Neidio i'r prif gynnwy

Adran 6 - Bron Brawf Cymru

Nod Bron Brawf Cymru yw lleihau marwolaethau o ganser y fron, gyda menywod 50 i 70 oed yn cael eu gwahodd am famogram bob tair blynedd. Mae menywod dros 70 oed yn gallu hunanatgyfeirio i'r rhaglen sgrinio. Mae Bron Brawf Cymru wedi'i rannu yn dair is-adran ddaearyddol gyda chanolfannau yng Nghaerdydd, Abertawe, Llandudno a Wrecsam. Mae 11 o unedau symudol yn gweithio ledled Cymru i ddarparu sgrinio lleol i fenywod sy'n byw yn bell o ganolfan, gan ymweld â thros 100 o safleoedd ym mhob rownd tair blynedd o sgrinio.  Mae'r model darparu gwasanaethau yn Bron Brawf Cymru yn gwahodd cyfranogwyr yn seiliedig ar eu meddygfa y cofrestrwyd â hi.

Gwahoddwyd cyfanswm o 131, 611 o bobl i gymryd rhan mewn sgrinio'r fron yn 2021/22, gyda 92,100 o bobl yn manteisio ar y cynnig. Mae hyn yn cymharu â 63,854 o bobl a wahoddwyd yn 2020/21 a 42,826 o bobl yn manteisio ar y cynnig gan mai hon oedd blwyddyn yr oedi a'r ailddechrau'n raddol. Mae'r nifer a wahoddwyd bron yn ôl ar y nifer a wahoddwyd yn 2018/19 (145,428), sy'n adlewyrchu'r ymdrechion a wnaed gan y rhaglen tuag at adfer wrth weithredu o dan rai cyfyngiadau Covid o hyd, a gwyddom fod rhywfaint o amrywiad bob amser o ran y nifer sy'n gymwys bob blwyddyn.

Nodir canran y rhai sy'n derbyn sgrinio'r fron fel cyfran y cyfranogwyr a wahoddwyd a aeth i gael eu sgrinio o fewn chwe mis i'r gwahoddiad gan wneud hwn y data diweddaraf sydd ar gael ym mis Hydref 2022. Yn 2021/22, roedd canran y rhai a gafodd eu sgrinio ledled Cymru yn 70.0%, sef cynnydd o gymharu â 67.1 yn 2020/21 ac yn cyrraedd y safon 70%.

 

6.1 Canran y rhai a gafodd sgrinio'r fron yn ôl ardal ddaearyddol 

Mae amrywiad daearyddol o ran canran y rhai sy'n cael eu sgrinio ledled Cymru ar lefel bwrdd iechyd gyda'r ganran yn amrywio o 68.1% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) i 72.5% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA) (Tabl 1).

Tabl 1: Canran (%) y rhai a gafodd sgrinio'r fron yn ôl bwrdd iechyd preswyl, 2021/22

Bwrdd iechyd

Gwahoddwyd (n)

Sgriniwyd (n)

Canran y rhai a gafodd eu sgrinio (%)

BIP Aneurin Bevan 

23643

16678

70.5

 BIP Betsi Cadwaladr 

35558

24553

69.1

BIP Caerdydd a'r Fro 

15520

10662

68.7

BIP Cwm Taf Morgannwg 

19290

13142

68.1

BIP Hywel Dda 

18214

13075

71.8

BIP Addysgu Powys 

1820

1257

69.1

BIP Bae Abertawe 

17532

12712

72.5

Cymru Gyfan

131611

92100

70.0

 

Nid yw cyfanswm Cymru yn adio'n union gan nad oes modd neilltuo ychydig o bobl i fwrdd iechyd.

Ffigur 1: Canran (%) y rhai a gafodd sgrinio'r fron yn ôl awdurdod lleol preswyl, 2021/22

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart bar sy’n dangos canran y nifer sy'n cael prawf sgrinio'r fron, gan ddechrau gyda'r ganran uchaf, sef Sir Gaerfyrddin ar 72.9%, a gorffen gyda’r ganran isaf, sef Ynys Môn ar 40%.

Nodir mwy o amrywiad daearyddol o ran canran y rhai a gafodd eu sgrinio fesul ardal awdurdod lleol sy'n amrywio o 72.9% yn Sir Gaerfyrddin i 40.0% yn Ynys Môn (Ffigur 1). Dylid nodi mai dim ond nifer bach o fenywod a wahoddwyd yn Ynys Môn yn y flwyddyn hon oherwydd amseru'r rownd tair blynedd (97 o fenywod), felly dylid trin y ffigur hwn yn ofalus.

