Neidio i'r prif gynnwy

Eich helpu i benderfynu

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth i chi am sgrinio YAA y GIG yng Nghymru. Mae'n rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi a fydd yn eich helpu i benderfynu a ydych am gymryd rhan.


Cyhoeddwyd Chwefror 2020
 

Cynnwys


Crynodeb o’r prawf sgrinio Ymlediad Aortig Abdomenol (YAA)

Yr aorta yw’r brif bibell waed sy’n cyflenwi gwaed i’r corff. Weithiau mae mur (wal) yr aorta yn yr abdomen yn gallu mynd yn wan ac ymestyn i greu ymlediad. Pan fydd hyn yn digwydd, mae risg y gall yr aorta hollti neu rwygo.

Byddwn yn eich gwahodd i gael prawf sgrinio YAA os ydych yn ddyn, sy’n 65 oed, sy’n byw yng Nghymru ac sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu.

Mae prawf sgrinio YAA yn golygu cael sgan uwchsain syml i fesur aorta’r abdomen.

Efallai y bydd y sgan ychydig yn anghyfforddus oherwydd y pwysau ar yr abdomen.

Mae’n brawf sgrinio am ddim gyda’r GIG.

Os nad ydych o fewn yr oedran sgrinio a’ch bod yn pryderu bod gennych YAA, neu os ydych yn pryderu am hanes o YAA yn y teulu, trafodwch hyn gyda’ch meddyg teulu.

Fel pob prawf meddygol, nid yw sgrinio YAA yn gwbl gywir bob tro.

Eich dewis chi yw cael y prawf sgrinio YAA neu beidio. Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth i chi er mwyn eich helpu i benderfynu.

 

Pam mae’r GIG yn cynnig prawf sgrinio YAA?

Mae’r GIG yn cynnig prawf sgrinio er mwyn atal bywydau rhag cael eu colli oherwydd ymlediad aortig abdomenol (YAA) yn hollti neu rwygo.

 

Beth yw YAA?

Yr aorta yw’r brif bibell waed sy’n cludo gwaed i’r corff. Weithiau mae mur (wal) yr aorta yn yr abdomen yn gallu mynd yn wan ac ymestyn i greu ymlediad. Pan fydd hyn yn digwydd, mae risg y bydd yr aorta yn hollti neu’n rhwygo.

Mae YAA sydd wedi rhwygo yn arwain at golli llawer iawn o waed a bydd angen triniaeth frys ar unwaith.

Ni fydd pob YAA yn rhwygo, ond os bydd hyn yn digwydd, mae bron yn amhosibl cyrraedd yr ysbyty a goroesi ar ôl llawdriniaeth.

 

Pwy sy’n wynebu’r risg fwyaf o gael YAA?

Gall YAA ddigwydd i unrhyw un ond mae’n fwy cyffredin mewn dynion 65 oed a hŷn y mae un (neu fwy) o’r pethau hyn yn berthnasol iddyn nhw.

  • Smygu.
  • Pwysau gwaed yn uchel.
  • Colesterol yn uchel.
  • Hanes o YAA yn y teulu.

Dylai unrhyw un sy’n gwybod bod hanes o YAA yn ei deulu agos, ac nad yw’n cael gwahoddiad i gael ei sgrinio (er enghraifft dynion nad ydyn nhw wedi cyrraedd 65 oed eto, neu fenywod) o unrhyw oedran drafod unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw gyda’u meddyg teulu.

I gael cymorth i roi’r gorau i smygu, cysylltwch â Helpa Fi i Stopio

 

Pam fy mod i wedi cael gwahoddiad i gael prawf sgrinio YAA?

Rydym yn gwahodd dynion 65 oed i gael prawf sgrinio os ydyn nhw’n byw yng Nghymru ac wedi cofrestru gyda phractis meddyg teulu.

Os ydych chi dros 65 oed ac erioed wedi bod i gael sgan YAA gyda’r GIG, gallwch ofyn am sgan drwy gysylltu â’ch rhaglen sgrinio leol. Mae dynion chwe gwaith yn fwy tebygol na menywod o gael YAA.

