Neidio i'r prif gynnwy

Mae colled clyw ar eich babi

 

 

Mae’r daflen hon ar gfer rhieni a theuluoedd babanod sydd wedi cael gwybod bod colled clyw ar eu babi.


 

Cynnwys 

― Beth yw colled clyw?
Lefelau colled clyw 
― Achosion colled clyw
― Colled clyw synwyrnerfol
― Colled clyw dargludol
― Cymhorthion clyw
― Cymorth i chi a'ch babi
― Mynd i'r ysgol
― Cyfathrebu

Cymorth pellach

Rhagor o wybodaeth

 

 

Beth yw colled clyw?

Colled clyw yw pan fydd eich gallu i glywed wedi lleihau.

Mae’n digwydd pan nad yw un neu fwy o rannau o’r glust yn gweithio’n efeithiol.

Mae’n annhebygol iawn na fydd eich babi’n gallu clywed unrhyw synau o gwbl. 

Mae lefelau gwahanol o glyw. Mae’r termau ‘B/byddar’, ‘ag amhariad ar y clyw’ a ‘thrwm eu clyw’ hefyd yn cael eu defnyddio lle canfyddir colled clyw.

Mae Byddar gyda phriflytyren ‘B’ yn cyfeirio at bobl sy’n uniaethu â diwylliant Byddar fel rhan o’r gymuned Fyddar ac yn tueddu i gyfathrebu mewn Iaith Arwyddion Prydain. Mae byddar gyda ‘b’ fach yn cyfeirio at statws clyw yn gyfredinol. Mae B/byddar yn cynnwys y ddau.

 

Lefelau colled clyw

Ysgafan

Dyma pryd y gall person glywed rhai synau lleferydd ond mae’n anodd clywed synau tawel.

Cymedrol

Dyma pan na fydd person yn clywed popeth sy’n cael ei ddweud gan berson arall sy’n siarad ar lefel normal.

Difrifol

Dyma pan na fydd person yn clywed unrhyw leferydd pan fydd person arall yn siarad ar lefel normal a dim ond rhai synau uchel.

Dwys

Dyma pan na fydd person yn gallu clywed unrhyw leferydd a dim ond synau uchel iawn.

Bydd eich awdiolegydd yn gallu esbonio pa synau y gall eich babi eu clywed a pha synau y mae’n ei chael yn anodd eu clywed. Mae’n annhebygol na fydd eich babi yn gallu clywed unrhyw synau o gwbl.

 

Achosion colled clyw

Mae mathau gwahanol o golled clyw. Mae’r math o golled clyw sydd gan eich babi yn dibynnu ar ble mae’r broblem yn y glust.

 

Colled clyw synwyrnerfol

Dyma pryd mae problem yn y glust fewnol (cochlea) neu nerf y clyw.  Mae hwn yn golled clyw parhaol. 

Mae’r rhan fwyaf o fabanod sydd â’r math hwn o golled clyw yn cael eu geni i deuluoedd lle nad oes unrhyw un arall yn cael ei efeithio. Mewn rhai teuluoedd gellir etifeddu’r colled clyw (ei drosglwyddo o rieni i’w plant).

Gall colled clyw synwyrnerfol hefyd gael ei achosi gan:

  • heintiau yn ystod beichiogrwydd;
  • genedigaeth gynamserol a chymhlethdodau adeg geni;
  • cyflwr aall neu’n gysylltiedig ag anawsterau eraill; neu
  • salwch plentyndod fel clwy’r pennau, y frech goch neu lid yr ymennydd.

 

Colled clyw dargludol

Dyma pryd na all sŵn deithio drwy’r glust yn hawdd. I’r rhan fwyaf o fabanod, nid yw’r math hwn o golled clyw yn para neu efallai y bydd yn mynd a dod dros amser. Mewn rhai babanod, ni fydd y colled clyw yn gwella. 

Mae’r colled clyw hwn fel arfer yn cael ei achosi gan hylif yn y glust ganol. Gelwir hyn yn glust ludiog. Mae hwn yn gyflwr cyredin iawn ac yn aml gellir ei drin. Weithiau gall gael ei achosi gan broblemau gyda datblygiad y glust allanol a mewnol.

Gall plant sydd â cholled clyw synwyrnerfol hefyd gael colled clyw dargludol dros dro.

