Neidio i'r prif gynnwy

Coluddyn Ecogenig

Mae'r wybodaeth hon ar eich cyfer chi os yw sgan anomaledd y ffetws yn dangos bod gan eich babi goluddyn ecogenic.

Mae'r wybodaeth yn berthnasol os mai coluddyn ecogenic yw'r unig ganfyddiad annisgwyl ar y sgan (a elwir yn goluddyn ecogenic ynysig)


 

 

Cynnwys

― Coluddyn ecogenig
Beth yw coluddyn ecogenig?
Ffeibrosis systig
Sytomegalofeirws
― Beth fydd yn digwydd nesaf?
― Pa brofion fydd yn cael eu cynnig i mi?
― Mwy o wybodaeth

 

Mae pob menyw yng Nghymru yn cael cynnig sgan anomaledd y ffetws pan fydd rhwng 18 ac 20 wythnos yn feichiog. Mae'r scan yn ffordd o wirio ei bod yn ymddangos bod eich babi'n datblygu yn ôl y disgwyl. Mae hyn yn golygu y gall ddangos canfyddiadau annisgwyl y byddai angen eu gwirio wedyn drwy brofion eraill.

Coluddyn ecogenig

Mae coluddyn ecogenig yn cael ei ganfod mewn tua 4 o bob 1000 (0.4%) o sganiau anomaledd y ffetws yng Nghymru.

Beth yw coluddyn ecogenig?

Coluddyn ecogenig (sydd weithiau’n cael ei alw’n berfedd ecogenig) yw pan fydd rhan o goluddyn babi yn edrych yn fwy llachar (yn fwy gwyn) nag esgyrn y babi ar sgan uwchsain.

Credir mai un o brif achosion coluddyn ecogenig yw rhywfaint o hylif wedi’i staenio â gwaed yng ngholuddyn y babi, gan fod y babi wedi’i lyncu fwy na thebyg. Mae’r babi fel arfer yn llyncu hylif amniotig, ac felly os bydd gwaed yn yr hylif amniotig, bydd yn ymddangos yn fwy llachar na hylif amniotig clir ar y sgan.

Yng Nghymru, os mai coluddyn ecogenig yw’r unig beth sy’n cael ei ganfod ar y sgan 18 i 20 wythnos, mae tua 7 o bob 10 babi (70%) yn cael ei eni heb unrhyw gyflyrau eraill sy’n gysylltiedig â choluddyn ecogenig.

Dyma rai o’r cyflyrau a ganfuwyd ymysg babanod â choluddyn ecogenig.

  • Geni babanod llai na’r disgwyl (tua 9 o bob 100 babi (9%))  
  • Geni babanod yn rhy gynnar (tua 12 o bob 100 babi (12%))
  • Achosion uwch na’r disgwyl o farw-enedigaethau (tua 3 o bob 100 babi (3%))
  • Babanod yn cael eu geni â ffeibrosis systig (2 o bob 100 (2%))
  • Babanod yn cael eu geni â sytomegalofeirws (cytamegalovirus) (2 o bob 100 (2%))

Ffeibrosis systig

Mae ffeibrosis systig yn cael ei achosi gan newid i enyn (gene) y mae babi yn ei etifeddu gan y ddau riant. Bydd babanod sy’n dioddef o ffeibrosis systig yn wynebu problemau o ran treulio bwyd ac efallai’n cael trafferth magu pwysau. Maen nhw hefyd yn fwy tebygol o gael haint ar y frest yn aml.

Sytomegalofeirws

Feirws cyffredin yw sytomegalofeirws (CMV) ac mae’n aelod o deulu’r feirws herpes. Caiff ei gludo’n aml mewn diferion bach iawn yn yr aer wrth i rywun besychu neu disian. Mae hefyd yn gallu cael ei drosglwyddo wrth gael rhyw a thrallwysiad gwaed.

Gall haint CMV yn ystod beichiogrwydd achosi problemau i’r babi megis clefyd melyn, colli clyw, colli golwg, epilepsi, dyspracsia (diffyg cydlyniant corfforol) ac anawsterau dysgu.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd bydwraig sy'n arbenigo mewn sgrinio cyn geni neu eich meddyg ysbyty (obstetregydd) yn eich gweld a byddant yn esbonio pa ofal a gynigir i chi nesaf.

Bydd bydwraig a meddyg yn yr ysbyty yn esbonio mwy am y cyflyrau ac am y profion y gallwch eu cael a sut y byddan nhw’n cael eu cynnal a phryd y gallwch eu cael.

Oherwydd y canfyddiadau annisgwyl hyn byddwch yn cael cynnig apwyntiad gydag ymgynghorydd meddygaeth y ffetws. Efallai y bydd yr apwyntiad hwn yn yr ysbyty lle rydych wedi trefnu geni eich babi.

