Cynnwys
― Canlyniad sgrinio eich babi
― Cludwyr genynnau haemoglobin anarferol
― Beth mae'r canlyniad hwn yn ei olygu i'ch babi
― Beichiogrwydd yn y dyfodol a'ch teulu ehangach
― Rhagor o wybodaeth a chymorth
― Defnyddio eich gwybodaeth
Mae canlyniadau prawf gwaed sgrinio ‘pigo sawdl’ eich babi yn dangos nad oes gan eich babi anhwylder y crymangelloedd.
Fodd bynnag, mae'r canlyniadau'n dangos bod eich babi'n cludo un genyn anarferol ar gyfer haemogloblin, o'r enw haemoglobin D, ac un genyn arferol. Mae hyn wedi'i ysgrifennu fel Hb AD ac fe'i gelwir yn gludydd haemoglobin D.
Haemoglobin yw'r sylwedd yn y gwaed sy'n cludo ocsigen o amgylch y corff.
Mae tua phedwar o fabanod sy'n cael eu geni yng Nghymru bob blwyddyn â chanlyniad sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig cludydd haemoglobin anarferol.
Mae'r wybodaeth hon yn esbonio beth mae bod yn gludydd genyn haemoglobin anarferol yn ei olygu i'ch babi, i chi a'ch teulu ehangach.
Mae babanod yn etifeddu nodweddion o enynnau eu rhieni. Er enghraifft, mae genynnau’n rheoli lliw eu croen, eu gwallt a'u llygaid.
Ar gyfer pob nodwedd, mae eich babi'n cael un genyn oddi wrth ei fam fiolegol ac un oddi wrth ei dad biolegol. Mae genynnau hefyd yn rheoli’r math o haemoglobin y mae'n ei etifeddu.
Mae eich mae'r babi'n gludydd gan ei fod wedi etifeddu un genyn sy'n gwneud haemoglobin arferol gan un rhiant ac un genyn sy'n gwneud haemoglobin anarferol gan y rhiant arall.
Ni fydd eich babi byth yn datblygu anhwylder haemoglobin oherwydd iddo etifeddu un genyn arferol, ond bydd bob amser yn gludydd.
Mae cludydd haemoglobin D yn iach ac ni fydd angen cymorth meddygol arno i fyw bywyd arferol.
Nid yw haemoglobin D yr un peth â haemoglobin S (crymangelloedd). Nid yw cludydd haemoglobin D yn cludo anhwylder y crymangelloedd. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod eich babi'n tyfu i fyny yn gwybod am fod yn gludydd haemoglobin D ac yn deall y risgiau dan sylw os yw am gael teulu.
Os bydd yn cael babi gyda rhywun sy'n gludydd haemoglobin S, byddai siawns 1 mewn 4 (25%) y byddai gan ei fabi glefyd haemoglobin SD. Anhwylder y crymangelloedd yw hwn a byddai angen triniaeth gydol oes arno. Gweler y diagram isod.
Mae’r siawns a ddangosir yn y diagram uchod yr un fath ym mhob beichiogrwydd ar gyfer y cwpl hwn.
Gallai eu babi etifeddu dau enyn sy'n gwneud haemoglobin anarferol. Os bydd hyn yn digwydd, bydd gan eu babi anhwylder haemoglobin. Mae siawns 1 mewn 4 (25%) y bydd hyn yn digwydd.
Gallai eu babi etifeddu un genyn sy'n gwneud haemoglobin arferol ac un genyn sy'n gwneud haemoglobin anarferol. Os bydd hyn yn digwydd, bydd yn gludydd. Mae siawns 2 mewn 4 (50%) y bydd hyn yn digwydd.
Gallai eu babi etifeddu dau enyn arferol. Os bydd hyn yn digwydd, ni fydd yn effeithio ar y babi. Mae siawns 1 mewn 4 (25%) y bydd hyn yn digwydd.
Pan fydd eich babi'n tyfu i fyny gall ofyn i unrhyw bartner yn y dyfodol gael prawf i weld a yw hefyd yn cario genyn haemoglobin anarferol. Mae cwnsela'r GIG ar gael i esbonio'r risgiau a'r dewisiadau dan sylw.
Mae rhywfaint o dystiolaeth bod bod yn gludydd genyn haemoglobin anarferol yn rhoi rhywfaint o amddiffyniad i blant yn erbyn malaria, ond dim ond yn ystod ychydig flynyddoedd cyntaf eu bywyd.
Mae’n bwysig bod eich plentyn yn cymryd yr holl gamau diogelu arferol os yw'n teithio i wlad lle mae risg o gael malaria. Mae’r camau hynny’n cynnwys cymryd cyffuriau gwrth-falaria.
Etifeddodd eich babi enyn anarferol gennych chi neu'ch partner. Mae hyn yn golygu eich bod chi, tad eich babi neu'r ddau ohonoch hefyd yn gludwyr.
Rydym yn argymell eich bod chi a'ch partner yn cael prawf i ddarganfod pwy sy'n gludydd os nad oeddech eisoes wedi cael y wybodaeth hon yn ystod beichiogrwydd. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych yn ystyried cael babi arall. Os yw'r ddau ohonoch yn gludwyr, gallai eich babi nesaf gael anhwylder haemoglobin.
Mae’r prawf yn brawf gwaed sy’n cymryd ychydig funudau’n unig. I drefnu'r prawf, siaradwch â'ch meddyg teulu. Os ydych yn cael eich atgyfeirio i'r Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS) byddant hefyd yn gallu trefnu'r prawf i chi.
Efallai y bydd yn syniad da annog aelodau eraill o'ch teulu, fel brodyr, chwiorydd, modrybedd, ewythrod a chefndryd, i gael prawf cyn iddynt ddechrau teulu, rhag ofn eu bod yn gludwyr hefyd. Gall dangos y wybodaeth hon iddynt fod o gymorth.
Os hoffech drafod canlyniad cludydd haemoglobin D eich babi a chael rhagor o wybodaeth am sut y gallai effeithio ar feichiogrwydd yn y dyfodol, gallwch gael eich atgyfeirio i'r Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS). Siaradwch â'ch ymwelydd iechyd a fydd yn gallu trefnu hyn i chi.
Er mwyn i ni gysylltu â chi fel rhan o'r rhaglen, bydd angen i ni ymdrin â rhywfaint o'ch gwybodaeth bersonol chi a'ch babi. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am hyn, gallwch:
Rydym hefyd yn cadw manylion personol i sicrhau bod safon ein gwasanaeth mor uchel â phosibl. Mae hyn yn cynnwys gwirio cofnodion eich babi os canfyddir bod gan eich babi gyflwr ar ôl cael prawf sgrinio a ddangosodd ganlyniad ‘dim achos a amheuir’.
Dim ond fel ystadegau rydym yn cyhoeddi gwybodaeth ac nid ydym byth yn cyhoeddi manylion personol. Rydym yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i weithwyr iechyd proffesiynol neu sefydliadau y mae ei hangen arnynt, gan gynnwys eich meddyg teulu, ymwelydd iechyd a phediatregydd ymgynghorol. Rhaid i'r gweithwyr proffesiynol hyn ddiogelu'ch gwybodaeth bersonol yn yr un modd ag y byddwn ni.
Mae ein holl gofnodion papur a chyfrifiadurol yn cael eu storio a'u prosesu'n ddiogel, i ffwrdd o fynediad cyhoeddus.
Gwybodaeth wedi'i haddasu o adnodd a ddatblygwyd gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr ar gyfer y GIG.