Gallwch siarad â’r meddyg arbenigol (meddyg sydd â gwybodaeth fanylach am glyw plant). Bydd yn gweithio gyda’ch awdiolegydd i ddod o hyd i achos colled clyw eich babi. I rai babanod a phlant, efallai na fydd yn bosibl dod o hyd i achos eu colled clyw.

 

Cymhorthion clyw 

Efallai y bydd awdiolegydd yn dweud wrthych y bydd cymhorthion clyw yn helpu eich babi i glywed yn well.

Os byddwch yn dewis cael cymhorthion clyw ar gyfer eich babi, bydd mowld arbennig o glust eich babi yn cael ei wneud. Byddwch yn cael apwyntiad arall i osod y cymhorthion clyw.

Bydd awdiolegydd yn rhoi cyngor i chi am y fordd orau o ddefnyddio cymhorthion clyw eich babi.

Ni fyddant yn boenus nac yn anghyforddus i’ch babi eu gwisgo. Byddwch yn cael cynnig gwiriadau rheolaidd o glyw eich babi a’r cymhorthion clyw. 

 

Cymorth i chi a'ch babi

Gall hwn fod yn gyfnod pryderus. Gallwch siarad â Thîm Cymorth y Blynyddoedd Cynnar, a fydd yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Mae’r tîm hwn yn cynnwys:

  • awdiolegydd;
  • athro arbenigol (sy’n gymwys i addysgu plant sydd â cholled clyw);
  • meddyg arbenigol; a
  • therapydd iaith a lleferydd ac efallai gweithiwr cymdeithasol.

Bydd y tîm yn cwrdd â chi yn rheolaidd i drafod pa gymorth sydd ei angen arnoch chi a’ch babi.

 

Mynd i'r ysgol

Mae’r rhan fwyaf o blant sydd â cholled clyw yn mynd i ysgolion prif frwd. Efallai y bydd rhai plant yn mynd i ysgolion sydd â chymorth arbenigol i blant sydd â cholled clyw. Bydd athro arbenigol yn sicrhau bod anghenion eich plentyn yn cael eu diwallu.

 

Cyfathrebu

Mae plant sydd â cholled clyw a’u teuluoedd yn cyfathrebu mewn fyrdd gwahanol. Bydd rhai plant yn dysgu sut i ddefnyddio:

  • lleferydd;
  • iaith arwyddion; neu
  • cymysgedd o’r ddau.

Bydd athro arbenigol ac aelodau eraill o Dîm Cymorth y Blynyddoedd Cynnar yn eich helpu i ddewis y fordd orau i chi a’ch babi gyfathrebu.

Mae’n bwysig iawn cyfathrebu â’ch babi cymaint â phosibl.

 

Cymorth pellach

Efallai y bydd cymorth arall ar gael i’ch helpu i ofalu am eich babi. Mae hyn yn cynnwys cymorth ariannol.

Bydd Tîm Cymorth y Blynyddoedd Cynnar, y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, yr Adran Gwaith a Phensiynau neu Cyngor ar Bopeth yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth i chi.

 

Rhagor o wybodaeth 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sgrinio clwy babanod, neu os hofech wybodaeth ar furf Hawdd ei Deall, Iaith Arwyddion Prydain (BSL), sain neu brint bras, cysylltwch â’ch swyddfa sgrinio leol neu ewch i’n gwefan:

De-ddwyrain Cymru:  029 2184 3568

De-orllewin Cymru:  01792 343364

Gogledd Cymru:   03000 848710

sgrinio-clyw-babanod@wales.nhs.uk

www.icc.gig.cymru/sgrinio-clwy-babanod

Gallwch gysylltu â ni yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd yn cymryd yr un faint o amser i’ch ateb, pa bynnag iaith rydych yn ei dewis.

I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio gwybodaeth amdanoch, ewch i’n gwefan: www.icc.gig.cymru/hysbysiad-preifatrwydd

Gallwch hefyd gysylltu â’r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar. Mae gan y gymdeithas linell gymorth i rieni a theuluoedd a hofai gael gwybodaeth am brofionclyw ac unrhyw fath o golled clyw yn ystod plentyndod.

Llinell gymorth rhadfon: 0808 800 8880

Gwefan: www.ndcs.org.uk