Neidio i'r prif gynnwy

Adran 2 - Beth yw syndrom Down a byw gyda syndrom Down?

 

Beth yw syndrom Down?

Cyflwr genetig sy’n cael ei achosi gan gromosom 21 ychwanegol ym mhob cell neu mewn rhai celloedd yw syndrom Down. Mae syndrom Down hefyd yn cael ei alw'n trisomedd 21, neu T21. Mae gan unigolyn â syndrom Down 47 cromosom yn hytrach na’r 46 arferol. Nid yw’n bosibl tynnu’r cromosom ychwanegol o’r celloedd hyd yn oed os bydd diagnosis o syndrom Down yn cael ei wneud cyn i’r babi gael ei eni.

Mae gan bob menyw siawns o gael babi â syndrom Down. Does dim yr ydych chi a thad y babi wedi’i wneud, neu ddim wedi’i wneud, yn gwneud unrhyw wahaniaeth i’r siawns hon.

Bydd gan bob unigolyn â syndrom Down anabledd dysgu. Mae hyn yn golygu y gall eu datblygiad fod yn araf ac y byddant yn cymryd mwy o amser i ddysgu pethau newydd. Y dyddiau hyn mae gwell dealltwriaeth o sut mae plant â syndrom Down yn dysgu, ac mae help ar gael mewn lleoliadau addysg. Bydd tua 80% (8 mewn 10) o blant yn mynd i ysgolion cynradd prif ffrwd, er bod unigolion yn amrywio’n sylweddol o ran eu datblygiad a bydd ganddynt anghenion iechyd a chymorth gwahanol. Ni fydd y profion cyn geni yn gallu dweud wrthych beth fydd anghenion iechyd a chymorth eich babi.

Gallwch wylio rhai straeon teuluol am fyw gyda syndrom Down yma.

Mae sefydliadau cymorth ar gael i fenywod beichiog ac i deuluoedd sydd â phlentyn â syndrom Down. Mae’r rhain yn cynnwys Cymdeithas Syndrom Down (DSA). Llinell gymorth 0333 12 12 300. 

Plant ac Oedolion â syndrom Down

Yng Nghymru mae 90% (9 mewn 10) o blant â syndrom Down yn byw heibio i’w pen-blwydd yn 5 oed. Gyda babanod sydd heb gyflyrau iechyd difrifol mae’r cyfraddau goroesi yn debyg i gyfraddau goroesi plant eraill a bydd y rhan fwyaf o bobl â syndrom Down yn byw tan eu 60au.

Mae’r rhan fwyaf o blant ac oedolion sydd â syndrom Down yn byw bywydau iach a bodlon ac maent yn rhan o’u cymuned. Mae’r rhan fwyaf yn dweud eu bod yn mwynhau eu bywydau a’u perthnasoedd. Mae llawer o oedolion yn gallu gweithio a byw yn eu llety eu hunain, gyda chymorth.

Mae pobl sy’n cael eu geni â syndrom Down yn fwy tebygol na’r rhan fwyaf o bobl o gael rhai cyflyrau meddygol.

  • Yng Nghymru bydd gan tua 60% (6 mewn 10) o blant â syndrom Down gyflwr gyda’r galon, a bydd angen llawdriniaeth ar tua (30%) (1 mewn 3) ohonynt.
  • Bydd gan y rhan fwyaf o blant â syndrom down rywfaint o anhawster gyda golwg y bydd angen ei fonitro neu ei drin. Mae anhawster mwy difrifol gyda golwg yn llai cyffredin, er enghraifft, mae 0.4% (1 mewn 250) o blant â syndrom Down yn cael eu geni â chataractau.
  • Bydd gan tua 60% (6 mewn 10) o blant â syndrom Down ryw fath o nam ar y clyw, sy’n gallu achosi heriau iaith a lleferydd.
  • Maent yn fwy tebygol o gael heintiau’r clustiau, y trwyn a’r gwddf.
  • Mae lewcemia yn fwy cyffredin ymhlith plant â syndrom Down ac ni fydd hyn yn achosi unrhyw heriau iechyd i’r rhan fwyaf. Bydd angen triniaeth ar gyfer lewcemia ar 0.5% (1 mewn 200) o blant â syndrom Down. Ar ôl cael triniaeth bydd y rhan fwyaf o blant â lewcemia yn gwella ac ni fydd ganddynt broblemau iechyd cysylltiedig.

Bydd babanod a phlant â syndrom Down yn cael gofal gan dîm meddygol arbenigol, a fydd yn ymwybodol bod ganddynt siawns uwch o gael y cyflyrau meddygol hyn a byddant yn cynnal profion i fonitro eu llesiant. Mae’n bosibl trin nifer o’r cyflyrau hyn yn effeithiol.