Cynnwys
Crynodeb o’r prawf sgrinio Ymlediad Aortig Abdomenol (YAA)
Yr aorta yw’r brif bibell waed sy’n cyflenwi gwaed i’r corff. Weithiau mae mur (wal) yr aorta yn yr abdomen yn gallu mynd yn wan ac ymestyn i greu ymlediad. Pan fydd hyn yn digwydd, mae risg y gall yr aorta hollti neu rwygo.
Byddwn yn eich gwahodd i gael prawf sgrinio YAA os ydych yn ddyn, sy’n 65 oed, sy’n byw yng Nghymru ac sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu.
Mae prawf sgrinio YAA yn golygu cael sgan uwchsain syml i fesur aorta’r abdomen.
Efallai y bydd y sgan ychydig yn anghyfforddus oherwydd y pwysau ar yr abdomen.
Mae’n brawf sgrinio am ddim gyda’r GIG.
Os nad ydych o fewn yr oedran sgrinio a’ch bod yn pryderu bod gennych YAA, neu os ydych yn pryderu am hanes o YAA yn y teulu, trafodwch hyn gyda’ch meddyg teulu.
Fel pob prawf meddygol, nid yw sgrinio YAA yn gwbl gywir bob tro.
Eich dewis chi yw cael y prawf sgrinio YAA neu beidio. Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth i chi er mwyn eich helpu i benderfynu.
Mae’r GIG yn cynnig prawf sgrinio er mwyn atal bywydau rhag cael eu colli oherwydd ymlediad aortig abdomenol (YAA) yn hollti neu rwygo.
Yr aorta yw’r brif bibell waed sy’n cludo gwaed i’r corff. Weithiau mae mur (wal) yr aorta yn yr abdomen yn gallu mynd yn wan ac ymestyn i greu ymlediad. Pan fydd hyn yn digwydd, mae risg y bydd yr aorta yn hollti neu’n rhwygo.
Mae YAA sydd wedi rhwygo yn arwain at golli llawer iawn o waed a bydd angen triniaeth frys ar unwaith.
Ni fydd pob YAA yn rhwygo, ond os bydd hyn yn digwydd, mae bron yn amhosibl cyrraedd yr ysbyty a goroesi ar ôl llawdriniaeth.
Gall YAA ddigwydd i unrhyw un ond mae’n fwy cyffredin mewn dynion 65 oed a hŷn.
Dylai unrhyw un nad yw'n gymwys ar gyfer sgrinio YAA drafod unrhyw bryderon sydd ganddo gyda'i feddyg.
I gael cymorth i roi’r gorau i smygu, cysylltwch â Helpa Fi i Stopio
Mae dynion 65 oed yn cael eu gwahodd i gael eu sgrinio os ydyn nhw wedi'u cofrestru fel rhai sy'n byw yng Nghymru.
Mae’n bosibl y bydd angen i bobl sy’n drawsryweddol neu’n anneuaidd gael prawf sgrinio YAA. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalennau ein gwefan ar gyfer pobl sy’n drawsryweddol ac anneuaidd: Gwybodaeth i bobl drawsryweddol (traws) neu anneuaidd
Os ydych chi dros 65 oed ac erioed wedi bod i gael sgan YAA gyda’r GIG, gallwch ofyn am sgan drwy gysylltu â’ch rhaglen sgrinio leol.
De-ddwyrain Cymru Rhif Ffôn: 01443 23 51 61
Gorllewin Cymru Rhif Ffôn: 01792 45 31 62
Gogledd Cymru Rhif Ffôn: 01492 86 35 63
E-bost: aaa@wales.nhs.uk
Fel arfer, nid oes unrhyw arwyddion na symptomau i ddangos bod gennych YAA. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn teimlo unrhyw boen nac yn sylwi ar unrhyw beth gwahanol. Os ewch i gael prawf sgrinio YAA, gallwn ddarganfod YAA yn gynharach a chynnig eich monitro neu gynnig triniaeth i chi. Y ffordd symlaf o ganfod a oes gennych YAA yw drwy gael sgan uwchsain (ultrasound) syml o’ch abdomen.
Mae’r sgan sy’n cael ei ddefnyddio i ganfod YAA yn ddibynadwy iawn ond, fel gydag unrhyw brawf meddygol, nid yw prawf sgrinio YAA yn gwbl gywir bob tro. Weithiau, mae canlyniadau’n gallu cael eu cofnodi’n anghywir, ond mae hyn yn anghyffredin iawn. Mae hyn yn golygu y gall rhywun gael gwybod bod ganddo YAA pan nad yw hynny’n wir, neu y gall rhywun gael gwybod nad oes ganddo YAA pan fydd ganddo un mewn gwirionedd.
