Neidio i'r prif gynnwy

Gofalu amdanoch eich hun

Arwyddion a Symptomau 

Gall canser y fron achosi nifer o arwyddion a symptomau.  

Nid canser y fron yw’r rhan fwyaf o newidiadau i’r fron, gan gynnwys lympiau yn y fron. Bydd dod o hyd i ganser y fron yn gynnar yn rhoi’r siawns orau i chi o gael triniaeth lwyddiannus.  

Gofynnwch i’ch meddyg wirio unrhyw newidiadau. Peidiwch ag aros ar gyfer eich apwyntiad sgrinio’r fron.  

Arwyddion a symptomau i gadw llygad amdanynt: 

  • Lwmp neu chwydd yn y fron, rhan uchaf y frest neu’r gesail. 
  • Newid i faint, siâp neu liw un fron 
  • Newid i’r croen megis crychiad neu banylu’r croen 
  • Unrhyw newid i leoliad y deth - cael ei thynnu i mewn neu wyro’n wahanol  
  • Unrhyw redlif anghyffredin (hylif) neu waed o’r deth 
  • Brech neu grawennu o amgylch y deth 
  • Anghysur neu boen mewn un fron sy’n newydd i chi 

Mae’n bwysig eich bod yn dod i adnabod sut mae eich bronnau’n edrych ac yn teimlo.  Bydd hyn yn eich helpu i sylwi ar unrhyw newidiadau sy’n wahanol.  

Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein taflen Gofalu am eich Bronnau.  

Pethau y gallwch eu gwneud i gadw’n iach 

  • Mynd i sgrinio’r fron pan gewch wahoddiad 
  • Rhowch wybod am unrhyw newidiadau i’ch meddyg teulu heb oedi 

Ewch i’n tudalennau Cadw’n Iach i ddysgu rhagor am yr hyn y gallwch ei wneud i gadw’n iach.  

Darganfod mwy