Mae sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol (YAA) yn chwilio am chwydd (ymlediad) o'r aorta yn yr abdomen.
Nod y rhaglen yw lleihau nifer yr achosion o YAA sy’n rhwygo a marwolaethau yng Nghymru.
Gwahoddir dynion 65 oed, y mae'r gofrestr yn dangos eu bod yn byw yn Nghymru, i gael prawf sgrinio.
Gall dynion dros 65 oed nad ydynt wedi cael eu sgrinio gan y GIG o'r blaen na chael diagnosis o ymlediad aortig abdomenol ofyn am sgan drwy gysylltu â'u swyddfa sgrinio leol.
Yr aorta yw'r brif bibell waed sy'n cyflenwi gwaed i'r corff.
Weithiau gall wal yr aorta yn yr abdomen (y bol) fynd yn wan ac ymestyn i ffurfio ymlediad. Pan fydd hyn yn digwydd mae risg y gall yr aorta hollti neu dorri (rhwygo).
Gall YAA sydd wedi torri arwain at golled gwaed ddifrifol a fydd angen triniaeth frys ar unwaith.
Ni fydd pob YAA yn torri, ond os bydd yn gwneud hynny mae'r tebygolrwydd o gyrraedd yr ysbyty a goroesi llawdriniaeth yn isel iawn.
Fel arfer nid oes unrhyw arwyddion na symptomau os oes gennych YAA. Mae hyn yn golygu efallai na fyddwch chi'n teimlo unrhyw boen neu'n sylwi ar unrhyw beth gwahanol.
Y ffordd hawsaf o ddarganfod a oes gennych YAA yw trwy gael sgan uwchsain untro o'ch abdomen.
Os canfyddir YAA, byddwch yn cael cynnig monitro neu driniaeth.
Gall YAA ddigwydd i unrhyw un ond mae'n fwyaf cyffredin ymhlith dynion 65 oed a hŷn. Rydych chi’n wynebu risg uwch os:
Y ffordd orau o ddod o hyd i YAA yw trwy gael sgan uwchsain.
Nid yw prawf sgrinio YAA 100% yn gywir.
Weithiau mae'n anodd gweld aorta'r abdomen. Nid yw hyn yn golygu bod gennych ymlediad, ond efallai bydd angen i chi gael rhagor o sganiau uwchsain.