Neidio i'r prif gynnwy

Adran 7 - Sgrinio Coluddion Cymru

Nod Sgrinio Coluddion Cymru yw lleihau nifer y bobl sy'n marw o ganser y coluddyn yng Nghymru drwy nodi canser yn gynnar pan fydd triniaeth yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus a thrwy gael gwared ar dyfiannau cyn-ganseraidd. Fel rhan o raglen optimeiddio, mae'r ystod oedran gymwys wedi newid, o 55 i 74 oed ar adeg cyhoeddi (Awst 2023) i 50 i 74 oed dros y blynyddoedd i ddod.

Yn dilyn oedi'r rhaglenni sgrinio ym mis Mawrth 2020, cafodd cyfranogwyr sgrinio'r coluddyn eu gwahodd fel rhan o ailddechrau'n raddol o ddiwedd mis Gorffennaf 2020.   Gwnaeth y rhaglen “adfer”, gan ddal i fyny â'r holl wahoddiadau hynny a oedwyd a dychwelyd i fod yn unol â'r amserlen, ym mis Hydref 2021. O fis Mawrth 2021 i fis Mawrth 2022 cafodd cyfanswm o 354,131 o bobl eu gwahodd i gymryd rhan mewn sgrinio'r coluddyn gyda 238,065 o bobl yn manteisio ar y cynnig prawf sgrinio.

Nodir canran y rhai sy'n derbyn sgrinio'r coluddyn fel cyfran y cyfranogwyr a gafodd eu sgrinio o fewn chwe mis i'r gwahoddiad, gan wneud hwn y data diweddaraf sydd ar gael ym mis Hydref 2022. Y safon ofynnol ar gyfer canran y rhai sy'n cael eu sgrinio ar draws y rhaglen yw 60%. Ledled Cymru yn 2021/22, canran y rhai a gafodd eu sgrinio oedd 67.2%. Mae hyn yn debyg iawn i ganran y rhai a gafodd eu sgrinio yn 2020/21 pan oedd y ganran yn 67.1% ac mae'n dangos cynnydd amlwg o gymharu â'r blynyddoedd blaenorol (61.5% yn 2019/20 a 57.3% yn 2018/19).

 

7.1 Canran y rhai a gafodd sgrinio'r coluddyn yn ôl ardal ddaearyddol

Prin yw'r amrywiad daearyddol o ran canran y rhai a gafodd eu sgrinio ledled Cymru ar lefel bwrdd iechyd gyda'r ganran yn amrywio o 66.5% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i 68.3% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (tabl 3).

Tabl 3 Canran (%) y rhai a gafodd sgrinio'r coluddyn yn ôl bwrdd iechyd preswyl, 2021/22

Bwrdd iechyd

Gwahoddwyd (n)

Sgriniwyd (n)

Canran y rhai a gafodd eu sgrinio (%)

BIP Aneurin Bevan

64790

43807

67.6

BIP Betsi Cadwaladr

83852

56016

66.8

BIP Caerdydd a'r Fro

46744

31405

67.2

BIP Cwm Taf Morgannwg

48073

32054

66.7

BIP Hywel Dda

50027

34165

68.3

BI Addysgu Powys

18791

12775

68.0

BIP Bae Abertawe

41807

27806

66.5

Cymru Gyfan

354131

238065

67.2

Fodd bynnag, nodir mwy o amrywiad daearyddol o ran canran y rhai a gafodd eu sgrinio fesul ardal awdurdod lleol sy'n amrywio o 62.3% ym Merthyr Tudful i 72.5% yn Sir Fynwy (Ffigur 5). Mae'r awdurdodau lleol sydd â'r ganran uchaf ac isaf o ran y rhai a gafodd eu sgrinio yn parhau heb newid ers y flwyddyn flaenorol.

Ffigur 5: Canran (%) y rhai a gafodd sgrinio'r coluddyn yn ôl awdurdod lleol preswyl, 2020/21

Disgrifiad o Ffigur 5:  Siart bar sy’n dangos patrwm y niferoedd sy’n cael prawf sgrinio’r fron ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol. Mae hyn yn amrywio o 72.5% yn Sir Fynwy i 62.3% ym Merthyr Tudful. Mae pob ardal dros y safon ofynnol, sef 60%.

