Gallwn ni i gyd chwarae ein rhan wrth gefnogi cymunedau i gael mynediad at yr wybodaeth gywir, i helpu i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth ynghylch profion sgrinio.
Mae gennym ystod o wybodaeth ac adnoddau a fydd yn eich helpu i wneud y canlynol:
gwella dealltwriaeth pobl o sgrinio;
cefnogi pobl i gael mynediad at wasanaethau sgrinio; a
Chodi ymwybyddiaeth o brofion sgrinio yn y gymuned.
| Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am sgrinio a chymorth ymarferol i ofalwyr a darparwyr gofal, pobl draws neu anneuaidd a chymunedau lleiafrifoedd ethnig. |
HyfforddiantRydym yn cynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth o sgrinio am ddim i bobl sydd â rôl weithredol yn hyrwyddo iechyd a llesiant. |
Tystiolaeth YmchwilYma gallwch ddod o hyd i amrywiaeth o dystiolaeth ymchwil y gallwch ei defnyddio i lywio sut rydych chi'n gweithio yn eich cymuned. |
Adnoddau GwybodaethMae gennym amrywiaeth o adnoddau gwybodaeth, gan gynnwys Hawdd ei Deall, sydd am ddim i chi eu lawrlwytho. Mae yna amrywiaeth o fideos ar gael i chi eu gwylio, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain. Gallwch chi rannu'r rhain gyda'r cymunedau rydych chi'n eu cefnogi. |
Adnoddau DigidolMae gennym amrywiaeth o adnoddau digidol gan gynnwys posteri, ffeithluniau a gwybodaeth ar gyfer cylchlythyrau a bwletinau cymunedol. Gallwch lawrlwytho a rhannu'r adnoddau hyn drwy gyfryngau cymdeithasol, apiau negeseuon ac ar sgriniau monitor. |
|
|
|
Cysylltwch â NiOs ydych chi am siarad â ni am gydweithio, cysylltwch â'r: ymgysylltu.sgrinio@wales.nhs.uk |
|
|