Cynnwys
― Canlyniad sgrinio eich babi
― Beth yw MCADD?
― Triniaeth
― Beth sy'n digwydd nesaf?
― Achosion a mathau o CHT
― Gwneud diagnosis o CHT
― Rhagor o wybodaeth a chymorth
― Defnyddio eich gwybodaeth
Mae canlyniad prawf gwaed sgrinio ‘pigo sawdl’ eich babi yn awgrymu y gallai fod ganddo hypothyroidedd cynhenid (CHT). Mae angen profion pellach ar eich babi nawr i weld a oes ganddo CHT ai peidio.
Mae'r daflen hon yn rhoi rhywfaint o wybodaeth am CHT ac yn esbonio beth sy'n digwydd nesaf.
Bob blwyddyn yng Nghymru, mae tua 18 o fabanod yn cael eu geni â hypothyroidedd cynhenid (CHT). Mae cynhenid yn golygu bod y babi yn cael ei eni â'r cyflwr.
Nid yw babanod â CHT yn creu digon o'r hormon thyrocsin, sy'n sylwedd naturiol pwysig a wneir yn y corff. Mae thyrocsin yn cael ei greu gan chwarren yn y gwddf, sef y thyroid. Heb thyrocsin, nid yw babanod yn tyfu’n iawn a gallant ddatblygu anableddau corfforol a meddyliol parhaol. Ni ellir gwella CHT ond gellir ei drin yn syml ac yn llwyddiannus.
Ar hyn o bryd nid oes ffordd ddibynadwy o ganfod CHT cyn geni ac nid oes ffordd o atal babanod rhag cael eu geni â CHT. Mae sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig yn hanfodol gan ei fod yn helpu i nodi babanod â CHT cyn i'r lefelau hormon thyroid isel achosi niwed parhaol.
Efallai y bydd gan rai babanod sy'n cael eu geni â CHT symptomau fel clefyd melyn (sy'n achosi i'r croen a gwyn y llygaid felynu), croen sych, amrannau chwyddog, tafod mawr, crio cryg, problemau bwydo, rhwymedd a bod yn gysglyd.
Gall plant â CHT fyw bywydau llawn ac egnïol, fel plant eraill, cyn belled â'u bod yn cymryd eu meddyginiaeth bob dydd. Gall rhai plant ddatblygu problemau ysgafn gyda dysgu a lletchwithdod, ac efallai y bydd angen help ychwanegol arnynt. Gall fod risg ychydig yn uwch o broblemau clyw.
Y driniaeth ar gyfer CHT yw cymryd lefothyrocsin (thyrocsin) drwy'r geg unwaith y dydd. Mae hyn yn cymryd lle'r thyrocsin na all y corff ei greu. Dylai babanod ddechrau triniaeth yn brydlon yn ystod yr wythnosau cyntaf ar ôl eu geni. Mae astudiaethau o blant sy'n cymryd lefothyrocsin yn dangos bod y driniaeth hon yn ddiogel ac yn effeithiol oherwydd bod yr hyn nad yw'r corff yn ei greu yn iawn yn cael ei roi yn ôl yn y corff.
Byddwch yn cael apwyntiad i weld meddyg arbenigol cyn gynted â phosibl. Bydd y meddyg yn gallu trafod canlyniad y prawf sgrinio gyda chi ac archwilio eich babi. Bydd yn trefnu profion gwaed pellach i ganfod a oes gan eich babi CHT.
Gall CHT ddigwydd ar hap ond mewn rhai achosion gellir ei etifeddu. Nid oes unrhyw beth y gallai rhieni babi â CHT fod wedi'i wneud i'w atal.
Gall babanod ddatblygu CHT am resymau gwahanol, fel a ganlyn.
1. Nid yw'r chwarren thyroid wedi datblygu'n normal
Efallai na fydd y chwarren thyroid yn cyrraedd ei lle priodol yn y gwddf yn ystod datblygiad yn y groth, neu gall fod yn rhy fach neu hyd yn oed ar goll yn llwyr. Fel arfer, nid oes hanes teuluol o CHT yn y babanod hyn. Mae'r siawns y bydd rhiant yn cael babi arall â CHT yn isel iawn.