 

7.2 Canran y rhai a gafodd sgrinio'r coluddyn yn ôl amddifadedd

Ledled Cymru yn 2020/21, roedd canran y rhai a gafodd sgrinio'r coluddyn ar ei huchaf yn yr ardaloedd â'r amddifadedd lleiaf ar 73.4%, gyda'r ganran isaf yn yr ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf ar 57.9%.

Y gwahaniaeth absoliwt rhwng canran y rhai sy'n cael eu sgrinio yn yr ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf a lleiaf yw 15.9% (73.8-57.9). O gymharu â 2020/21 mae'r bwlch hwn wedi cynyddu, o wahaniaeth o 14.5% (73.4-58.9).

Ffigur 6: Canran y rhai a gafodd Sgrinio'r Coluddyn yn ôl cwintel amddifadedd – Cymru gyfan 2021/22

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart bar sy’n dangos sut mae’r nifer sy’n cael prawf sgrinio’r coluddyn yn lleihau wrth i lefel yr amddifadedd gynyddu. Canran nifer y bobl sy’n cael prawf sgrinio’r coluddyn yn y grŵp lleiaf difreintiedig yw 73.8% ond canran y nifer sy’n cael prawf sgrinio’r coluddyn yn y grŵp mwyaf difreintiedig yw 57.9%

Mae'r cysylltiad rhwng canran y rhai sy'n cael eu sgrinio ac amddifadedd i'w weld ar draws yr holl ardaloedd byrddau iechyd yng Nghymru, gyda chanran y rhai sy'n cael sgrinio'r coluddyn ar ei huchaf yn yr ardaloedd â'r amddifadedd lleiaf a'r ganran ar ei hisaf yn yr ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf. Roedd y bwlch anghydraddoldeb yn amrywio o 19.9% yn BIPCF i 11.3% yn BIPHDd (Ffigur 7).

Ffigur 7: Canran y rhai a gafodd Sgrinio'r Coluddyn yn ôl cwintel amddifadedd fesul bwrdd iechyd 2021/22

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart bar clwstwr sy’n dangos patrwm y nifer sy’n cael prawf sgrinio’r coluddyn yn ôl amddifadedd ym mhob un o’r saith bwrdd iechyd. Y patrwm cyffredinol yw bod y nifer sy'n cael eu sgrinio yn lleihau wrth i amddifadedd gynyddu.

Mae graddiant cymdeithasol hefyd ar gyfer canran y rhai a gafodd sgrinio'r coluddyn ar gyfer yr holl ardaloedd awdurdod lleol yng Nghymru, gyda'r ganran uchaf yn yr ardaloedd â'r amddifadedd lleiaf a'r ganran isaf yn yr ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf.

 

7.3 Canran y rhai a gafodd sgrinio'r coluddyn yn ôl oedran

Ledled Cymru yn 2021/22, mae canran y rhai a gafodd sgrinio'r coluddyn isaf yn y grŵp oedran ieuengaf (58-59 oed) ar 62.6%, o gymharu â 69.5% yn y grŵp oedran hynaf 70-74 oed. Mae'r gwahaniaeth o ran canran y rhai a gafodd eu sgrinio rhwng yr hynaf a'r ieuengaf a wahoddwyd wedi cynyddu eleni, ond mae hynny oherwydd bod y terfyn oedran is wedi newid o 60 i 58 oed ym mis Hydref 2021. Gan gymharu tebyg â'i debyg, mae'r gwahaniaeth rhwng canran y rhai a gafodd eu sgrinio ymhlith pobl 60-74 oed a phobl 70-74 oed wedi cynyddu ychydig bach wrth i ganran y rhai a gafodd eu sgrinio ymhlith pobl 70-74 oed gynyddu 1.4% ac mae'r ganran ymhlith pobl 60-64 oed wedi gostwng ychydig, sef 0.2%.

Ffigur 8: Canran y rhai a gafodd Sgrinio'r Coluddyn yn ôl grŵp oedran – Cymru gyfan 2021/22

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart bar sy’n cymharu’r nifer sy’n cael prawf sgrinio’r coluddyn yn ôl grwpiau oedran sy’n dangos bod y nifer sy’n cael prawf sgrinio’r coluddyn ar ei isaf yn y grŵp oedran ieuengaf ac yn cynyddu wrth i gyfranogwyr fynd yn hŷn.

Gwelir gwahaniaeth o ran canran y rhai a gafodd eu sgrinio yn ôl oedran ar draws pob bwrdd iechyd yng Nghymru.

