Neidio i'r prif gynnwy

Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru - Gwybodaeth i rieni

 

 

 
 

 

 

Mae'r animeiddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am y prawf sgrinio smotyn gwaed a gynigir i chi ar gyfer eich babi ar ôl iddo gael ei eni. Mae’n dangos sut y mae'r prawf yn cael ei gymryd ac yn esbonio'r cyflyrau sy'n cael eu sgrinio.

 

Byddwch chi’n cael cyfle i gael prawf sy’n sgrinio smotyn o waed eich babi newydd-anedig am naw cyflwr sy’n brin ond yn ddifrifol. Y drefn arferol yw tynnu sampl ar gyfer y prawf pum diwrnod ar ôl i’ch babi gael ei eni. Mae’r daflen yma’n egluro’r cyflyrau mae’r prawf sgrinio’n chwilio amdanyn nhw, a’r dull o dynnu’r sampl. Os bydd unrhyw gwestiynau eraill gennych chi, holwch eich bydwraig.

 

Cynnwys

― Pam ddylai fy mabi gael prawf sgrinio?
Am beth mae babanod newydd-anedig yn cael prawf sgrinio?
― A fydd sgrinio am y cyflyrau yma’n dod ag unrhyw beth arall i’r amlwg?
― Pwy fydd yn tynnu'r sampl o waed?
― Sut byddan nhw'n tynnu'r sampl o waed?
― Oes angen tynnu samplau o waed fwy nag unwaith?
― Mae sgrinio'n cael ei argymell
― Sut byddaf i'n cael gwybod am y canlyniadau?
― Beth fydd yn digwydd i gerdyn sgrinio smotyn gwaed eich babi ar ôl y prawf sgrinio?
― Defnyddio eich gwybodaeth

 

Pam ddylai fy mabi gael prawf sgrinio?

  • Mae sgrinio smotyn gwaed babanod newydd-anedig yn adnabod y babanod a allai fod â chyflyrau sy’n brin ond yn ddifrifol.
  • Ni fydd unrhyw un o’r cyflyrau yma ar y mwyafrif o’r babanod sy’n cael prawf sgrinio. Ond yn achos y nifer bach sydd ag un o’r cyflyrau, bydd sgrinio smotyn gwaed y newydd-anedig yn golygu y bydd y babanod hynny’n gallu cael gofal a thriniaeth arbenigol yn brydlon.
  • Gall triniaeth gynnar wella’u hiechyd ac atal anabledd difrifol neu hyd yn oed farwolaeth.
  • Os bydd canlyniad y prawf sgrinio ‘dan amheuaeth’ yn achos unrhyw un o’r cyflyrau, bydd angen profion ychwanegol i gadarnhau bod y cyflwr ar y babi.
  • Mae’r prawf yn ddiogel ac nid ydym yn gwybod am unrhyw ffordd y gallai achosi niwed i’ch babi.

 

Am beth mae babanod newydd-anedig yn cael prawf sgrinio?

Yng Nghymru, mae pob babi’n cael cyfle i gael prawf sgrinio am y cyflyrau sy’n dilyn.

  •  
  • Anhwylderau metabolig sy’n cael eu hetifeddu:
    • Diffyg dadhydrogenas asyl-CoA cadwyn-ganolig(MCADD)
    • Ffenylcetonwria (PKU)
    • Clefyd wrin surop masarn (MSUD)
    • Asidaemia isofalerig (IVA)
    • Asidwria glwtarig math 1 (GA1)
    • Homosystinwria (HCU)
  • Hypothyroidedd etifeddol (CHT)
  • Ffibrosis systig (CF)
  • Anhwylderau’r cryman-gelloedd (SCD)

Anhwylderau metabolig sy’n cael eu hetifeddu

Mae babanod sydd wedi etifeddu’r anhwylderau prin yma’n methu prosesu rhai o’r sylweddau sydd yn eu bwyd. Heb driniaeth, bydd babanod sydd â’r anhwylderau yma’n dioddef problemau difrifol ar eu hiechyd sy’n para am gyfnodau hir. Yn achos rhai o’r anhwylderau, gall y babanod fynd yn ddifrifol wael yn sydyn.

Mae sgrinio’r newydd-anedig yn golygu bod cyfle i adnabod y babanod sydd ag un o’r anhwylderau yma’n brydlon. Gallan nhw gael y diet a’r driniaeth iawn, a gofal arbenigol er mwyn atal problemau iechyd rhag datblygu.

Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n dweud wrth eich gweithwyr gofal iechyd proffesiynol os oes hanes yn eich teulu o unrhyw un o’r anhwylderau metabolig yma.
Mae babanod yn cael cyfle i gael eu sgrinio am y chwe anhwylder metabolig etifeddol sy’n dilyn:

  • Diffyg dadhydrogenas asyl-CoA cadwyn-ganolig (MCADD)

Mae babanod sydd â MCADD yn cael anhawster torri braster i lawr i gynhyrchu egni yn eu cyrff. Os nad yw babanod yn cael eu sgrinio am MCADD, a bod y cyflwr arnyn nhw, efallai mai dim ond pan fyddan nhw’n mynd yn ddifrifol wael yn sydyn y bydd diagnosis yn cael ei wneud. Mae MCADD ar dri neu bedwar o’r babanod sy’n cael eu geni yng Nghymru bob blwyddyn.

  • Ffenylcetonwria (PKU)

Nid yw babanod sydd â PKU yn gallu torri i lawr un o’r asidau amino sy’n cael ei alw’n ffenylalanin. Asidau amino yw’r ‘blociau adeiladu’ mewn protein ac rydym yn cael protein o rai bwydydd. Os nad yw’r cyflwr yn cael ei drin, bydd anabledd meddyliol difrifol a pharhaol yn datblygu ar fabanod sydd â PKU. Mae sgrinio smotyn gwaed y newydd-anedig yn golygu bod cyfle i adnabod babanod â PKU, gan drin y cyflwr gyda diet arbennig i atal yr anabledd yma. Mae PKU ar dri neu bedwar o’r babanod sy’n cael eu geni yng Nghymru bob blwyddyn.

  • Clefyd wrin surop masarn (MSUD)

  • Asidaemia isofalerig (IVA)

  • Asidwria glwtarig math 1 (GA1)

  • Homosystinwria (HCU)

Mae babanod sydd ag un o’r pedwar anhwylder MSUD, IVA, GA1 neu HCU yn methu â thorri i lawr yn y ffordd arferol rai o’r asidau amino sydd yn y protein rydym yn ei fwyta. Mae hyn yn arwain at weld lefelau niweidiol o rai asidau amino a chemegion niweidiol eraill yn y gwaed. Mae’r anhwylderau yma’n rhai prin ac mae disgwyl mai un neu ddau o’r babanod sy’n cael eu geni yng Nghymru bob blwyddyn fydd ag un o’r anhwylderau.
 

Hypothyroidedd etifeddol (CHT)

Nid oes digon o’r hormon thyrocsin gan fabanod sydd wedi etifeddu hypothyroidedd. Heb yr hormon yma, dydyn nhw ddim yn tyfu’n iawn. Mae anabledd corfforol a meddyliol sy’n ddifrifol ac yn barhaol yn gallu datblygu ar y babanod yma.

Mae CHT ar tua 18 o’r babanod sy’n cael eu geni yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae sgrinio smotyn gwaed y newydd-anedig yn golygu bod cyfle i adnabod babanod â CHT, gan drin y cyflwr yn gynnar gyda thabledi thyrocsin. Bydd y driniaeth yma’n atal anabledd difrifol ac yn galluogi’r babi i ddatblygu yn y ffordd normal. Os nad yw babanod yn cael eu sgrinio, a bod y cyflwr CHT yn dod i’r amlwg yn ddiweddarach, gallai fod yn rhy hwyr i atal y babanod rhag mynd yn ddifrifol anabl.
 

Ffibrosis systig (CF)

Os bydd babi’n etifeddu’r cyflwr yma, bydd yn effeithio ar allu ei gorff i dreulio bwyd, a gallu’r ysgyfaint i weithio’n iawn. Mae babanod sydd â CF yn cael anhawster treulio bwyd, ac efallai na fyddan nhw’n ennill pwysau’n dda. Maen nhw hefyd yn fwy tebygol o gael heintiau ar yr ysgyfaint yn aml.

Mae CF ar rhwng 12 ac 14 o’r babanod sy’n cael eu geni yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae sgrinio smotyn gwaed y newydd-anedig yn rhoi cyfle i adnabod babanod â CF, gan drin y cyflwr yn gynnar gyda diet sy’n llawn egni, a meddyginiaethau a ffisiotherapi. Y gred yw bod triniaeth gynnar yn helpu plant sydd â CF i fyw bywydau hirach ac iachach. Os nad yw babanod yn cael eu sgrinio am CF, a bod y cyflwr arnyn nhw, mae’n bosib gwneud prawf yn ddiweddarach. Ond fe allai’r rhieni fynd drwy gyfnod pryderus ac ansicr cyn cael diagnosis o CF.
 

