Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Coluddion Cymru 2022-23


Negeseuon allweddol
  • Mae sgrinio’r coluddyn yn lleihau'r risg o farw o ganser y coluddyn;
  • Yn ystod rhan gynharach y cyfnod adrodd hwn, gwahoddwyd dynion a menywod 58 i 74 oed i gymryd rhan bob dwy flynedd. Cafodd yr ystod oedran ei hymestyn i 55 i 74 oed o fis Hydref 2022, gan ddefnyddio dull fesul cam fel mai dim ond tua hanner y rhai a oedd newydd ddod yn gymwys a wahoddwyd i gael eu sgrinio yn ystod y cyfnod adrodd hwn
  • Gall pobl deimlo'n iach hyd yn oed os oes ganddynt ganser y coluddyn cynnar. Mae canfod canser yn gynnar yn rhoi'r cyfle gorau i oroesi;
  • Mae sgrinio coluddion yn defnyddio prawf am ddim gan y GIG y gellir ei gwblhau'n hawdd gartref;
  • Bydd sgrinio yn methu rhai canserau ac ni ellir gwella rhai canserau;
  • Dewis yr unigolyn yw cymryd rhan mewn sgrinio coluddyn. Rydym yn annog pobl a wahoddir i gael eu sgrinio i ddarllen y pecyn gwybodaeth yn ofalus i'w helpu i wneud eu penderfyniad.
     
Cefndir

Dyma'r degfed adroddiad ystadegol blynyddol a gyhoeddir gan Sgrinio Coluddion Cymru. Mae'r adroddiad hwn yn cwmpasu data ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23.

Cafodd Sgrinio Coluddion Cymru ei lansio ym mis Hydref 2008 gyda'r nod o leihau nifer y bobl sy'n marw o ganser y coluddyn yn y grŵp o bobl a wahoddir i gael eu sgrinio yng Nghymru.  Mae'r rhaglen sgrinio coluddion yn nodi canserau'r coluddyn yn gynnar pan fo triniaeth yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus a hefyd yn dileu tyfiannau cyn-ganseraidd a allai ddatblygu'n ganser dros gyfnod o amser. Yn y flwyddyn 2022-23 rhoddodd Sgrinio Coluddion Cymru ddiagnosis o ganser y coluddyn i 376 o bobl a thynnwyd polypau o 2,733 o gyfranogwyr sgrinio.

Nododd Adroddiad Blynyddol 2022 o Archwiliad Canser y Coluddyn Cenedlaethol fod 10% o gleifion a gafodd diagnosis o ganser y coluddyn eu hatgyfeirio drwy raglenni sgrinio yng Nghymru a Lloegr. Roedd gan bobl a ganser a ganfuwyd trwy sgrinio glefyd llai datblygedig ac roeddent yn fwy heini ar y cyfan. O ganlyniad, cafodd 86% o gleifion a gafodd ddiagnosis drwy sgrinio driniaeth iachaol o gymharu â 50% a gyflwynodd fel argyfwng.
 

Crynodeb o'r gweithgarwch yn y flwyddyn a adroddwyd

Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, ehangodd Sgrinio Coluddion Cymru yr ystod oedran cymwys ar gyfer sgrinio canser y coluddyn yng Nghymru. O fis Hydref 2022, dechreuwyd gwahodd unigolion rhwng 55 a 57 oed i gael eu sgrinio am y tro cyntaf (ystod oedran poblogaeth gymwys 55-74 oed). Cafodd y broses hon o ehangu'r oedran ei chyflwyno fesul cam, a chafodd tua 50% o'r rhai 55-57 oed a oedd newydd ddod yn gymwys eu gwahodd erbyn diwedd mis Mawrth 2023. Yn hyn o beth, bydd y data a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn ymwneud ag unigolion 58-74 oed rhwng mis Ebrill 2022 a mis Medi 2022 a 55-74 oed rhwng mis Hydref 2022 a mis Mawrth 2023.
 