 

6.2 Canran y rhai a gafodd sgrinio'r fron yn ôl amddifaded 

Mae ein data'n dangos bod graddiant cymdeithasol o ran canran y rhai sy'n cael eu sgrinio, gydag amddifadedd cynyddol yn gysylltiedig â gostyngiad o ran canran y rhai sy'n cael eu sgrinio/cwmpas.

Y gwahaniaeth absoliwt rhwng canran y rhai sy'n cael eu sgrinio yn yr ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf a lleiaf yw 15.3% (76.2-60.9). O gymharu â 2020/21 mae hyn wedi gostwng, o wahaniaeth o 18.9% (75.3-56.4). Mae canran y rhai sy'n cael eu sgrinio wedi cynyddu yn y cwintelau â'r amddifadedd mwyaf a lleiaf, ond gan fwy o swm yn y grwpiau â'r amddifadedd mwyaf, sy'n golygu bod y bwlch anghydraddoldeb yn gostwng.

Ffigur 2:  Canran y rhai a gafodd Sgrinio'r Fron yn ôl cwintel amddifadedd – Cymru gyfan 2021/22

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart bar sy’n dangos sut mae’r nifer sy’n cael prawf sgrinio’r fron yn lleihau wrth i lefel yr amddifadedd gynyddu. Canran nifer y bobl sy’n cael prawf sgrinio’r fron yn y grŵp lleiaf difreintiedig yw 76.2% ond canran y nifer sy’n cael prawf sgrinio’r fron yn y grŵp mwyaf difreintiedig yw 60.9%

Mae'r patrwm o ran canran y rhai a gafodd eu sgrinio yn gostwng gydag amddifadedd cynyddol fel arfer yn cael ei weld ar draws byrddau iechyd, er bod y gwahaniaeth yn llai amlwg yn Hywel Dda ac mae'r patrwm yn wahanol ym Mhowys (lle nad yw'r cwintel â'r amddifadedd lleiaf wedi'i ddangos oherwydd niferoedd bach).

Ffigur 3: Canran y rhai a gafodd Sgrinio'r Fron yn ôl cwintel amddifadedd fesul bwrdd iechyd 2021/22

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart bar clwstwr sy’n dangos patrwm y nifer sy'n cael prawf sgrinio'r fron yn ôl amddifadedd ym mhob un o'r saith bwrdd iechyd. Y patrwm cyffredinol yw bod y nifer sy'n cael eu sgrinio yn lleihau wrth i amddifadedd gynyddu.

 

6.3 Canran y rhai a gafodd sgrinio'r fron yn ôl oedran

Ledled Cymru yn 2021/22, roedd canran y rhai a gafodd sgrinio'r fron isaf yn y grŵp oedran ieuengaf (50-52 oed) sy'n gymwys i gael sgrinio ar 59.5% o gymharu â 73% yn y grŵp oedran hynaf 65-70 oed. Mae'r duedd o ran canran is yn y grwpiau oedran iau yn gyson â blynyddoedd blaenorol ac mae'n bresennol ar draws byrddau iechyd yng Nghymru.

Ffigur 4: Canran y rhai a gafodd Sgrinio'r Fron yn ôl grŵp oedran – Cymru gyfan 2021/22

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart bar sy’n cymharu’r nifer sy’n cael prawf sgrinio’r fron yn ôl grwpiau oedran sy’n dangos bod y nifer sy’n cael prawf sgrinio’r coluddyn ar ei isaf yn y grŵp oedran ieuengaf ac yn cynyddu wrth i gyfranogwyr fynd yn hŷn.

 

6.4 Canran y rhai a gafodd sgrinio'r fron yn ôl y math o wahoddiad 

Yn ogystal ag edrych yn ôl oedran, gallwn hefyd edrych ar ganran y rhai a gafodd eu sgrinio yn ôl y math o wahoddiad, a labelir yma fel y cyntaf neu ailalw.

Tabl 2: Canran y rhai a gafodd sgrinio'r fron yn ôl math o wahoddiad – Cymru gyfan 2021/22 

Math o Wahoddiad

Gwahoddwyd

Sgriniwyd

Canran y rhai a gafodd eu sgrinio

Cyntaf

41,418

16914

40.8

Ailalw

90,193

75186

83.4

Mae hyn yn dangos i ni bod pobl yn llawer mwy tebygol o fynd i gael eu sgrinio os ydynt wedi cael eu sgrinio yn flaenorol, sy'n cyd-fynd â'r data sy'n dangos bod pobl hŷn yn fwy tebygol o ymateb i wahoddiad.