Os felly, archebwch le ar ein sesiwn ymwybyddiaeth sgrinio ar-lein rhad ac am ddim.
Byddwch yn dysgu am raglenni sgrinio’r GIG a gynigir yng Nghymru, a all eich helpu i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned.
Mae Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu rhaglenni sgrinio cenedlaethol yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol raglenni sgrinio ewch i: icc.gig.cymru/sgrinio
Byddwn yn cyflwyno'r sesiwn ymwybyddiaeth sgrinio 3 awr ar Microsoft Weminar neu Teams. Cyflwynir y sesiynau yn Gymraeg a Saesneg.
I archebu eich lle, dewiswch eich hoff ddyddiad ac iaith isod a chliciwch ar y ddolen. Bydd hyn yn mynd â chi at ffurflen gofrestru. Dilynwch y cyfarwyddiadau i gwblhau'r ffurflen gofrestru.
Ar ôl cyflwyno'ch ffurflen gofrestru wedi'i chwblhau byddwch yn cael e-bost gyda manylion ar sut i ymuno â'r sesiwn.
Byddwch yn cael e-bost atgoffa ychydig ddyddiau cyn y sesiwn. Cofiwch nodi'r e-bost hwn ar gyfer ymuno ar y diwrnod.
Dydd Mawrth 25/03/2025
10:00-13:00
Cyflwynir yn Saesneg
|
Dydd Gwener 09/05/2025
09:30-12:30
Cyflwynir yn Saesneg
|
Dydd Mawrth 03/06/2025
09:30-12:30
Cyflwynir yn Saesneg
|
Dydd Mercher 25/06/2025
13:00-16:00
Cyflwynir yn Saesneg
|
||
Dydd Mawrth 07/10/2025
09:30-12:30
Cyflwynir yn Saesneg |
||
|
Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol, mae gwybodaeth am sut i ganslo eich lle yn yr e-bost gyda’r cyfarwyddiadau ymuno.
Noder: Mae angen isafswm i allu cynnal y cwrs. Os bydd angen canslo'r cwrs, byddwn yn rhoi gwybod i chi er mwyn i chi allu cadw lle ar ddyddiadau yn y dyfodol.