Mae’r rhaglen sgrinio yn gwirio cofnodion yn aml er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth cystal â phosibl. Os hoffech gael gwybod canlyniadau’r gwiriadau rheolaidd hyn, gallwch gysylltu â’ch uned sgrinio leol.
Mae sganio yn canfod achosion o YAA yn gynnar er mwyn gallu eu monitro neu eu trin. Dywedir wrth tua 98 o bob 100 o ddynion (98%) sy’n cael eu sgrinio am YAA na ddarganfuwyd ymlediad ac na chaiff unrhyw brofion eraill eu cynnig iddyn nhw.
Mae sgrinio YAA yn golygu cael sgan uwchsain i fesur maint yr aorta yn eich abdomen. Er mwyn cael sgan clir o’r aorta yn eich abdomen, bydd angen i’r sgriniwr bwyso ar eich abdomen.
Dim ond ychydig funudau mae prawf sgrinio YAA yn ei gymryd. Rydym yn monitro ansawdd a chywirdeb eich sgan YAA ac os oes unrhyw bryder am fesuriadau eich sgan, efallai y byddwn yn eich gwahodd i gael sgan arall. Os na chanfyddir ymlediad, ni fyddwch yn cael eich gwahodd am ragor o apwyntiadau sgrinio YAA.
Na fydd. Dim ond canfod a oes gennych YAA y mae’r prawf sgrinio’n ei wyneud. Nid yw’n chwilio am broblemau iechyd eraill. Os ydych yn pryderu am eich iechyd, dylech fynd i weld eich meddyg.
Bydd angen i chi allu mynd ar wely a gorwedd yn wastad i gael sgan. Os na allwch wneud hyn heb gymorth, ffoniwch ni am ragor o wybodaeth.
Bydd eich apwyntiad sgrinio yn para tua 10 - 15 munud fel arfer.
Bydd y sgriniwr wedi'i hyfforddi, a bydd yn cadarnhau eich manylion personol pan fyddwch yn cyrraedd, yn gofyn am eich caniatâd, ac yn gwneud y sgan uwchsain.
Os ydych yn pryderu am umrhyw beth, gallwch ofym i'r sgriniwr ar unrhyw adeg.
Mae peiriant uwchsain yn defmyddio tonau sain i greu delwedd ar sgrin cyfrifiadur.
Bydd y sgriniwr yn esbonio beth fydd yn digwydd yn ystod y sgan. Ni fydd angen i chi dynnu eich dillad. Bydd y sgriniwr yn gofyn i chi orwedd ar eich cefn a chodi eich crys neu siwmper fel y gall weld eich abdomen.
Bydd y sgriniwr yn rhoi jel clir ar eich abdomen ac yn rhwbio chwiliedydd (probe uwchsain dros eich abdomen).
Er mwyn cael delwedd glir, efallai y bydd angen i'r sgriniwr bwyso’n galetach, ond ni ddylai hyn fod yn boenus.
Bydd llun o’r aorta i’w weld ar fonitor. Bydd y sgriniwr yn mesur maint yr aorta i weld a oes YAA ynddi.
Byddwch yn cael eich canlyniadau gan y sgriniwr yn syth ar ôl eich sgan. Mae pedwar canlyniad posibl.
Os yw’ch aorta yn llai na 3 cm o led, mae hyn yn golygu nad oes gennych ymlediad. Dywedir wrth tua 98 o bob 100 o ddynion (98%) sy’n cael eu sgrinio am YAA na ddarganfuwyd ymlediad ac na chaiff unrhyw brofion eraill eu cynnig iddyn nhw. Nid oes angen triniaeth na monitor arnoch. Ni fyddwn yn eich gwahodd i gael eich sgrinio am YAA eto.
Mae hyn yn golygu bod yr aorta yn eich abdomen ychydig yn lletach na’r arferol a bod gennych YAA. Mae tua 4 o bob 100 o ddynion sy’n cael prawf sgrinio yn cael gwybod bod ganddynt YAA bach neu ganolig. Byddwch yn cael eich gwahodd i gael sgan uwchsain yn rheolaidd i wirio maint eich YAA. Bydd pa mor aml y bydd angen sgan arnoch chi yn dibynnu ar faint eich YAA. Efallai y bydd angen meddyginiaeth arnoch hefyd, a gaiff ei ragnodi gan eich meddyg teulu. Mae YAA bach neu ganolig yn golygu bod llai o risg iddo rwygo nag YAA mawr.
