Eich dewis chi yw cymryd rhan mewn sgrinio ai peidio.
Mae'n bwysig eich bod chi'n deall manteision a risgiau sgrinio i'ch helpu chi i benderfynu a yw cymryd rhan yn iawn i chi.
Gall unrhyw sy’n gwybod bod ganddo hanes teuluol agos o YAA, ac nad yw’n cael ei wahodd i sgrinio (er enghraifft, dynion nad ydynt eto’n 65 oed neu fenywod o unrhyw oedran) siarad â'i feddyg.
Ystyr teulu agos yw brawd, chwaer neu riant/rhieni.