Yn ystod yr apwyntiad hwn, bydd ymgynghorydd meddygaeth y ffetws yn esbonio mwy am y cyflwr ac am brofion pellach y gellir eu cynnig i chi a sut y cânt eu cynnal.

Bydd rhai menywod yn penderfynu peidio â chael y profion hyn. Bydd y fydwraig a’r meddyg yn eich cefnogi beth bynnag fydd eich dewis.

Efallai y bydd gennych gwestiynau i’r fydwraig neu’r meddyg ac efallai yr hoffech gael apwyntiad arall. Efallai y byddwch am i’ch partner neu ffrind ddod gyda chi hefyd, ac efallai yr hoffech gael mwy o amser i feddwl cyn penderfynu beth i’w wneud nesaf.

Efallai yr hoffech ystyried beth i’w wneud os bydd canlyniad y prawf yn dangos bod gan eich babi un o’r cyflyrau. Bydd rhai menywod am baratoi eu hunain ar gyfer yr enedigaeth gan wybod bod cyflwr gan eu babi. Efallai bydd menywod eraill yn penderfynu dod â’r beichiogrwydd i ben.

Pa brofion fydd yn cael eu cynnig i mi?

  • Prawf gwaed ar gyfer ffeibrosis systig

Caiff prawf gwaed ei gynnig i chi a thad y babi er mwyn canfod a ydych yn cludo newid yn y genyn ffeibrosis systig. Fel arfer, mae’n rhaid i’r ddau riant fod yn cludo ffeibrosis systig er mwyn i fabi gael y cyflwr. Os canfyddir bod y ddau ohonoch yn cludo ffeibrosis systig, mae un siawns ym mhob 4 y bydd gan eich babi’r cyflwr.

Os oes gan eich babi goluddyn ecogenig a'ch bod chi a'r tad yn gludwyr ffeibrosis systig, mae gan eich babi siawns uwch nag 1 ym mhob 4 o gael ffeibrosis systig. Os bydd hyn yn cael ei ganfod, cewch gynnig amniosentesis i brofi’r hylif amniotig (yr hylif o amgylch y babi yn y groth) i weld a oes gan eich babi’r cyflwr.

Efallai y byddwch am aros nes bydd eich babi yn cael ei eni i ganfod a yw’n dioddef o ffeibrosis systig. Os gwelir eich bod chi a thad y baban yn gludwyr ffeibrosis systig a'ch bod yn dewis aros nes i'ch babi gael ei eni, byddwch yn cael cynnig prawf gwaed i'r babi yn fuan ar ôl yr enedigaeth. Caiff y prawf sgrinio ar gyfer ffeibrosis systig hefyd ei gynnig fel rhan o brawf sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig sy’n cael ei gynnal pan fydd y babi yn bum diwrnod oed, gyda phrawf arall i ddilyn er mwyn gwneud diagnosis o ffeibrosis systig os amheuwyd hynny yn ystod y prawf sgrinio cychwynnol.

Mae gwahanol fathau o newidiadau i enynnau ffeibrosis systig. Nid yw eich profi chi a thad y babi yn canfod yr holl newidiadau, felly gallech fod yn gludwr ffeibrosis systig o hyd.

  • Prawf gwaed ar gyfer sytomegalofeirws (CMV)

Caiff prawf gwaed ei gynnig i chi er mwyn canfod a ydych wedi cael haint CMV yn ddiweddar. Os bydd y prawf gwaed yn dangos eich bod wedi cael haint CMV yn ddiweddar, mae’n bosibl y bydd y feirws yn cael ei drosglwyddo drwy’r brych ac yn heintio’r babi. Yr enw ar hyn yw CMV cynhenid.

Os bydd eich prawf gwaed yn dangos eich bod wedi cael haint yn ddiweddar, cewch gynnig amniosentesis i brofi’r hylif amniotig a gweld a yw’r CMV wedi heintio eich babi. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am amniosentesis yn Sgrinio Cyn-geni Cymru ‘Mae’r wybodaeth hon i chi os ydych wedi cael cynnig mwy o brofion ar gyfer cyflyrau cromosaidd posibl’

  • Sganiau uwchsain

Byddwch yn cael cynnig sganiau uwchsain rheolaidd i wirio twf eich babi.

Mwy o wybodaeth

Gallwch gael mwy o wybodaeth gan fydwraig yr ysbyty sy’n arbenigo mewn sgrinio cyn-geni neu feddyg yr ysbyty (obstetregydd).

Antenatal Results and Choices (ARC)

Llinell gymorth: 0845 077 2290 neu  0207 713 7486 o ffôn symudol

E-bost: info@arc-uk.org

Gwefan: www.arc-uk.org

Yr Ymddiriedolaeth Ffeibrosis Systig

Gwefan: www.cysticfibrosis.org.uk

Ffôn: 02037951555

CMV Action

Ffôn: 0808 802 0030

E-bost: info@cmvaction.org.uk

Gwefan: cmvaction.org.uk