Cynnwys
― Rhagor o wybodaeth
Mae canser y coluddyn yn un o ganserau mwyaf cyff redin Cymru.
- Caiff dros 2,200 o achosion newydd o ganser y coluddyn eu canfod bob blwyddyn yng Nghymru.
- Mae sgrinio’r coluddyn yn gallu achub eich bywyd. Mae’n lleihau eich risg o farw o ganser y coluddyn.
- Mae dros 160,000 o bobl yng Nghymru yn gwneud y prawf sgrinio’r coluddyn bob blwyddyn
Gall eich prawf sgrinio’r coluddyn ganfod canser y coluddyn yn fuan ac, yn aml, gellir ei wella.
Rydych naw gwaith yn fwy tebygol o ddod dros ganser y coluddyn os caiff ei ganfod yn fuan.
Mae ychydig dros 900 o bobl Cymru’n marw o ganser y coluddyn bob blwyddyn.
- Mae dros naw o bob 10 o bobl yn dod dros ganser y coluddyn os caiff ei ddal yn ddigon buan.
- Gall y pecyn prawf helpu i ganfod canser y coluddyn yn fuan, hyd yn oed os ydych yn iach, heb symptomau.
- Cewch wneud y prawf ym mhreifatrwydd eich cartref.
- Gallwch wneud y prawf sgrinio’n hawdd ac yn sydyn, gyda dim ond un sampl fach o pŵ.
Gall unrhyw un gael canser y coluddyn. Cymerwch eich prawf sgrinio nawr
- Gallwch teimlo’n iach pan fydd canser y coluddyn yn dechrau datblygu.
- Mae canser y coluddyn yn mynd yn fwy cyff redin wrth heneiddio.
- Os gellir canfod canser yn fuan, rydych yn fwy tebygol o ddod drosto.
- Gall sgrinio’r coluddyn achub eich bywyd
- Mae’r pecyn prawf sgrinio’n chwilio am waed yn eich pŵ.
- Gall gwaed yn eich pŵ fod yn arwydd o ganser y coluddyn neu o newidiadau eraill fel polypiaid (tyfi annau bach).
- Gan amlaf mae polypiaid yn ddiniwed ond gall rhai arwain at ganser y coluddyn. Mae’n hawdd tynnu’r rhan fwyaf o bolypiaid.
- Weithiau daw’r gwaed am fod y polyp wedi gwaedu.
- Gall fod rhesymau eraill dros y gwaed, fel haemoroidau (peils) neu rwygiadau bach yn y coluddyn.
- Nid yw’r pecyn prawf yn dweud wrthych a oes canser y coluddyn arnoch. Bydd y canlyniadau’n dweud a oes angen rhagor o brofi on arnoch fel colonosgopi (ble mae tiwb gyda golau bach a chamera ar un pen yn cael ei roi yn eich pen ôl, i edrych ar leinin eich coluddyn mawr).
Os caiff canser y coluddyn ei ganfod yn gynnar, mae’n fwy tebygol y caiff y clefyd ei drin yn llwyddiannus.
- Byddwn yn postio’ch canlyniadau o fewn pythefnos.
- Bydd canlyniad y rhan fwyaf o bobl yn normal ac ni fydd angen rhagor o brofi on.
- Os gwelwn waed yn eich sampl, cewch eich cyfeirio am asesiad gyda Nyrs Sgrinio.
- Byddwn yn cynnig rhagor o brofi on a all gynnwys colonosgopi.
Beth y dylech ei wybod
- Gwahoddir dynion a menywod sydd yn y grŵp oedran sy’n gymwys, i gymryd rhan mewn sgrinio bob dwy fl ynedd.
- Eich dewis chi yw cymryd rhan yn sgrinio’r coluddyn.
- Nid yw sgrinio’r coluddyn bob amser yn hollol gywir.
- Nid yw sgrinio’n canfod pob canser a does dim gwella ar rai mathau o ganser.
- Ffordd o edrych ar leinin eich coluddyn mawr (colon), rhag ofn bod clefyd i’w weld, yw colonosgopi.
- Yn ystod y colonosgopi efallai y byddwn yn cymryd samplau bach o leinin eich coluddyn (biopsïau) i’w harchwilio yn y labordy os oes angen.
