Cynnwys
― Beth mae canlyniad y prawf gwaed wedi’i ddangos?
― Pam mae prawf gwaed yn rhoi canlyniad aneglur?
― Rhagor o brofion yn ystod eich beichiogrwydd
― Y camau nesaf
Mae’ch prawf gwaed cychwynnol wedi rhoi canlyniad adweithiol (aneglur). Nid yw’r canlyniad hwn yn golygu bod gennych haint.
Mae pob prawf mewn labordy’n gallu rhoi canlyniad aneglur. Adwaith gwan i’r prawf gwaed sydd fel arfer wedi achosi’r canlyniad yma. Mae nifer o resymau pam y gallai’r prawf gwaed fod wedi rhoi canlyniad aneglur i chi, er nad oes haint arnoch efallai. Gall fod:
Yn aml iawn nid oes rheswm amlwg dros gael canlyniad aneglur.
Cynghorir eich bod yn cael prawf gwaed arall i gael canlyniad clir. Mae’n bwysig bod yr ail brawf gwaed hwn yn cael ei gymryd er mwyn i chi gael canlyniad pendant.
Byddwch fel arfer yn cael cais i roi'r ail sampl gwaed yn ystod un o’ch apwyntiadau nesaf yn y clinig cyn geni. Efallai y bydd eich bydwraig yn gofyn rhai cwestiynau i chi a fydd yn helpu chi'ch dau i benderfynu gyda’ch gilydd ar yr adeg orau i dynnu’r ail sampl gwaed. Ambell waith bydd angen tynnu mwy nag un sampl arall o waed cyn gallu rhoi canlyniad pendant i chi.