Mae dynion chwe gwaith yn fwy tebygol na menywod o gael YAA. Mae YAA wedi rhwygo yn llai cyffredin mewn menywod na dynion ac, ar gyfartaledd, mae’n digwydd ddeng mlynedd yn ddiweddarach nag mewn dynion. Nid yw’r Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol yn argymell cynnig sgrinio am YAA i fenywod. Dylai menywod sydd â hanes o YAA yn y teulu drafod gyda’u meddygon teulu, a fydd yn gallu rhoi cyngor iddyn nhw.

 

Pam mae sgrinio mor bwysig?

Fel arfer, nid oes unrhyw arwyddion na symptomau i ddangos bod gennych YAA. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn teimlo unrhyw boen nac yn sylwi ar unrhyw beth gwahanol. Os ewch i gael prawf sgrinio YAA, gallwn ddarganfod YAA yn gynharach a chynnig eich monitro neu gynnig triniaeth i chi. Y ffordd symlaf o ganfod a oes gennych YAA yw drwy gael sgan uwchsain (ultrasound) syml o’ch abdomen.

 

Ydy prawf sgrinio YAA yn gywir?

Mae’r sgan sy’n cael ei ddefnyddio i ganfod YAA yn ddibynadwy iawn ond, fel gydag unrhyw brawf meddygol, nid yw prawf sgrinio YAA yn gwbl gywir bob tro. Weithiau, mae canlyniadau’n gallu cael eu cofnodi’n anghywir, ond mae hyn yn anghyffredin iawn. Mae hyn yn golygu y gall rhywun gael gwybod bod ganddo YAA pan nad yw hynny’n wir, neu y gall rhywun gael gwybod nad oes ganddo YAA pan fydd ganddo un mewn gwirionedd.

Mae’r rhaglen sgrinio yn gwirio cofnodion yn aml er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth cystal â phosibl. Os hoffech gael gwybod canlyniadau’r gwiriadau rheolaidd hyn, gallwch gysylltu â’ch uned sgrinio leol.

Mae sganio yn canfod achosion o YAA yn gynnar er mwyn gallu eu monitro neu eu trin. Dywedir wrth tua 98 o bob 100 o ddynion (98%) sy’n cael eu sgrinio am YAA na ddarganfuwyd ymlediad ac na chaiff unrhyw brofion eraill eu cynnig iddyn nhw.

 

Beth yw sgrinio YAA?

Mae sgrinio YAA yn golygu cael sgan uwchsain i fesur maint yr aorta yn eich abdomen.  Er mwyn cael sgan clir o'r aorta yn eich adbomen, bydd angen i'r sgriniwr bwyso ar eich abdomen.

Dim ond ychydig funudau mae prawf sgrinio YAA yn ei gymryd.  Rhydym yn monitro amsawdd a chywirdeb eich sgan YAA ac os oes unrhyw bryder am fesuriadau eich sgan, efallai y byddwn yn eich gwahodd i gael sgan arall.
 

A fydd prawf sgrinio YAA yn canfod unrhyw broblemau eraill?

Na fydd.  Dim ond canfod a oes gennych YAA y mae'r prawf sgrinio'n ei wneud.  Nid yw'n chwilio am broblemau iechyd eraill.  Os ydych yn pryderu a, eich iechyd, dylech fynd i weld eich meddyg teulu.

 

Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn cael fy sgrinio?

Bydd eich apwyntiad sgrinio yn para tua 1 - 15 munud fel arfer.

Bydd y sgriniwr wedi'i hyfforddi, a bydd yn cadarnhau eich manylion personol pan fyddwch yn cyrraedd, yn gofyn am eich caniatâd, ac yn gwneud y sgan uwchsain.

Os ydych yn pryderu am umrhyw beth, gallwch ofym i'r sgriniwr ar unrhyw adeg.

 

Beth yw sgan uwchsain?

Mae peiriant uwchsain yn defmyddio tonau sain i greu delwedd ar sgrin cyfrifiadur.

 

Sut mae sgan uwchsain yn cael ei gynnal?

