Neidio i'r prif gynnwy

Adran 2 - Beth yw syndrom Down a byw gyda syndrom Down (trisomedd 21 neu T21)?

 

Beth yw syndrom Down?

Cyflwr genetig sy’n cael ei achosi gan gromosom 21 ychwanegol ym mhob cell neu mewn rhai celloedd yw syndrom Down. Mae syndrom Down hefyd yn cael ei alw’n trisomedd 21, neu T21. Mae gan unigolyn â syndrom Down 47 cromosom yn hytrach na’r 46 arferol. Nid yw’n bosibl tynnu’r cromosom ychwanegol o’r celloedd hyd yn oed os bydd diagnosis o syndrom Down yn cael ei wneud cyn i’r babi gael ei eni.

Mae gan bob menyw siawns o gael babi â syndrom Down. Does dim yr ydych chi a thad y babi wedi’i wneud, neu ddim wedi’i wneud, yn gwneud unrhyw wahaniaeth i’r siawns hon.

Bydd gan bob unigolyn â syndrom Down anabledd dysgu. Mae hyn yn golygu y gall eu datblygiad fod yn araf ac y byddant yn cymryd mwy o amser i ddysgu pethau newydd. Y dyddiau hyn mae gwell dealltwriaeth o sut mae plant â syndrom Down yn  dysgu, ac mae help ar gael mewn lleoliadau addysg. Ni fydd y profion cyn geni yn gallu dweud wrthych beth fydd anghenion iechyd a chymorth eich babi.

Gallwch wylio rhai straeon teuluol am fyw gyda syndrom Down yma.

Mae sefydliadau cymorth ar gael i fenywod beichiog ac i deuluoedd sydd â phlentyn â syndrom Down. Mae’r rhain yn cynnwys Cymdeithas Syndrom Down (DSA).  

Plant ac oedolion â syndrom Down

Mae’r rhan fwyaf o blant ac oedolion sydd â syndrom Down yn byw bywydau iach a bodlon ac maent yn rhan o’u cymuned. Mae’r rhan fwyaf yn dweud eu bod yn mwynhau eu bywydau a’u perthnasoedd. Mae llawer o oedolion yn gallu gweithio a byw yn eu llety eu hunain, gyda chymorth. Bydd y rhan fwyaf o blant â syndrom Down nad oes ganddynt gyflwr iechyd difrifol, yn byw tan eu 60au neu’n hirach.

Mae’r rhan fwyaf o blant â syndrom Down yn mynd i ysgolion prif ffrwd. Mae rhai cyflyrau iechyd yn fwy cyffredin mewn pobl â syndrom Down. Mae’r rhain yn cynnwys cyflyrau’r galon, y golwg a’r clyw.