Er mai dim ond rhan o'r ffordd drwy'r flwyddyn y dechreuodd pobl 58 a 59 gael eu gwahodd, y nifer a wahoddwyd oedd 26,808 felly roedd yn ddigon mawr i weld patrwm.

 

7.4 Canran y rhai a gafodd sgrinio'r coluddyn yn ôl y Math o Wahoddiad

Yn 2021/22, roedd canran y rhai a gafodd sgrinio'r coluddyn ar ei huchaf ymhlith y bobl hynny a oedd wedi cymryd rhan mewn sgrinio yn flaenorol, sef 90.7%. Roedd y ganran ar gyfer pobl a wahoddwyd am y tro cyntaf yn dal i fod yn uwch na'r safon o 60%, sef 64.2%. Fodd bynnag, roedd y ganran yn sylweddol is ymhlith pobl a wahoddwyd yn flaenorol ond nad oeddent wedi ymateb, sef 22%.

Math o Wahoddiad

Gwahoddwyd

Sgriniwyd

Canran y rhai a gafodd eu sgrinio

Cyntaf

68961

44283

64.2

Ailalw, heb ymateb yn flaenorol

94478

20809

22.0

Ailalw, wedi ymateb yn flaenorol

190692

172973

90.7

Prin yw'r amrywiad ar draws byrddau iechyd.

Mae'r ganran ar gyfer y rhai a wahoddwyd yn flaenorol ond nad ymatebodd wedi gostwng o 25.5% yn 2020/21, ond mae'n parhau bron yr un fath ar gyfer y rhai a ymatebodd yn flaenorol (90.8% yn 2020/21). Mae'r ganran ar gyfer y rownd gyntaf wedi gostwng o 65.9% yn 2020/21, wedi'i dylanwadu gan y ffaith bod y grŵp oedran ieuengaf wedi'i gynnwys am y tro cyntaf.

 

7.5 Canran a gafodd sgrinio'r coluddyn yn ôl rhywedd

Mae Sgrinio Coluddion Cymru yn gwahodd pobl o unrhyw rywedd i gymryd rhan mewn sgrinio'r coluddyn bob dwy flynedd. Ledled Cymru, mae gwahaniaeth o 2.8% o ran canran y rhai sy'n cael sgrinio'r coluddyn rhwng dynion a menywod gyda'r ganran ymhlith dynion yn is ar 65.8% o gymharu â'r ganran ymhlith menywod ar 68.6%.

Mae'r bwlch wedi ehangu 0.8% o gymharu â 2020/21, wedi'i ysgogi gan gynnydd o 0.5% ymhlith menywod a gostyngiad llai yn y ganran o ddynion sy'n cael eu sgrinio.

Mae rhywfaint o amrywiad yn ôl bwrdd iechyd gyda'r bwlch yn amrywio o 2% yn BIP Aneurin Bevan a Bae Abertawe, i 5.1% yn BI Addysgu Powys. Fodd bynnag, mae Powys wedi cau'r blwch 0.4% eleni.

Tabl 7: Canran (%) y rhai a gafodd sgrinio'r coluddyn yn ôl rhywedd, 2020/21

Bwrdd iechyd

Dynion

Menywod

Bwlch Annhegwch

Bwlch Annhegwch 20/21

BIP Aneurin Bevan

66.6

68.6

2.0

1.9

BIP Betsi Cadwaladr

65.3

68.3

3.0

2.6

BIP Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

65.5

68.8

3.3

2.8

BIP Cwm Taf Morgannwg

65.8

67.6

1.8

0.2

BIP Hywel Dda

66.6

69.9

3.3

2.1

BI Addysgu Powys

65.4

70.5

5.1

5.5

BIP Bae Abertawe

65.5

67.5

2.0

0.5

Cymru Gyfan

65.8

68.6

2.8

2.0

Roedd canran y rhai a gafodd sgrinio'r coluddyn yn ôl rhywedd yn amrywio ar draws ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru yn 2021/22. Roedd canran y rhai a gafodd eu sgrinio yn uwch ymhlith menywod o gymharu â dynion ym mhob ardal awdurdod lleol gyda'r bwlch annhegwch mwyaf rhwng dynion a menywod ym Mhowys ar 5.1% a'r lleiaf yng Nghwm Taf ar 0.9%. (Y llynedd, roedd y ganran yn uwch ar gyfer dynion yn BIPCTM, yr unig fwrdd iechyd i ddangos y patrwm hwnnw).