Mae mynd i’r afael ag annhegwch wedi bod yn flaenoriaeth allweddol i'r Is-adran Sgrinio ers amser hir. Rydym yn cyflwyno adroddiadau rheolaidd ar ganran y rhai sy'n cael eu sgrinio yn ôl cwintel amddifadedd ac rydym wedi archwilio annhegwch yn ôl nodweddion gwahanol fel rhan o waith prosiect a gwaith cymunedol parhaus dan arweiniad ein Tîm Ymgysylltu â Sgrinio.
Ein nod yw galluogi'r holl gyfranogwyr cymwys i wneud dewisiadau gwybodus am sgrinio. Mae hyn yn gymhleth, wedi'i ddylanwadu gan iaith, cymuned, ffactorau diwylliannol ac economaidd, sy'n effeithio ar ymddygiad, yn ogystal â mynediad ffisegol at wasanaethau. Er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb sgrinio presennol mae ein dull yn canolbwyntio ar gamau gweithredu mewn pum maes allweddol. Mae'r meysydd allweddol hyn yn adeiladu ar ein cryfderau a'n hasedau presennol yn yr Adran Sgrinio a'r rhwydwaith partneriaid ehangach:
Cyfathrebu
Cymuned ac Ymgysylltu
Cydweithredu
Darparu Gwasanaethau
Data a Monitro
Er mwyn cynnal camau gweithredu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau, mae Fframwaith Anghydraddoldeb Sgrinio wedi'i ddatblygu. Mae hwn yn nodi cyfres o ymrwymiadau i ddatblygu camau gweithredu ar draws ein meysydd allweddol.
Mae enghreifftiau o gamau gweithredu a gafodd eu cymryd yn 2022-23 yn y maes hwn yn cynnwys y canlynol:
Mae ein proses Datblygu Gwybodaeth i'r Cyhoedd wedi'i hadolygu, gan gynnwys diwygio ein pecyn cymorth i gynorthwyo datblygiad. Mae'r pecyn cymorth yn cynnwys gwybodaeth am sicrhau hygyrchedd o ran iaith a dyluniad, yn ogystal â chanllaw i'r broses ddatblygu sy'n dechrau gydag asesiad o'r angen am unrhyw gynnyrch a meddwl am y fformat a lledaenu, ac mae'n cynnwys camau gweithredu ynghylch ymgysylltu ac adolygu.
Mae archwiliad o'n darpariaeth gwybodaeth hygyrch wedi'i gynnal. Ein safon yw i'r holl adnoddau fod ar gael mewn Saesneg Clir, Cymraeg, Hawdd ei Ddeall, Iaith Arwyddion Prydain a sain ar draws yr holl raglenni ac ar draws pob pwynt cyswllt yn y llwybr. Mae'r Tîm Ymgysylltu â Sgrinio yn gweithio gyda'r rhaglenni i flaenoriaethu gwaith ar feysydd y mae angen eu cryfhau. Ochr yn ochr â hyn, mae'r tîm yn edrych ar y ffordd orau o gael gwybodaeth mewn fformatau eraill i bobl pan fydd eu hangen arnynt. Yn arbennig, rydym yn edrych ar Lythyrau Gwahoddiad Hygyrch – mae'r rhain yn arbennig o heriol oherwydd y llythyr yw'r pwynt cyswllt cyntaf â sgrinio i'r rhan fwyaf o bobl, ac yn gyffredinol nid ydym yn gwybod beth yw'r anghenion cyfathrebu ar y pwynt hwnnw.
Ar draws y rhaglenni rydym yn adolygu ein defnydd o iaith sy'n gysylltiedig â rhywedd. Ein hegwyddorion sylfaenol yw bod angen i'n negeseuon fod yn glir ac yn ddealladwy, yn ogystal â bod yn hygyrch ac yn gynhwysol. Lle y bo’n briodol, rydym wedi mabwysiadu dull ychwanegu e.e. cyfeirio at fenywod a phobl â cheg y groth wrth siarad am sgrinio serfigol. Fodd bynnag, wrth lunio gwybodaeth i'r cyhoedd rydym yn ceisio ei phersonoli cyn belled ag y bo modd e.e. pan fyddwch yn cael eich gwahodd am eich prawf.
