Nod Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru (RSYAAC) yw haneru marwolaethau sy'n gysylltiedig ag ymlediadau aortig abdomenol (YAA) erbyn 2025 yn y boblogaeth gymwys. Gwahoddir dynion dros 65 oed i fynd i gael sgrinio uwchsain untro.
Gwahoddwyd cyfanswm o 19,428 o bobl i gymryd rhan mewn sgrinio ymlediadau yn 2021/22, gyda 16,078 o bobl yn manteisio ar y cynnig. Mae hyn yn cymharu â 4,209 o bobl a wahoddwyd yn 2020/21 a 3,562 o bobl yn manteisio ar y cynnig gan mai hon oedd blwyddyn yr oedi a'r ailddechrau'n raddol. Mae nifer y rhai a wahoddwyd yn fwy na'r nifer a wahoddwyd yn 2018/19 (17,045), sy'n adlewyrchu'r ymdrechion a wnaed gan y rhaglen i gynyddu capasiti a chynorthwyo adferiad wrth barhau i weithredu o dan rai cyfyngiadau Covid.
Nodir canran y rhai a gafodd eu sgrinio fel cyfran y cyfranogwyr cymwys a wahoddwyd a gafodd eu sgrinio o fewn chwe mis i'r gwahoddiad sy'n golygu mai dyma'r data diweddaraf sydd ar gael ym mis Hydref 2021. Ledled Cymru yn 2021/22, canran y rhai a gafodd sgrinio ymlediadau oedd 82.8%. Mae hyn yn rhagori ar y safon ofynnol, sef 80%.
Ceir amrywiad daearyddol ar draws ardaloedd byrddau iechyd yn amrywio o'r isaf, sef 80.5%, yn BIP Caerdydd a'r Fro i'r uchaf, sef 85.5%, ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys (tabl 5). Mae'r uchaf a'r isaf yn wahanol i'r llynedd, ac mae'r bwlch yn llai (5 o gymharu â 7.4 pwynt canran), ac mae pob bwrdd iechyd yn cyrraedd y safon 80%.
Tabl 5: Canran (%) y rhai a gafodd sgrinio ymlediadau yn ôl bwrdd iechyd preswyl, 2021/22
Bwrdd iechyd |
Gwahoddwyd (n) |
Profwyd (n) |
Canran y rhai a gafodd eu sgrinio (%) |
BIP Aneurin Bevan |
3,534 |
2,874 |
81.3 |
BIP Betsi Cadwaladr |
4,516 |
3,835 |
84.9 |
BIP Caerdydd a'r Fro |
2,332 |
1,877 |
80.5 |
BIP Cwm Taf Morgannwg |
2,780 |
2,328 |
83.7 |
BIP Hywel Dda |
2,731 |
2,236 |
81.9 |
BI Addysgu Powys |
987 |
844 |
85.5 |
BIP Bae Abertawe |
2,545 |
2,082 |
81.8 |
Cymru Gyfan |
19,428 |
16,078 |
82.8 |
Mae amrywiad daearyddol o ran canran y rhai sy'n cael sgrinio ymlediadau hefyd yn bodoli ar lefel awdurdod lleol yn amrywio o'r ganran isaf yng Nghaerdydd ar 77.7% gyda'r uchaf yn Sir Ddinbych ar 89.1% (Ffigur 13). Mae amrywiad ehangach ar lefel awdurdod lleol na lefel bwrdd iechyd, er bod y gwahaniaeth wedi gostwng o 12.6 i 11.4 pwynt canran ers 20-21.
Ffigur 13: Canran (%) y rhai a gafodd sgrinio ymlediadau yn ôl awdurdod lleol preswyl, 2021/22
Disgrifiad o Ffigur 13: Siart bar sy’n dangos patrwm y nifer sy’n cael prawf sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol (YAA) ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol. Mae hyn yn amrywio o 89.1% yn Sir Ddinbych i 77.7% yng Nghaerdydd.
Ledled Cymru, yn 2021/22, roedd canran y rhai a gafodd YAA ar ei huchaf yn y cwintel â'r amddifadedd lleiaf ar 87.3%, gyda'r ganran isaf yn y cwintel â'r amddifadedd mwyaf ar 74.9%. Y bwlch anghydraddoldeb, sy'n cynrychioli'r gwahaniaeth rhwng canran y rhai a gafodd eu sgrinio yn y cymunedau â'r amddifadedd lleiaf o gymharu â'r cymunedau â'r amddifadedd mwyaf, oedd 12.4%. Mae'r bwlch wedi cynyddu o 2020/21 pan oedd yn 8.4%, ac mae canran y rhai a gafodd eu sgrinio wedi gostwng yn y grwpiau â'r amddifadedd mwyaf, gan achosi'r cynnydd hwn.
Fodd bynnag, nid yw'r patrwm ar gyfer gostyngiad llinol o ran canran wrth i'r amddifadedd gynyddu wedi'i ddangos yn berffaith ym mhob ardal bwrdd iechyd, er bod y tueddiadau yn dal i fod yno. Dylai'r dehongli ystyried y nifer llai o gyfranogwyr a wahoddwyd mewn ardaloedd daearyddol llai gan y bydd y rhain yn fwy agored i amrywiadau mewn data tueddiadau.
Ffigur 14: Canran y rhai a gafodd Sgrinio YAA yn ôl cwintel amddifadedd – Cymru gyfan 2021/22
Disgrifiad o Ffigur 14: Siart bar sy’n dangos sut mae’r nifer sy’n cael prawf sgrinio YAA yn lleihau wrth i lefel amddifadedd gynyddu. Canran nifer y bobl sy’n cael prawf sgrinio YAA yn y grŵp lleiaf difreintiedig yw 87.3% ond canran nifer y bobl sy’n cael prawf sgrinio YAA yn y grŵp mwyaf difreintiedig yw 74.9%.
Ffigur 15: Canran y rhai a gafodd Sgrinio YAA yn ôl cwintel amddifadedd fesul bwrdd iechyd 2021/22
Disgrifiad o Ffigur 15: Siart bar clwstwr sy’n dangos patrwm y nifer sy’n cael prawf sgrinio YAA yn ôl amddifadedd ym mhob un o’r saith bwrdd iechyd. Mae’r patrwm cyffredinol yn dangos bod y nifer sy'n cael prawf sgrinio serfigol yn lleihau wrth i amddifadedd gynyddu.
Roedd y bwlch annhegwch yn 2020/21 ar ei fwyaf yn BIPCF ar 17%. Fodd bynnag, mewn rhai ardaloedd byrddau iechyd fel Powys, mae bwlch annhegwch culach o 4.9% yn bresennol.