Anhwylderau’r cryman-gelloedd (SCD)

Anhwylderau sy’n cael eu hetifeddu yw’r rhain, ac maen nhw’n effeithio ar y celloedd coch yn y gwaed. Os oes anhwylder y cryman-gelloedd (SCD) ar y babi, gall y celloedd coch yn ei waed droi’n siâp cryman a glynu wrth waliau’r pibellau gwaed bach. Mae hyn yn achosi poen ac anafiadau i gorff y babi, haint difrifol neu hyd yn oed farwolaeth.

Mae SCD ar dri neu bedwar o’r babanod sy’n cael eu geni yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae sgrinio smotyn gwaed y newydd-anedig yn golygu bod cyfle i adnabod babanod â SCD, gan
roi triniaeth gynnar sy’n cynnwys imiwneiddio a chyffuriau gwrthfiotig. Bydd y driniaeth gynnar, ochr yn ochr â rhoi gwybodaeth a chefnogaeth i’r rhieni, yn helpu i atal salwch difrifol ac yn galluogi’r plentyn i fyw bywyd hirach ac iachach.

 

A fydd sgrinio am y cyflyrau yma'n dod ag unrhyw beth arall i'r amlwg?

Mae’r profion sgrinio yma weithiau’n gallu dod â chyflyrau meddygol eraill i’r amlwg. Mae profion sgrinio’n gallu adnabod babanod sy’n cario yn eu genynnau rai o’r cyflyrau mae’r prawf sgrinio’n chwilio amdanyn nhw, neu anhwylderau anarferol eraill ar gelloedd coch y gwaed.

Mae sgrinio am ffibrosis systig (CF) yn cynnwys gwneud profion ar rai babanod i chwilio am y newidiadau mwyaf cyffredin yn y genynnau sy’n achosi CF. Mae hyn yn golygu y gallai’r prawf sgrinio adnabod rhai babanod sy’n debygol o fod yn cario CF yn eu genynnau. Efallai fod angen rhagor o brofion ar y babanod yma i ddod i wybod a ydyn nhw’n cario’r cyflwr, er eu bod nhw’n iach, neu a oes CF arnyn nhw. Mae’r rhai sy’n cario CF yn iach, ac ni fydd yr afiechyd yn effeithio arnyn nhw.
 

Pwy fydd yn tynnu'r sampl o waed?

Bydd y prawf sgrinio ar smotyn o waed eich babi newydd-anedig yn cael ei wneud pum diwrnod ar ôl y geni. Fe allai’r prawf gael ei wneud yn hwyrach na phum diwrnod weithiau. Y fydwraig fydd yn tynnu’r sampl fel arfer, a hynny yn eich cartref neu yn yr ysbyty.

Mae rhai gweithwyr iechyd proffesiynol eraill wedi cael eu hyfforddi i wneud y profion sgrinio ar smotiau o waed babanod newydd-anedig, ac fe allai un o’r gweithwyr yma dynnu’r sampl.
 

Sut byddan nhw'n tynnu'r sampl o waed?

TBydd y fydwraig yn defnyddio dyfais arbennig i bigo sawdl eich babi. Yna bydd yn casglu pedwar diferyn o waed gan eu rhoi ar gerdyn pwrpasol. Mae’r broses gyfan yn cymryd ychydig funudau’n unig fel arfer. Bydd y fydwraig yn anfon y cerdyn i Labordy Sgrinio’r Newydd-anedig yng Nghaerdydd, lle bydd y profion yn cael eu gwneud. Bydd y fydwraig yn ysgrifennu manylion eich babi ar y cerdyn fel ffordd o’i adnabod.

Efallai bydd cael pigo’i sawdl yn gwneud i’ch babi deimlo’n anghyfforddus, ac fe allai grïo.

Gallwch helpu drwy:

  • sicrhau bod eich babi’n gynnes ac yn gyfforddus,
  • ac anwesu a bwydo’ch babi.
     

Oes angen tynnu samplau o waed fwy nag unwaith?

Ambell waith bydd y fydwraig neu’r ymwelydd iechyd yn cysylltu â chi ac yn gofyn am ail sampl o waed o sawdl eich babi.

Ymhlith y rhesymau dros wneud hyn mae:

  • ni chafodd digon o waed ei gasglu’r tro cyntaf
  • nid oedd y wybodaeth a gafodd ei hysgrifennu ar y cerdyn yn gyflawn
  • nid oedd y canlyniad yn glir
  • roedd eich babi wedi cael ei eni’n gynnar, neu
  • roedd eich babi wedi cael trallwysiad gwaed cyn y prawf.