Bydd y sgriniwr yn esbonio beth fydd yn digwydd yn ystod y sgan.  Ni fydd angen i chi dynnu eich dillad.  Bydd y sgriniwr yn gofyn i chi orwedd ar eich cefn a chodi eich crys neu siwmper fel y gall weld eich abdomen.

Bydd y sgriniwr yn rhoi jel clir ar eich adbdomen ac yn rhwbio chwiliedydd (probe uwchsain dros eich abdomen).

Er mwyn i'r sgriniwr gael delwedd glir o aorta'r abdomen, effallai y bydd angen gwthio i lawr wrth ddefnyddio'r chwiliedydd.

Bydd llun o'r aorta i'w weld ar fonitor.  Bydd y sgriniwr yn mesur maint yr aorta i weld a oes YAA ynddi.

 

Canlyniadau sgrinio YAA

Bydd y sgriniwr yn rhoi’r canlyniadau i chi ar ôl eich sgan. Mae pedwar canlyniad posibl y gallech eu cael ar ôl eich sgan uwchsain, sef:

Canlyniad – ni ddarganfuwyd ymlediad (sy’n mesur llai na 3 cm

Os yw’ch aorta yn llai na 3 cm o led, mae hyn yn golygu nad oes gennych ymlediad. Dywedir wrth tua 98 o bob 100 o ddynion (98%) sy’n cael eu sgrinio am YAA na ddarganfuwyd ymlediad ac na chaiff unrhyw brofion eraill eu cynnig iddyn nhw. Nid oes angen triniaeth na monitor arnoch. Ni fyddwn yn eich gwahodd i gael eich sgrinio am YAA eto.

YAA bach i ganolig (yn mesur rhwng 3 a 5.4 cm)

Mae hyn yn golygu bod yr aorta yn eich abdomen ychydig yn lletach na’r arferol a bod gennych YAA. Mae tua 4 o bob 100 o ddynion sy’n cael prawf sgrinio yn cael gwybod bod ganddynt YAA bach neu ganolig. Byddwch yn cael eich gwahodd i gael sgan uwchsain yn rheolaidd i wirio maint eich YAA. Bydd pa mor aml y bydd angen sgan arnoch chi yn dibynnu ar faint eich YAA. Efallai y bydd angen meddyginiaeth arnoch hefyd, a gaiff ei ragnodi gan eich meddyg teulu. Mae YAA bach neu ganolig yn golygu bod llai o risg iddo rwygo nag YAA mawr.

YAA mawr (5.5 cm neu fwy)

Os yw eich aorta abdomenol yn mesur 5.5cm o led neu fwy, mae gennych YAA mawr. Mae tua 1 o bob 1,000 o ddynion sy’n cael eu sgrinio yn cael gwybod bod ganddynt YAA mawr. Byddwn yn eich atgyfeirio i dîm arbenigol mewn ysbyty a fydd yn gallu cynnal rhagor o brofion a thrafod eich opsiynau triniaeth.

Gallai’r driniaeth gynnwys cael llawdriniaeth. I nifer fach o ddynion, ni fydd llawdriniaeth yn bosibl.

Mae risgiau sylweddol yn gysylltiedig â rhai llawdriniaethau YAA, ond mae’r siawns o wella yn llawer gwell os yw’r llawdriniaeth wedi’i threfnu.

Os oes gennych YAA o unrhyw faint, a’ch bod yn trefnu gwyliau, dylech ddweud wrth eich darparwr yswiriant teithio.

Bydd y tîm arbenigol yn dweud wrthych a fydd angen i chi ddweud wrth y DVLA (Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau).

Gyrru gyda YAA

Dywed y DVLA fod yn rhaid i chi roi gwybod iddynt os oes gennych ymlediad aortig sydd yn mesur dros 6 cm mewn diamedr. Mae’r rhaglen sgrinio yn atgyfeirio dynion ag ymlediad sy’n mesur 5.5 cm neu fwy.

Felly, mae'n annhebygol iawn y bydd cael diagnosis o YAA neu gael eich monitro gan y rhaglen sgrinio yn eich rhwystro rhag meddu ar drwydded yrru ddilys. Mae'r DVLA yn gyfrifol am benderfynu a all pobl yrru ar sail eu hiechyd neu unrhyw gyflyrau sydd ganddynt.