- Caiff y lluniau eu dangos ar sgrîn fel y gallwn wirio a oes gennych glefyd neu lid o’r coluddyn.
- Mae risgiau’n gysylltiedig â chael colonosgopi, fel trydylliad (rhwyg yn leinin y coluddyn), sy’n digwydd mewn un o bob 1000 o driniaethau, neu waedu sylweddol, sy’n digwydd un o bob 100 i 200 o driniaethau.
Mae mwy na 9 o bob 10 o bobl yn dod dros ganser y coluddyn os caiff ei ddal yn ddigon buan.
- Cymryd rhan yn y rhaglen sgrinio’r coluddyn bob dwy fl ynedd. Symud o gwmpas.
Symud o gwmpas fwy
- Mae ymarfer corff yn eich helpu i deimlo’n well a gall eich gwneud yn llai tebygol o gael clefyd difrifol.
- Ceisiwch wneud rhywbeth egnïol am o leiaf 2½ awr yr wythnos.
Yfed llai o alcohol
- Gall yfed alcohol gynyddu’r risg o gael clefyd y galon, canser a difrod i’r afu.
- Os ydych am gadw’r risg yn isel, peidiwch ag yfed mwy nag 14 uned o alcohol yr wythnos.
- Os ydych am yfed llai, ceisiwch gael sawl diwrnod di�alcohol mewn wythnos.
Bwyta’n iach
- Gall bwyta ff rwythau a llysiau helpu i leihau’r perygl o ddatblygu afi echydon difrifol fel canser a chlefyd y galon.
- Ceisiwch fwyta o leiaf pump darn o ff rwythau a llysiau bob dydd.
Peidiwch â smygu
- Bydd stopio smygu yn gwella’ch iechyd.
- Ewch i helpafi istopio.cymru os ydych chi’n ystyried rhoi’r gorau i smygu.
- Gwaedu o’ch pen ôl neu waed yn eich pŵ.
- Newid parhaol, heb esboniad, yn eich arferion tŷ bach.
- Colli pwysau heb esboniad.
- Blinder mawr heb reswm amlwg.
- Poen neu lwmpyn yn eich bol.
Cedwir eich manylion a’ch gwybodaeth yn gyfrinachol.
Weithiau, gofynnir i ni ddarparu gwybodaeth ar gyfer treialon ymchwil neu archwiliadau. Caiff pob cais am wybodaeth ei adolygu gan Gyfarwyddwr yr Adran Sgrinio a rhaid iddo gael ei gymeradwyo gan y Cyfarwyddwr a Gwarcheidwad Caldicott (y sawl sy’n gyfrifol am gyfrinachedd a defnyddio gwybodaeth bersonol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru).
Mae’r rhan fwyaf o geisiadau’n gofyn am wybodaeth ddienw yn unig (gwybodaeth lle tynnwyd gwybodaeth personol pobl), fel na ellir eich adnabod. Dim ond ar ôl cysylltu â chi i gael eich caniatâd, neu pe bai rheswm cyfreithiol dros wneud hynny, y byddem yn darparu gwybodaeth y gellid eich adnabod ohoni.
Yn ogystal, gallwn eich gwahodd i gymryd rhan mewn ymchwil yn gysylltiedig â’r rhaglen sgrinio. Pe baech yn penderfynu peidio â chymryd rhan, ni fyddai hyn yn eff eithio mewn unrhyw ff ordd ar y gwasanaeth a gewch yn y dyfodol gan yr Adran Sgrinio.
Rydym yn adolygu hanes sgrinio pawb sydd wedi cael diagnosis o ganser y coluddyn (hyd yn oed ganser cynnar iawn) yr ydym wedi’u gwahodd i gymryd rhan yn y rhaglen sgrinio’r coluddyn. Gallwch weld y canlyniadau os hoff ech wneud hynny.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sgrinio’r coluddyn, neu os hoff ech wybodaeth mewn ff ormat arall, sef:
- Hawdd ei Ddeall
- Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
- sain
- print bras, neu yn
- Saesneg
ewch i’n gwefan www.sgriniocoluddion.cymru.nhs.uk
neu ff oniwch y llinell gymorth Rhadff ôn ar 0800 294 3370