Cyhoeddi Tachwedd 2025, Fersiwn 3.
Cynnwys
― Sut mae canlyniad eich prawf wedi'i ysgrifennu?
― Beth mae canlyniad eich prawf gwaed yn ei olygu?
― Cyflyrau haemoglobin etifeddol
― Sut fyddai fy mabi yn etifeddu anhwylder y crymangelloedd?
― A ddylwn i ddweud wrth fy nheulu am y canlyniad?
― Y camau a'r dewisiadau nesaf
― Rhagor o wybodaeth
Mae eich canlyniad wedi'i ysgrifennu fel ' canlyniadau'n gyson â chludydd haemoglobin D (HbA/D)'. Mae'r llythyren A yn cynrychioli eich genyn haemoglobin A arferol. Mae'r llythyren D yn cynrychioli eich genyn haemoglobin D.
Mae'r llythrennau llai i'r dde o'r llythyren D yn cynrychioli'r math o enyn haemoglobin D. Er enghraifft, D Punjab neu D Los Angeles.
Haemoglobin yw'r sylwedd mewn celloedd gwaed coch sy'n cludo ocsigen o amgylch eich corff. Mae bod yn gludydd haemoglobin D yn golygu eich bod wedi etifeddu un genyn haemoglobin arferol o'r enw haemoglobin A gan un rhiant biolegol ac un genyn haemoglobin D gan eich rhiant biolegol arall. Rydych chi’n iach gan eich bod wedi etifeddu'r genyn haemoglobin A arferol gan un rhiant. Nid yw bod yn gludydd yn eich gwneud chi'n sâl.
Mae gwahanol fathau o haemoglobin D. Y math mwyaf arwyddocaol yw haemoglobin D Punjab (neu Hb D Punjab), a elwir hefyd yn Hb D Los Angeles. Efallai y bydd angen profion pellach i gadarnhau’r math o enyn haemoglobin D rydych chi'n ei gario.
Mae bod yn gludydd haemoglobin D yn golygu y gallech drosglwyddo'r genyn haemoglobin D i'ch babi. Os yw tad biolegol eich babi hefyd yn gludydd, mae hynny’n golygu y gallech chi gyda'ch gilydd gael babi â chyflwr haemoglobin etifeddol.
Rhowch wybod i'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os ydych chi:
wedi beichiogi yn dilyn triniaeth ffrwythlondeb gan ddefnyddio sberm rhoddwr neu wy rhoddwr;
wedi cael trawsblaniad mêr esgyrn neu bôn-gelloedd; neu
os ydych yn feichiog fel mam fenthyg.
Anhwylderau gwaed yw cyflyrau haemoglobin sy’n cael eu hetifeddu gan y ddau riant biolegol. Mae lawer o wahanol gyflyrau haemoglobin. Bydd y math o gyflwr y gallai eich babi ei etifeddu yn dibynnu ar ba fath o enynnau haemoglobin sydd gan y ddau riant biolegol. Mae rhai cyflyrau'n fwy difrifol nag eraill. Y cyflyrau mwyaf difrifol yw clefyd y crymangelloedd neu thalasaemia sy'n ddibynnol ar drallwysiadau (thalasaemia difrifol). Mae gwahanol fathau o anhwylderau'r crymangelloedd, ond y math mwyaf difrifol yw anaemia’r crymangelloedd (Hb SS), sy'n digwydd pan fydd y ddau riant biolegol yn gludyddion clefyd y crymangelloedd.
Gall eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol drafod hyn gyda chi, fel eich bod chi'n deall pa gyflwr y gallai eich babi ei etifeddu a sut y gallai hynny effeithio ar iechyd eich babi.
Mae un rhiant biolegol yn gludydd ac nid yw'r rhiant biolegol arall
Os oes gan dad biolegol eich babi ddau enyn haemoglobin arferol (AA), mae siawns o 2 mewn 4 (50%) y bydd eich babi yn gludydd haemoglobin D (fel chi) a siawns o 2 mewn 4 (50%) y bydd ganddo ddau enyn haemoglobin arferol (AA). Gweler y diagram isod.
Mae'r siawns hon yr un fath ym mhob beichiogrwydd i'r cwpl hwn.
Beth os yw'r ddau riant biolegol yn gludyddion?
Os yw tad biolegol eich babi yn gludydd, mae siawns o 1 mewn 4 (25%) y bydd eich babi yn etifeddu cyflwr haemoglobin. Bydd difrifoldeb y cyflwr yn dibynnu ar ba enynnau haemoglobin sy'n cael eu hetifeddu.
Mae hefyd siawns o 2 mewn 4 (50%) y bydd eich babi yn gludydd (fel chi), a siawns o 1 mewn 4 (25%) y bydd gan eich babi enynnau haemoglobin arferol (AA). Gweler y diagram isod.
Mae'r siawns hon yr un fath ym mhob beichiogrwydd i'r cwpl hwn.
A ddylid cynnig profion i dad biolegol fy mabi?
Os oes gan dad biolegol eich babi enyn haemoglobin anarferol, mae'n bwysig nodi'r math o enyn a'r siawns y bydd eich babi yn etifeddu cyflwr haemoglobin. Am y rheswm hwn, byddwn hefyd yn gwahodd tad biolegol y babi i gael ei sgrinio. Dim ond os bydd yn cael prawf gwaed i gadarnhau'r math o haemoglobin sydd ganddo y bydd y tad yn gwybod a yw'n cario genyn ar gyfer haemoglobin anarferol.
Os yw'r prawf yn dangos bod tad biolegol eich babi yn gludydd genyn haemoglobin anarferol, byddwch yn cael cynnig cwnsela arbenigol a diagnosis cyn geni.
Efallai y bydd aelodau eraill o'r teulu, fel brodyr a chwiorydd, modrybedd, ewythrod, cefndryd a chyfnitherod eisiau ystyried cael eu profi gan y gallent hefyd fod yn gludyddion. Gallai rhannu'r wybodaeth hon gyda nhw fod o gymorth.
Gallwch chi hefyd wneud y canlynol:
rhoi gwybod i'ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol eich bod yn gludydd haemoglobin D; a
chysylltu â Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS) i gael gwybodaeth a chyngor am ddim i'ch helpu i ddeall goblygiadau bod yn gludydd haemoglobin D.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth o'r canlynol.
NHS 111 Wales - Health A-Z : Sickle-cell disorder (Saesneg yn unig)