Bydd eich bydwraig neu’ch ymwelydd iechyd yn egluro’r rheswm dros ofyn am ail sampl. Os bydd angen ail brawf, mae’n bwysig fod hynny’n digwydd yn brydlon fel bod yr holl brofion wedi cael eu cwblhau yn ystod yr wythnosau cyntaf ar ôl y geni.


Mae sgrinio'n cael ei argymell

Mae'r GIG yn argymell sgrinio am yr holl amodau.

Bydd y fydwraig yn sicrhau eich bod chi’n cael cyfle i ofyn unrhyw gwestiwn sydd gennych ar ôl darllen y daflen, a hynny o leiaf 24 awr cyn i’r sampl gael ei thynnu.

Cyn tynnu’r sampl o waed, bydd y fydwraig yn rhoi cyfle arall i chi drafod y broses sgrinio. Bydd yn ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych. Bydd yn gofyn i chi roi’ch caniatâd i’ch babi gael prawf sgrinio smotyn gwaed y newydd-anedig.

Dywedwch wrth eich bydwraig os nad ydych chi’n awyddus i’ch babi gael prawf sgrinio ar gyfer unrhyw un, neu’r cyfan, o’r cyflyrau yma. Nodwch fod sgrinio am y chwe anhwylder metabolig sy’n cael eu hetifeddu’n cael ei wneud ar ffurf un prawf. Mae hyn yn golygu nad yw’n bosibl i’ch babi gael prawf sgrinio am rai yn unig o’r anhwylderau metabolig sy’n cael eu hetifeddu.

Bydd y fydwraig yn ysgrifennu ar y cerdyn sgrinio pwrpasol enwau’r cyflyrau nad ydych chi eisiau eu cynnwys yn y prawf sgrinio. Bydd y fydwraig yn gofyn i chi lofnodi’r cerdyn i gadarnhau eich dewis. Bydd eich meddyg teulu a’ch ymwelydd iechyd yn cael gwybod am eich penderfyniad.

Os byddwch chi’n newid eich meddwl rywdro eto ac yn penderfynu eich bod yn awyddus i’ch babi gael prawf sgrinio smotyn gwaed y newydd-anedig, dywedwch wrth eich ymwelydd iechyd. Bydd eich ymwelydd iechyd yn trefnu’r prawf. Mae sgrinio smotyn gwaed y newydd-anedig ar gael i bob babi hyd at flwydd oed. Ond dim ond tan wyth wythnos oed y bydd sgrinio am ffibrosis systig ar gael. Nid yw’r prawf yma’n ddibynadwy ar ôl hynny.

Bydd pob un o’ch penderfyniadau’n cael eu cofnodi yn eich cofnod mamolaeth ac yng nghofnod iechyd personol eich babi (sy’n aml yn cael ei alw’n ‘llyfr coch’).

Os ydych chi’n poeni o gwbl am brawf sgrinio eich babi, ewch at eich bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu’ch meddyg teulu i’w drafod.
 

Sut byddaf i'n cael gwybod am y canlyniadau?

Bydd y mwyafrif o fabanod yn cael canlyniadau ‘ddim dan amheuaeth’, sy’n golygu ei bod yn debygol nad oes unrhyw rai o’r cyflyrau arnyn nhw. Bydd y canlyniadau yma ar gael o fewn chwe wythnos i’r dyddiad y cafodd y sampl ei gymryd. Bydd eich ymwelydd iechyd yn trafod y canlyniadau gyda chi, ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Os bydd canlyniad prawf sgrinio eich babi’n awgrymu bod hypothyroidedd etifeddol neu anhwylder metabolig sy’n cael ei etifeddu arno, bydd rhywun fel arfer yn dod atoch neu’n eich ffonio cyn i’ch babi fod yn dair wythnos oed. Byddwch chi’n cael gwybod am y profion sy’n angenrheidiol cyn gallu gwneud diagnosis. Byddwch chi hefyd yn cael apwyntiad i weld arbenigwr.

Os bydd canlyniad prawf sgrinio eich babi’n awgrymu bod ffibrosis systig arno, bydd rhywun fel arfer yn dod atoch cyn i’ch babi fod yn bedair wythnos oed. Byddwch chi’n cael gwybod am y profion sy’n angenrheidiol cyn gallu gwneud diagnosis. Byddwch chi hefyd yn cael apwyntiad i weld arbenigwr.

Os oes awgrym bod anhwylder y cryman-gelloedd ar eich babi, bydd rhywun fel arfer yn cysylltu â chi cyn i’ch babi fod yn chwe wythnos oed. Byddwch chi’n cael gwybod am y profion sy’n angenrheidiol cyn gallu gwneud diagnosis. Byddwch chi hefyd yn cael apwyntiad i weld arbenigwr.

