Cynnwys
― Canlyniad sgrinio eich babi
― Beth yw anhwylderau'r crymangelloedd
― Triniaeth
― Beth sy'n digwydd nesaf?
― Ateb eich cwestiynau
― Rhagor o wybodaeth a chymorth
― Defnyddio eich gwybodaeth
Mae canlyniad prawf gwaed sgrinio ‘pigo sawdl’ eich babi yn awgrymu y gallai fod ganddo anhwylder y crymangelloedd. Mae angen profion pellach ar eich babi nawr i weld a oes ganddo anhwylder y crymangelloedd ai peidio.
Mae'r daflen hon yn rhoi rhywfaint o wybodaeth i chi am anhwylderau'r crymangelloedd ac yn esbonio beth sy'n digwydd nesaf.
Mae anhwylderau'r crymangelloedd yn gyflyrau lle gall celloedd coch y gwaed fod ar ffurf cryman neu leuad gilgant. Mae celloedd coch y gwaed yn cynnwys haemoglobin, sy'n gyfrifol am gario ocsigen o'r ysgyfaint i'r meinweoedd yn y corff. Gydag anhwylderau'r crymangelloedd, mae celloedd coch y gwaed yn cynnwys haemoglobin S yn hytrach na'r haemoglobin A arferol. Mae hyn yn achosi i gelloedd coch y gwaed newid siâp pan fydd y gell wedi rhyddhau ocsigen. Nid yw celloedd coch siâp cryman yn y gwaed mor hyblyg â chelloedd siâp arferol yn y gwaed a gallant fynd yn sownd yn y pibellau gwaed bach. Gall hyn achosi poen, anemia, niwed i feinwe a haint.
Yn ystod y tri mis i chwe mis cyntaf o fywyd, efallai na fydd eich plentyn yn dangos arwyddion o anhwylder y crymangelloedd oherwydd bod lefel uchel o haemoglobin babi (haemoglobin F) ar adeg geni. Mae haemoglobin F yn atal celloedd coch y gwaed rhag newid siâp. Dros flwyddyn gyntaf bywyd mae'r lefelau haemoglobin F yn lleihau, ond bydd rhai plant yn parhau i greu lefelau uwch o haemoglobin F hyd yn oed pan fyddant yn oedolion.
Mae sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig yn golygu y gellir nodi babanod ag SCD a rhoi triniaeth gynnar iddynt cyn bod problemau'n debygol o ddatblygu.
Ar gyfer y rhan fwyaf o fabanod ag anhwylder y crymangelloedd wedi'i gadarnhau, mae'r driniaeth yn cynnwys monitro iechyd, meddyginiaeth, addysg a chymorth drwy gydol eu hoes i osgoi ac atal cymhlethdodau anhwylder y crymangelloedd gymaint â phosibl. Mae hyn yn galluogi plant i fyw bywyd mor egnïol, iach a bodlon â phosibl. Bydd plant ag anhwylder y crymangelloedd o dan ofal tîm meddygol arbenigol.
Mae'r driniaeth fel arfer gyda gwrthfiotigau rheolaidd i atal haint, ac mae'n bwysig bod eich plentyn yn cael ei frechiadau arferol.
Byddwch yn cael apwyntiad i weld tîm meddygol arbenigol a fydd yn:
Beth sy'n digwydd os bydd fy mabi'n mynd yn sâl cyn ein hapwyntiad gyda'r tîm meddygol arbenigol?
Os bydd eich babi'n mynd yn sâl dylech gael cyngor meddygol yn gyflym. Mae’n bwysig bod y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol y byddwch yn cysylltu ag ef yn ymwybodol o'r canlyniad sgrinio hwn ar gyfer anhwylderau'r crymangelloedd ac awgrymwn eich bod yn dangos y daflen hon iddynt.
Pam mae gan rai plant anhwylderau'r crymangelloedd?
Mae anhwylderau'r crymangelloedd yn gyflyrau a etifeddir. Nid ydynt yn cael eu hachosi gan unrhyw beth a ddigwyddodd yn ystod beichiogrwydd.
Mae gan fabi ddau gopi o'r genyn haemoglobin Mewn babi sy'n cael ei eni ag anhwylder y crymangelloedd, nid yw'r naill gopi o'r genynnau haemoglobin yn gweithio'n gywir oherwydd bod newid yn y ddau enyn (a elwir hefyd yn ‘amrywolyn genynnau’). Mae'r newid hwn yn effeithio ar strwythur haemoglobin.
Sut beth yw bywyd i blant ag anhwylderau'r crymangelloedd?
Mae anhwylderau'r crymangelloedd yn amrywio'n fawr o ran pa mor ddifrifol ydynt ac mae'n anodd rhagweld sut y bydd yr anhwylder yn effeithio ar unigolyn. Gellir gwella ansawdd bywyd os bydd y cyflwr yn cael ei nodi'n gynnar a'i drin â gwrthfiotigau. Mae addysg a chymorth i'r teulu a mynediad i ofal gan dîm meddygol arbenigol hefyd yn helpu i wella ansawdd bywyd.
A fydd gan aelodau eraill o'r teulu anhwylder y crymangelloedd hefyd?
Os cadarnheir bod gan fabi anhwylder y crymangelloedd, mae'r risg i rieni o gael plentyn arall ag anhwylder y crymangelloedd yn 1 mewn 4 (25%) i bob plentyn. Gellir atgyfeirio rhieni neu aelodau eraill o'r teulu i wasanaethau genetig arbenigol i gael rhagor o wybodaeth a chyngor os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Er mwyn i ni gysylltu â chi fel rhan o'r rhaglen, bydd angen i ni ymdrin â rhywfaint o'ch gwybodaeth bersonol chi a'ch babi. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am hyn, gallwch:
Rydym hefyd yn cadw manylion personol i sicrhau bod safon ein gwasanaeth mor uchel â phosibl. Mae hyn yn cynnwys gwirio cofnodion eich babi os canfyddir bod gan eich babi gyflwr ar ôl cael prawf sgrinio a ddangosodd ganlyniad ‘dim achos a amheuir’.
Dim ond fel ystadegau rydym yn cyhoeddi gwybodaeth ac nid ydym byth yn cyhoeddi manylion personol. Rydym yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i weithwyr iechyd proffesiynol neu sefydliadau y mae ei hangen arnynt, gan gynnwys eich meddyg teulu, ymwelydd iechyd a phediatregydd ymgynghorol. Rhaid i'r gweithwyr proffesiynol hyn ddiogelu'r wybodaeth bersonol yn yr un modd ag y byddwn ni.
Mae ein holl gofnodion papur a chyfrifiadurol yn cael eu storio a'u prosesu'n ddiogel, ac ni all y cyhoedd gael mynediad atynt.