Nod Sgrinio Serfigol Cymru yw lleihau nifer yr achosion o ganser ceg y groth ymledol, ac afiachedd a marwolaeth ohono. Mae menywod a phobl â cheg y groth yn cael eu gwahodd bob 3 blynedd o 25-49 oed, gydag optimeiddio'r cyfnod sgrinio i 5 mylnedd ar gyfer pob oedran yn dechrau o fis Iownawr 2022. Mae menywod 50-64 oed yn cael eu gwahodd bob 5 mylnedd.
Yn dilyn yr oedi mewn rhaglenni sgrinio ym mis Mawrth 2020, gwahoddwyd cyfranogwyr i gael sgrinio serfigol fel rhan o ailddechrau'n raddol o fis Mehefin 2020 i fis Mawrth 2021. Adferwyd y rhaglen ar ôl yr oedi ym mis Rhagfyr 2021.
Mae cwmpas sgrinio serfigol ledled Cymru wedi'i ddiffinio fel cyfran y cyfranogwyr cymwys a gafodd brawf digonol yn y cyfnod amser priodol ar gyfer eu hoedran. Ym mis Hydref 2022, y cwmpas ledled Cymru yw 69.6%. Mae hyn bron yr un fath ag yn 2020/21 lle'r oedd y ganran yn 69.5%. Mae hyn wedi gostwng o 73.2% a nodwyd yn 2019/20. Y safon ofynnol ar gyfer cwmpas yw 70%.
Roedd rhywfaint o amrywiad daearyddol o ran cwmpas ledled Cymru ar lefel bwrdd iechyd. Roedd y cwmpas ar ei isaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf (BIPCTM) ar 68.3% ac ar ei uchaf yn BIP Bae Abertawe ar 72.8% (Tabl 4).
Tabl 4: Cwmpas (%) sgrinio serfigol yn ôl bwrdd iechyd preswyl, 2021/2
Bwrdd iechyd |
Cymwys (n) |
Profwyd (n) |
Cwmpas (%) |
BIP Aneurin Bevan |
96718 |
66251 |
68.5% |
BIP Betsi Cadwaladr |
155055 |
109777 |
70.8% |
BIP Caerdydd a'r Fro |
170548 |
120358 |
70.6% |
BIP Cwm Taf Morgannwg |
134670 |
91960 |
68.3% |
BIP Hywel Dda |
114152 |
79321 |
69.5% |
BI Addysgu Powys |
93354 |
63814 |
68.4% |
BIP Bae Abertawe |
31417 |
22857 |
72.8% |
Cymru Gyfan |
796041 |
554424 |
69.6% |
Mae mwy o amrywiad o ran cwmpas sgrinio serfigol ar ardal awdurdod lleol. Mae cwmpas sgrinio serfigol ar ei isaf ym Caerdydd gyda chanran o 66.3%, ac ar ei uchaf yn Sir Fynwy, sef 74.7% (Ffigur 9).
Ffigur 9: Cwmpas (%) sgrinio serfigol yn ôl awdurdod lleol preswyl, 2021/22
Disgrifiad o Ffigur 9: Siart bar sy’n dangos patrwm y nifer sy'n cael prawf sgrinio serfigol ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol. Mae hyn yn amrywio o 75.4% yn Sir Fynwy i 66.3% yng Nghaerdydd.
Ledled Cymru, yn 2021/22, roedd cwmpas sgrinio serfigol ar ei uchaf yn yr ardaloedd â'r amddifadedd lleiaf ar 75.9%, gyda'r cwmpas ar ei isaf yn yr ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf ar 62.7%. Roedd y bwlch anghydraddoldeb, sy'n cynrychioli'r gwahaniaeth absoliwt rhwng cwmpas yn yr ardaloedd â'r amddifadedd lleiaf o gymharu â'r cymunedau â'r amddifadedd mwyaf yn 13.2%, sef cynnydd o 1% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol oherwydd bod y ganran yng Nghwintel 1 wedi cynyddu ychydig bach ond mae'r ganran yng nghwintel 5 wedi gostwng ychydig.
Ffigur 10: Cwmpas Sgrinio Serfigol yn ôl cwintel amddifadedd – Cymru Gyfan 2021/22
Disgrifiad o Ffigur 10: Siart bar sy’n dangos sut mae nifer y bobl sy’n cael prawf sgrinio serfigol yn lleihau wrth i lefel amddifadedd gynyddu. Canran nifer y bobl sy’n cael prawf sgrinio serfigol yn y grŵp lleiaf difreintiedig yw 75.9% ond canran nifer y bobl sy’n cael prawf sgrinio serfigol yn y grŵp mwyaf difreintiedig yw 62.7%.
Mae'r cysylltiad rhwng cwmpas ac amddifadedd yn cael ei weld yn fras ar draws yr holl ardaloedd byrddau iechyd yng Nghymru, er nad yw'r patrwm yn llinol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac mae canran y rhai sy'n cael eu sgrinio ar ei huchaf yng Nghwintel 2 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Roedd y bwlch annhegwch yn amrywio o'r ganran uchaf ar 14.6% yng Nghaerdydd a'r Fro i'r isaf ar 10.9% yn Hywel Dda.
Ffigur 11: Cwmpas Sgrinio Serfigol yn ôl cwintel amddifadedd fesul bwrdd iechyd 2021/22
Disgrifiad o Ffigur 11: Siart bar clwstwr sy’n dangos patrwm nifer y bobl sy’n cael prawf sgrinio serfigol yn ôl amddifadedd ym mhob un o'r saith bwrdd iechyd. Mae’r patrwm cyffredinol yn dangos bod y nifer sy'n cael prawf sgrinio serfigol yn lleihau wrth i amddifadedd gynyddu.
Ledled Cymru yn 2021/22, mae cwmpas sgrinio serfigol ar ei isaf yn y grŵp oedran ieuengaf (25-29 oed) sy'n gymwys i gael ei sgrinio. Cwmpas cyfranogwyr cymwys 25-29 oed yw 64.8% (i fyny 1.4% ers y llynedd) o gymharu â'r cwmpas uchaf ar 77% ymhlith cyfranogwyr 50-54 oed (roedd yn 77.2% yn 2020/21).
Ffigur 12: Cwmpas Sgrinio Serfigol yn ôl grŵp oedran – Cymru Gyfan 2021/22
Disgrifiad o Ffigur 12: Siart bar sy'n cymharu cwmpas sgrinio serfigol yn ôl grwpiau oedran sy’n dangos bod y nifer sy'n cael prawf sgrinio serfigol ar ei isaf yn y grwpiau oedran ieuengaf a hynaf ac ar ei uchaf ymhlith menywod 50-54 oed.
Mae'r duedd ar gyfer canran is mewn grwpiau oedran iau yn bresennol ar draws pob bwrdd iechyd yng Nghymru.