Gallwch ddod o hyd i’r cyngor diweddaraf ar wefan GOV.UK

Gall eich meddyg teulu a thîm arbenigol yr ysbyty roi cyngor i chi a ddylech chi yrru ai peidio.

Heb ei weld

Mewn rhai achosion anghyffredin iawn, efallai na fydd y sgriniwr yn gallu mesur eich aorta abdomenol a byddwn yn cynnig sganiau eraill i chi.  Nid yw hyn yn rhywbeth i chi boeni amdano.  Gallai hyn ddigwydd am nifer o resymau a bydd y sgriniwr yn esbonio hyn i chi yn ystod yr apwyntiad sgrinio.

 
Gwneud dewis - manteision a risgiau posibl prawf sgrinio YAA.

 

Sgrinio

Eich dewis chi yw cael prawf sgrinio YAA ai peidio.  Mae nifer o resymau gwahanol pam mae dynion yn penderfynu cael prawf sgrinio neu beidio.  Er mwyn eich helpu i benderfynu, rydym wedi cynnwys gwybodaeth a, y manteision a'r risgiau posibl.

Mae sgrinio yn achub bywydau rhag YAA

Mae bywydau'n cael eu hachub oherwydd bod YAA yn cael ei ddarganfod a'i drin yn gynharach nag y byddai heb brawf sgrinio.

Mae prawf sgrinio yn darganford YAA na fyddai byth wedi achosi niwed i rywun

Bydd rhai dynion yn cael gwybod bod ganddyn nhw YAA na fyddai byth wedi cael ei ddarganfod fel arall ac na fyddai wedi rhoi bywyd yn y fantol.  Dyma brif risg sgrinio.

 

Sut rydych yn cael fy manylion personol?

Rydym yn un o sefydliadau’r GIG. Rydym yn cael gafael ar eich enw a’ch cyfeiriad oddi ar gronfa ddata genedlaethol a elwir yn Wasanaeth Demograffig Cymru, a gaiff ei rheoli gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Mae’r gronfa ddata hon yn cadw cofnod o enw a chyfeiriad pawb sy’n byw yng Nghymru sydd wedi cofrestru gyda meddygon teulu.

 

Sut ydych chi'n defnyddio gwybodaeth amdanaf i?

Mae angen i ni gadw eich gwybodaeth bersonol er mwyn gwybod a ydych wedi cael sgan neu a ydych wedi penderfynu peidio â chael un.

Er mwyn i ni gysylltu â chi fel rhan o’r rhaglen hon, bydd angen i ni ymdrin â rhywfaint o wybodaeth bersonol amdanoch chi.

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch chi am hyn, gallwch:

 

Ble alla i gael rhagor o wybodaeth?

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, gallwch:

  • ein ffonio;
  • gofyn i'ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol; neu
  • edrych drwy'r gwefannau a ganlyn.

Galw Iechyd Cymru

Gan ddefnyddio eich gwybodaeth pan rydych yn defnyddio'r gwasanaeth.

Circulation Foundation (sef elusen sy'n cynorthwyo pobl â chelfydon fasgwlaidd)

Ffôn: 020 7205 71581

Os hoffech newid eich apwyntiad, gallwch gysylltu â'ch canolfan sgrinio leol.

 

Crynodeb o’r hyn y dylech ei wybod am YAA

Mae’r wybodaeth a ganlyn yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael.

  • Bydd tua 98 o bob 100 o ddynion (98%) sy’n cael eu sgrinio am YAA yn cael gwybod na ddarganfuwyd ymlediad.
  • Mae aorta na ddarganfuwyd ymlediad ynddo yn mesur llai na 3 cm mewn diamedr.
  • Mae YAA bach yn mesur rhwng 3 a 4.4 cm mewn diamedr.
  • Mae YAA canolig yn mesur rhwng 4.5 a 5.4 cm mewn diamedr.
  • Bydd gan tua dau o bob 100 o ddynion (2%) YAA bach neu ganolig.
  • Mae YAA mawr yn mesur 5.5 cm neu fwy.
  • Bydd gan un chwe dyn o bob 1000 (0.1%) YAA mawr.