2. Nid yw'r chwarren thyroid yn creu thyrocsin
I rai babanod sydd â CHT, mae'r chwarren thyroid yn y lle arferol ac efallai y bydd hyd yn oed yn fwy, ond nid yw'n creu digon o thyrocsin oherwydd problem ‘llinell gynhyrchu’ sylfaenol. Yn y teuluoedd hyn, efallai y bydd perthnasau eraill â chyflyrau thyroid ac mae siawns o gael babi arall â CHT. Os ydych yn bwriadu cael rhagor o blant, efallai y byddwch am drafod hyn gyda'ch tîm gofal iechyd.
Smotyn gwaed newydd-anedig (prawf ‘pigo sawdl’)
Mae'r prawf sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig yn mesur lefel yr hormon sy'n ysgogi'r thyroid (TSH) yng ngwaed y babi. Mae TSH yn sbarduno'r chwarren thyroid i greu thyrocsin. Mae lefel uchel o TSH yn awgrymu nad yw thyroid y babi yn gweithio'n iawn i greu digon o thyrocsin. Bydd angen rhagor o brofion gwaed i ganfod a oes gan eich babi CHT.
Profion gwaed pellach
Gwneir ail brawf gwaed i wirio canlyniadau'r prawf sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig. Mae hyn yn mesur lefel y TSH eto a hefyd lefel y thyrocsin yn y gwaed. Lefel uchel o TSH ynghyd â lefel isel o thyrocsin (a fesurir fel ‘T4 rhydd’) yw'r patrwm sydd fel arfer yn cael ei weld gyda CHT.
Sganiau thyroid
Efallai yr argymhellir sgan thyroid. Mae sganiau thyroid yn ddiogel iawn a gallant roi gwybodaeth am y math o CHT ac a yw hyn debygol o fod yn barhaol. Gallant helpu i ddarganfod a oes siawns y bydd gan blant yn y dyfodol CHT.
Mae dau fath gwahanol o sgan thyroid, fel a ganlyn.
Sgan uwchsain o'r gwddf
Mae'r sgan uwchsain yn edrych ar safle, siâp a maint y thyroid.
Sgan derbyniad thyroid
Gall y prawf hwn roi darlun o'r chwarren thyroid a gall helpu i weld sut y mae'n gweithio. Mae dos bach o gemegyn yn cael ei chwistrellu i mewn i'r gwaed cyn gwneud sgan o'r gwddf. Mae chwarren thyroid weithredol (normal) yn ‘derbyn’ y cemegyn a gellir gweld ei safle ar y sgan. Efallai na fydd chwarren thyroid danweithredol yn derbyn llawer o gemegau.
Profion ar gyfer y fam
Efallai y gofynnir i fam y babi gael profion gwaed i wirio am unrhyw annormaleddau a allai fod wedi effeithio ar ganlyniadau'r babi.
Bydd y tîm gofal iechyd sy'n gyfrifol am ofal eich babi yn fwy na pharod i drafod unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn y gwefannau canlynol.
Er mwyn i ni gysylltu â chi fel rhan o'r rhaglen, bydd angen i ni ymdrin â rhywfaint o'ch gwybodaeth bersonol chi a'ch babi. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am hyn, gallwch:
Rydym hefyd yn cadw manylion personol i sicrhau bod safon ein gwasanaeth mor uchel â phosibl. Mae hyn yn cynnwys gwirio cofnodion eich babi os canfyddir bod gan eich babi gyflwr ar ôl cael prawf sgrinio a ddangosodd ganlyniad ‘dim achos a amheuir’.
Dim ond fel ystadegau rydym yn cyhoeddi gwybodaeth ac nid ydym byth yn cyhoeddi manylion personol. Rydym yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i weithwyr iechyd proffesiynol neu sefydliadau y mae ei hangen arnynt, gan gynnwys eich meddyg teulu, ymwelydd iechyd a phediatregydd ymgynghorol. Rhaid i'r gweithwyr proffesiynol hyn ddiogelu'r wybodaeth bersonol yn yr un modd ag y byddwn ni.
Mae ein holl gofnodion papur a chyfrifiadurol yn cael eu storio a'u prosesu'n ddiogel, ac ni all y cyhoedd gael mynediad atynt.