Os yw eich aorta abdomenol yn mesur 5.5cm o led neu fwy, mae gennych YAA mawr. Mae tua 1 o bob 1,000 o ddynion sy’n cael eu sgrinio yn cael gwybod bod ganddynt YAA mawr. Byddwn yn eich atgyfeirio i dîm arbenigol mewn ysbyty a fydd yn gallu cynnal rhagor o brofion a thrafod eich opsiynau triniaeth.
Gallai’r driniaeth gynnwys cael llawdriniaeth. I nifer fach o ddynion, ni fydd llawdriniaeth yn bosibl.
Mae risgiau sylweddol yn gysylltiedig â rhai llawdriniaethau YAA, ond mae’r siawns o wella yn llawer gwell os yw’r llawdriniaeth wedi’i threfnu.
Os oes gennych YAA o unrhyw faint, a’ch bod yn trefnu gwyliau, dylech ddweud wrth eich darparwr yswiriant teithio.
Bydd y tîm arbenigol yn dweud wrthych a fydd angen i chi ddweud wrth y DVLA (Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau).
Dywed y DVLA fod yn rhaid i chi roi gwybod iddynt os oes gennych ymlediad aortig sydd yn mesur dros 6 cm mewn diamedr. Mae’r rhaglen sgrinio yn atgyfeirio dynion ag ymlediad sy’n mesur 5.5 cm neu fwy.
Felly, mae'n annhebygol iawn y bydd cael diagnosis o YAA neu gael eich monitro gan y rhaglen sgrinio yn eich rhwystro rhag meddu ar drwydded yrru ddilys. Mae'r DVLA yn gyfrifol am benderfynu a all pobl yrru ar sail eu hiechyd neu unrhyw gyflyrau sydd ganddynt.
Gallwch ddod o hyd i’r cyngor diweddaraf ar wefan GOV.UK
Gall eich meddyg teulu a thîm arbenigol yr ysbyty roi cyngor i chi a ddylech chi yrru ai peidio.
Mewn achosion prin iawn efallai na fydd y sgriniwr yn gallu gweld eich aorta abdomenol ar y sgrin. Mae hyn yn golygu na fydd yn gallu ei fesur. Nid yw hyn yn ddim byd i chi boeni amdano a gall ddigwydd am nifer o resymau. Bydd y sgriniwr yn trafod hyn gyda chi os bydd hyn yn digwydd.
Eich dewis chi yw cael prawf sgrinio YAA. Mae yna lawer o wahanol resymau pam mae dynion yn penderfynu peidio â chael eu sgrinio. I'ch helpu i benderfynu rydym wedi cynnwys gwybodaeth am y manteision a'r risgiau posibl.
Mae bywydau'n cael eu hachub oherwydd bod YAA yn cael ei ddarganfod a'i drin yn gynharach nag y byddai heb brawf sgrinio.
Bydd rhai dynion yn cael gwybod bod ganddyn nhw YAA na fyddai byth wedi cael ei ddarganfod fel arall ac na fyddai wedi rhoi bywyd yn y fantol. Dyma brif risg sgrinio.
Rydym yn sefydliad GIG. Rydym yn cael eich enw a’ch cyfeiriad o gronfa ddata genedlaethol o’r enw Gwasanaeth Demograffig Cymru a reolir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae’r gronfa ddata hon yn cadw cofnod o enwau a chyfeiriadau ar gyfer pob person sydd wedi’i gofrestru’n byw yng Nghymru.
Mae angen i ni gadw eich gwybodaeth bersonol er mwyn gwybod a ydych wedi cael sgan neu a ydych wedi penderfynu peidio â chael un.
Er mwyn i ni gysylltu â chi fel rhan o’r rhaglen hon, bydd angen i ni ymdrin â rhywfaint o wybodaeth bersonol amdanoch chi.
Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch chi am hyn, gallwch:
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, gallwch:
Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru
Gan ddefnyddio eich gwybodaeth pan rydych yn defnyddio'r gwasanaeth.
Circulation Foundation (sef elusen sy'n cynorthwyo pobl â chelfydon fasgwlaidd)
Ffôn: 020 7205 71581
Os hoffech newid eich apwyntiad, gallwch gysylltu â'ch canolfan sgrinio leol.
Cysylltwch â ni:
De-ddwyrain Cymru Rhif Ffôn: 01443 23 51 61
Gorllewin Cymru Rhif Ffôn: 01792 45 31 62
Gogledd Cymru Rhif Ffôn: 01492 86 35 63
E-bost: aaa@wales.nhs.uk
Mae’r wybodaeth a ganlyn yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael.