y cyswllt hwn.
Rhif y llinell gymorth wrthderfysgaeth: 0800 789 321
Mae diwygiad 2018 i’r ddogfen Ymateb Gweithdrefnol i Farwolaethau Annisgwyl yn ystod Plentyndod (a gyhoeddwyd yn 2010 ac a ddiwygiwyd am y tro cyntaf yn 2014) yn amlinellu’r safon ofynnol ar gyfer ymateb amlasiantaeth i farwolaeth annisgwyl plentyn neu berson ifanc. Nod PRUDiC yw sicrhau bod yr ymateb hwn yn ddiogel, yn gyson ac yn sensitif i’r rhai dan sylw, a bod cysondeb o ran y dull a ddefnyddir ledled Cymru. Dylid gweithredu’r weithdrefn ar gyfer pob marwolaeth annisgwyl plentyn a’i dilyn nes iddi gael ei chwblhau yn y Cyfarfod Adolygu Achos.
Cafodd diwygiad 2018 ei wyluso gan y Tîm Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru). Yn dilyn cyfnod o ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, cynhaliwyd gweithdy amlasiantaeth ym mis Tachwedd 2017 i gytuno ar newidiadau arfaethedig i’r weithdrefn. Dosbarthwyd drafft o’r ddogfen PRUDiC 2018 ym mis Ionawr 2018 er mwyn derbyn sylwadau gan Fyrddau Diogelu Rhanbarthol a Rhwydwaith Diogelu’r GIG. Gwnaethpwyd diwygiadau mewn ymateb i’r sylwadau a chyhoeddwyd y ddogfen derfynol i’w rhoi ar waith o fis Ebrill 2018 ymlaen.
Mae nifer o newidiadau i’r Broses PRUDiC yn sgil y diwygiad hwn, a’i nod yw cryfhau’r broses o weithio mewn partneriaeth mewn perthynas â marwolaeth plentyn. Rhagwelir y bydd cynnwys y Byrddau Diogelu Plant Rhanbarthol yn sicrhau y caiff y broses ei gweithredu’n llawn ym mhob achos a bydd y gwersi a ddysgwyd yn hanfodol er mwyn atal marwolaethau plant yn y dyfodol.
Dogfen a Siart Llig:
Mae hunan-niwed yn arwain at 5,500 o dderbyniadau bob blwyddyn yng Nghymru, ar draws pob oedran, a dyma un o’r pum prif reswm sy’n achosi derbyniadau meddygol. Mae llawer o’r derbyniadau hyn yn rhai na chawsant eu trefnu. Amcangyfrifir y bydd tua 8% o’r rhai rhwng 14 a 19 oed yn niweidio’u hunain. Hunan-niwed yw’r ffactor risg mwyaf o ran hunanladdiad, sef y rheswm mwyaf cyffredin ond un dros farwolaethau yn y boblogaeth sydd rhwng 15 a 19 oed. Fodd bynnag, dim ond ffracsiwn bach iawn o’r rhai sy’n niweidio’u hunain sydd wedyn yn ceisio cyflawni hunanladdiad neu sy’n marw drwy hunanladdiad. Mae’r ffactorau risg yn achos pobl ifanc sy’n niweidio’u hunain yn gyson â risgiau diogelu eraill fel cam-drin ac esgeuluso plant, camddefnyddio sylweddau, trais partneriaid agos, a chamfanteisio rhywiol.
Mae gweithwyr proffesiynol y rheng flaen yn y gwasanaeth iechyd yn chwarae rhan hollbwysig yn y broses o reoli’r rhai sy’n niweidio’u hunain. Yn aml, nhw yw pwynt cyswllt cyntaf y person ifanc mewn gwasanaethau cymorth, ac mae hyn yn cael effaith fawr ar y canlyniad i’r person ifanc a’r broses o geisio cymorth yn y dyfodol. Mae angen gofalu am bobl ifanc sydd wedi niweidio’u hunain â chydymdeimlad a’r un parch ac urddas ag a roddir i unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth.
Mae Siarad â fi 2: Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed Cymru 2015 – 2020, Llywodraeth Cymru, 2015 - 2020 yn nodi’r blaenoriaethau i sefydliadau yng Nghymru.
Gwybodaeth a Chanllawiau :
Adroddiad ar yr Ymarfer Cwmpasu: Rheoli Hunan-niwed ymysg pobl ifanc sy’n ymgyflwyno i sefydliadau’r GIG yng Nghymru, Hydref 2015 (Saesneg yn unig)
Masnachu Pobl
Mae masnachu plant yn fath o gam-drin plant. Pan fo asiantaeth yn dod i gysylltiad â phlentyn a all fod wedi’i fasnachu, dylid hysbysu adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol a’r heddlu ar unwaith. Mae pob plentyn, beth bynnag y bo’i statws o ran mewnfudo, â hawl i gael ei ddiogelu. O ran egwyddor, mae cyfrifoldeb ar bob asiantaeth a sefydliad sy’n gweld bod ganddo reswm dros bryderu y gall person fod yn ddioddefwr masnachu pobl i nodi y gall y person fod yn ddioddefwr ac i’w gysylltu â’r awdurdodau cyfrifol a darparwyr cymorth. I blant, bydd ymatebwr cyntaf yn gwneud atgyfeiriad ffurfiol at y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol [Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Hydref 2013].
Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ganllawiau sy’n amlinellu rôl yr ymatebwyr cyntaf a sut i atgyfeirio’r plentyn at y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol. Mae’r canllawiau ar gael yma.
Caethwasiaeth Fodern
Mae Caethwasiaeth Fodern yn cwmpasu caethwasiaeth, caethwasanaeth, llafur gorfodol, a masnachu pobl. Mae masnachwyr a goruchwylwyr caethweision yn twyllo unigolion ac yn eu gorfodi, yn groes i’w hewyllys, i fyw bywyd o gamdriniaeth, caethwasanaeth a thriniaeth annynol.
Dogfennau:
Mae hunaniaeth o ran rhywedd yn cyfeirio at ymdeimlad goddrychol unigolyn o fod yn wryw, yn fenyw, y ddau, dim un o’r ddau, neu rywbeth arall. Caiff rhyw unigolyn ei ddyrannu pan fo’n cael ei eni ar sail ymddangosiad yr organau cenhedlu. Mae rhai plant a phlant yn eu harddegau yn profi trallod oherwydd maent yn teimlo nad yw eu hymddygiadau neu eu hoffterau’n cyd-fynd â’r stereoteipiau o ran rhywedd y mae’r gymdeithas yn eu disgwyl. Defnyddir y term ‘trawsrywiol’ pan fo hunaniaeth rywedd unigolyn yn wahanol i’r rhyw a nodwyd pan gafodd ei eni. Mae Dysfforia Rhywedd yn disgrifio’r anesmwythyd neu’r trallod y bydd unigolyn yn ei brofi pan nad yw’r rhyw a nodwyd a’r rhywedd y mae’n uniaethu ag ef yn cyd-fynd â’i gilydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy’r dolenni isod.
Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 sy’n darparu’r fframwaith strategol ar gyfer gwella’r trefniadau i atal pob math o drais yn erbyn menywod, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol, ac amddiffyn a chynorthwyo’r rhai y maent yn effeithio arnynt. Diben y Ddeddf yw diogelu unrhyw blentyn, person ifanc neu oedolyn sydd mewn perygl o ddioddef unrhyw fath o drais yn erbyn menywod, trais ar sail rhywedd, camdriniaeth ddomestig, neu drais rhywiol, neu sy’n eu profi.
Dogfennau:
Mathau o Gamdriniaeth Ddomestig
Trais ar sail Anrhydedd
Math o gamdriniaeth ddomestig yw Trais ar sail Anrhydedd, a gyflawnir yn enw ‘anrhydedd’ honedig. Mae’r cod anrhydedd y mae’n cyfeirio ato yn cael ei bennu yn ôl disgresiwn perthnasau gwrywaidd, a chaiff menywod nad ydynt yn cadw at y ‘rheolau’ eu cosbi am ddwyn anfri ar y teulu.
Priodasau dan orfod
Mae priodas yn briodas dan orfod pan nad yw un o’r bobl sy’n priodi, neu’r ddau ohonynt, yn cydsynio â’r briodas (neu, mewn achosion pan fo pobl ag anableddau dysgu, pan nad ydynt yn gallu cydsynio) a phan fo pwysau’n cael ei roi neu pan ddefnyddir camdriniaeth. Mae’n ymarfer gwarthus na ellir ei gyfiawnhau, a chydnabyddir yn y DU ei fod yn fath o drais yn erbyn menywod a dynion, camdriniaeth ddomestig/plant ac yn enghraifft ddifrifol o dorri hawliau dynol.
Gall y pwysau a roddir ar bobl i briodi yn erbyn eu hewyllys fod yn bwysau corfforol (gan gynnwys bygythiadau, trais corfforol gwirioneddol, a thrais rhywiol) neu emosiynol a seicolegol (er enghraifft, pan wneir i rywun deimlo’i fod yn dwyn anfri ar y teulu). Gall camdriniaeth ariannol (cymryd eich cyflog neu beidio â rhoi arian ichi) fod yn ffactor hefyd.
Os hoffech anfon unrhyw adborth am dudalennau’r Tîm Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru), llenwch ein ffurflen adborth ar-lein.