Mae’r amserlenni yma ar gyfer rhoi’r canlyniadau’n dibynnu ar wneud profion sgrinio smotyn gwaed y newydd-anedig pum diwrnod ar ôl y geni. Os byddwch chi’n symud tŷ tra byddwch chi’n aros am ganlyniad prawf sgrinio eich babi, rhowch eich cyfeiriad newydd i’ch bydwraig neu’ch ymwelydd iechyd.

Pwrpas y prawf sgrinio yw adnabod y babanod sy’n fwy tebygol o fod â’r cyflyrau yma.

Nid yw sgrinio’n fanwl gywir 100% o’r amser.

  • Weithiau, bydd babi a gafodd ganlyniad ‘dan amheuaeth’ i’r prawf sgrinio’n cael profion ychwanegol sy’n dangos nad yw’r cyflwr yn effeithio arno.
  • Mewn achosion eraill, daw’n amlwg yn ddiweddarach bod y cyflwr ar fabi a gafodd ganlyniad ‘ddim dan amheuaeth’ i’r prawf sgrinio. Ond anaml iawn y bydd hynny’n digwydd.
     

Beth fydd yn digwydd i gerdyn sgrinio smotyn gwaed eich babi ar ôl y prawf sgrinio?

Ar ôl gwneud y prawf sgrinio, bydd y darn o’r cerdyn lle mae manylion eich babi wedi’u hysgrifennu’n cael ei ddatgysylltu a’i ddinistrio. Mae rhif cod bar ar y darn o’r cerdyn lle mae’r smotiau o waed eich babi. Mae’r rhif yn unigryw i’r cerdyn ac i’ch babi. Bydd y darn hwnnw’n cael ei storio’n ddiogel am bum mlynedd o leiaf, ac fe allai gael ei ddefnyddio:

  • i wirio’r canlyniad
  • wneud unrhyw brofion eraill y bydd eich meddyg yn eu hargymell
  • i wella’r rhaglen sgrinio
  • neu mewn gwaith ymchwil i helpu i wella iechyd babanod a’u teuluoedd yn y Deyrnas Unedig.

Ni fydd y gwaith ymchwil yma’n enwi eich babi ac ni fydd unrhyw un yn cysylltu â chi. Mae cyfreithiau llym yn llywodraethu’r broses o ddefnyddio’r smotiau o waed, a rhaid i ni beidio â thorri’r cyfreithiau yma.

Yn y dyfodol, efallai y daw adeg pan fydd ymchwilwyr yn awyddus i’ch gwahodd chi neu’ch plentyn i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil drwy gytundeb ag Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru. Dim ond ar gyfer projectau ymchwil mae’r Pwyllgor Moeseg Ymchwil Meddygol wedi’u cymeradwyo y bydd hyn yn digwydd. Bydd rhaid i’r ymchwilwyr ofyn a ydych chi’n fodlon cymryd rhan. Os nad ydych chi’n awyddus i gael eich gwahodd i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil, dywedwch hynny wrth eich bydwraig. Bydd yn cofnodi’r wybodaeth honno ar gerdyn y smotyn gwaed.
 

Defnyddio eich gwybodaeth

Er mwyn i ni gysylltu â chi fel rhan o’r rhaglen, bydd angen i ni drin a thrafod gwybodaeth bersonol amdanoch chi a’ch babi. Os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch chi am hyn, gallwch:

Rydyn ni hefyd yn cadw manylion personol i sicrhau bod safon ein gwasanaeth mor uchel â phosibl. Mae hyn yn cynnwys edrych ar gofondion eich babi os byddwch yn darganfod bod gan eich babi gyflwr ar ôl cael canlyniad ‘ddim dan amheuaeth’ mewn prawf sgrinio.

Dim ond fel ystadegau y byddwn ni’n cyhoeddi gwybodaeth. Nid ydym byth yn cyhoeddi manylion personol. Byddwn yn rhoi eich gwybodaeth bersonol i weithwyr proffesiynol neu sefydliadau yn y sector iechyd sydd angen y wybodaeth, gan gynnwys eich meddyg teulu, eich ymwelydd iechyd a’ch paediatregydd ymgynghorol. Rhaid i’r gweithwyr proffesiynol yma gadw’r wybodaeth bersonol yn ddiogel yr un modd ag y byddwn ni’n ei wneud.

Mae ein holl gofnodion papur a chyfrifiadurol yn cael eu storio a’u prosesu’n ddiogel, allan o gyrraedd y cyhoedd.

Os hoffech ddweud wrthym am eich profiad o sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig, cliciwch yma.