Tryleuder y gwegil 3.5mm a throsodd
Tryleuder y gwegil yw’r casgliad bach o hylif yng nghefn gwddf y babi sy’n cael ei mesur gan y sonograffydd os bydd yn credu ei bod yn edrych yn fawr neu os ydych wedi gofyn am brawf sgrinio ar gyfer syndrom Down (T21), syndrom Edwards (T18) a syndrom Patau (T13).
Ni fydd gan y rhan fwyaf o fabanod y mae tryleuder y gwegil yn mesur 3.5mm a throsodd unrhyw broblemau eraill. Fodd bynnag, mae’n llawer mwy tebygol y gallai fod gan y babanod hyn broblemau penodol, a bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wedi trafod y rhain gyda chi. Un o’r rhain yw bod y babi yn llawer mwy tebygol na’r rhan fwyaf o fabanod o fod â newid cromosomaidd.
Efallai eich bod wedi dewis cael prawf sgrinio ar gyfer syndrom Down, syndrom Edwards a syndrom Patau ac efallai fod yr obstetregydd wedi trafod canlyniad y prawf hwn gyda chi.
Efallai y byddwn yn cynnig prawf samplu filws corionig (CVS) neu amniosentesis i chi i weld a oes gan eich babi newid cromosomaidd. Os byddwn yn cynnig prawf CVS neu amniosentesis i chi, dylech fod yn ymwybodol bod gan y profion hyn risg fach o achosi camesgoriad.
Canfyddiadau eraill yn y sgan dyddio beichiogrwydd cynnar – bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn trafod canfyddiadau’r sgan gyda chi ac yn dweud wrthych pa brofion y byddant yn eu cynnig. Byddant yn dweud wrthych pa adrannau o’r llyfryn hwn sy’n berthnasol i chi.