Edrych ymlaen at y flwyddyn sgrinio nesaf

Mae'r ehangu oedran a ddisgrifiwyd uchod yn rhan o gynllun tymor hwy (4 blynedd) i ehangu'r oedran sgrinio cymwys i 50-74 oed.  O fis Hydref 2023, cafodd y sgrinio cymwys ei ehangu ymhellach i gynnwys y rhai o 51 oed, a bydd yn cynnwys y rhai o 50 oed o fis Hydref 2024. Yn ystod y cyfnod amser hwn mae Sgrinio Coluddion Cymru hefyd wedi cynyddu sensitifrwydd y prawf imiwnocemegol ar ysgarthion (FIT), gyda chynlluniau pellach i gynyddu hyn yn y dyfodol.

 

Penawdau ystadegol

Mae'r adroddiad hwn yn cwmpasu'r cyfnod amser rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023.

  • Cwmpas sgrinio coluddion ar 1 Hydref 2023 oedd 63.1%.
  • Roedd y cwmpas ar 1 Hydref 2023 yn amrywio o 62.2% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i 64.4% ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys.
  • Canran y rhai a gafodd eu sgrinio ar gyfer cyfranogwyr a wahoddwyd (ac yn gymwys) rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023 oedd 65.9%.
  • Roedd y ganran a gafodd brawf yn 2022-23 yn amrywio o 65.0% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i 67.7% ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys.
  • Roedd cwmpas a chyfraddau'r rhai a gafodd brawf yn uwch ymhlith menywod. Roedd y cwmpas yn 65.1% mewn menywod o gymharu â 61.2% mewn dynion, roedd canran y rhai a gafodd brawf sgrinio yn 68.1% mewn menywod o gymharu â 63.7% mewn dynion.
  • Roedd y cwmpas a'r ganran a gafodd brawf sgrinio hefyd yn uwch ymhlith y rhai sy'n byw yn yr ardaloedd â'r amddifadedd lleiaf (69.6% a 72.8% yn y drefn honno yn yr ardaloedd â'r amddifadedd lleiaf o gymharu â 54.4% a 56.6% yn y drefn honno yn yr ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf).
  • gwahoddwyd¹ 417,683 o gyfranogwyr i gael prawf sgrinio'r coluddyn.
  • cafodd 269,240 o brofion eu hawdurdodi ac o'r rhain roedd 2.1% wedi'u gwrthod gan nad oedd modd eu profi.
  • rhoddwyd canlyniad diffiniol ar gyfer 263,516 o brofion, ac o'r rhain roedd 98.1% yn negatif ac roedd 1.9% yn bositif.
  • Cafodd llythyr canlyniad ei anfon at 100% o'r cyfranogwyr o fewn wythnos (llai na saith diwrnod calendr) i'w dderbyn gan y labordy.
  • Ledled Cymru, cynigiwyd triniaeth ddiagnostig (colonosgopi neu sigmoidosgopi hyblyg) i 15.2% o gyfranogwyr o fewn pedair wythnos i gysylltu â Sgrinio Coluddion Cymru i drefnu'r apwyntiad gydag Ymarferydd Sgrinio.
  • Cynigiwyd triniaeth ddiagnostig i 63.2% o gyfranogwyr â chanlyniad sgrinio positif o fewn wyth wythnos.
  • Roedd presenoldeb yn y driniaeth ddiagnostig gyntaf yn 95.0% gyda 3,725 o gyfranogwyr yn mynd i'r driniaeth gyntaf.
  • Yn y driniaeth ddiagnostig gyntaf, y gyfradd canfod canser oedd 10.1%, y gyfradd canfod polyp oedd 73.4% a'r gyfradd canfod adenoma oedd 56.7%.
  • Cafodd 376 o gyfranogwyr ddiagnosis o ganser a chanfuwyd a thynnwyd polypau mewn 2,733 o gyfranogwyr.
  • Ledled Cymru, aethpwyd i 91.4% o sganiau Colonagraffeg Tomograffeg Gyfrifiadurol (CTC) a drefnwyd.

 


 ¹Nid yw'r nifer hwn a wahoddwyd yr un peth â chyfranogwyr a wahoddwyd ac sy'n gymwys a ddefnyddiwyd ar gyfer cyfrifiadau canran y rhai a gafodd brawf.
 

Adroddiad llawn