Fel rhan o’n Strategaeth Gyfathrebu, rydym yn ceisio meithrin ymddiriedaeth yn ein gwasanaethau sgrinio, a dealltwriaeth ohonynt. Er mwyn gwneud hyn, rydym yn ceisio datblygu rhywfaint o wybodaeth syml, hygyrch sy'n esbonio egwyddorion ‘Beth yw Sgrinio’. Rydym hefyd yn adeiladu “banc asedau” o negeseuon a fydd yn sicrhau'r defnydd o negeseuon cyson, ac yn galluogi i'r rhain gael eu rhannu gan ein sefydliad a'n partneriaid. Gan ddysgu o ymgyrchoedd blaenorol, yn ogystal ag ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid a phartneriaid, rydym yn sicrhau ein bod yn cynnal profion eang o'n negeseuon gyda sefydliadau partner a chyfranogwyr ar ôl iddynt gael eu datblygu.
Rydym wedi cynnal adolygiad cyflawn o'n Gwefannau i sicrhau cysondeb o ran cynllun a dull, yn seiliedig ar arfer gorau ar y we ac adborth defnyddwyr. Rydym yn canolbwyntio'n benodol ar hygyrchedd a sicrhau y gall defnyddwyr we-lywio'n hawdd er mwyn dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnynt. Rydym yn ymwybodol o fanteision gwybodaeth mewn fformatau digidol gan gynnwys y manteision o ran hygyrchedd a'r defnydd o offer fel animeiddiadau i wella mor ddeniadol a dealladwy yw ein cynnwys. Rydym hefyd yn ymwybodol iawn o allgáu digidol posibl, yn enwedig mewn rhai mannau yn ein cymunedau, ac nid ydym yn anelu at ddarparu gwybodaeth ddigidol yn unig. Mae ein rhaglenni Cyn Geni a Newydd-anedig yn gwerthuso eu defnydd o wybodaeth ddigidol yn gyntaf, a bydd canfyddiadau o'r gwaith hwnnw yn llywio'r camau nesaf ar gyfer ein rhaglenni eraill.
Mae'r is-adran sgrinio yn gweithio gyda'r timau canolog yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i edrych ar ddarparu gwybodaeth mewn ieithoedd eraill, gan weithio tuag at un dull ar draws y sefydliad. Bydd argymhellion o waith ymgysylltu gyda grwpiau ethnig lleiafrifol a gynhelir gan Tîm Ymgysylltu â Sgrinio yn cael eu defnyddio i lywio'r sgyrsiau hyn. Hefyd, mae swyddogaeth gyfieithu ein gwefannau yn chwarae rhan bwysig.
Mae'r Tîm Ymgysylltu â Sgrinio hefyd yn arwain ar ddarn o waith ar gyfer pob un o'r rhaglenni gan edrych ar arddull a geiriad cyson negeseuon allweddol, gyda chysondeb o fewn adnoddau rhaglen ac ar draws y rhaglenni. Byddwn hefyd yn cyfieithu hyn i'r Gymraeg fel bod cysondeb yn y defnydd o iaith ar draws ein hadnoddau Cymraeg hefyd.
Mae enghreifftiau o gamau gweithredu a gafodd eu cymryd yn 2022-23 yn y maes hwn yn cynnwys y canlynol:
Mae archwiliad o Gronfa Ddata Rhanddeiliaid y Tîm Ymgysylltu wedi'i gynnal, i sicrhau bod cysylltiadau'n gyfredol ac edrych ar ehangder a chyrhaeddiad ein partneriaethau cymunedol. Mae sgyrsiau'n parhau â swyddogaethau ymgysylltu eraill yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ogystal â thîm ymgysylltu canolog Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ein nod yw sicrhau ein cyrhaeddiad a'n heffaith fwyaf posibl heb orlwytho ein partneriaid, gan sicrhau eu bod yn ymgysylltu yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo gyda grwpiau cymunedol penodol er mwyn deall yn well y rhwystrau a'r galluogwyr o ran cyfranogi mewn sgrinio. Eleni mae darnau penodol o waith wedi'u gwneud gyda'r cymunedau canlynol
Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yw panel cynrychioliadol cenedlaethol Iechyd Cyhoeddus Cymru o 2,500 o drigolion ledled Cymru. Drwy rannu eu profiadau a'u barn bob mis, bydd aelodau'r panel yn helpu i lunio polisi a phenderfyniadau iechyd cyhoeddus, a chyfrannu at wella iechyd a llesiant ledled Cymru. Mae'r Adran Sgrinio yn rhan o'r Bwrdd Cynghori ar gyfer y panel a hyd yma mae wedi cyflwyno cwestiynau ynghylch gwybodaeth ac ymwybyddiaeth gyffredinol am sgrinio, a hefyd yn benodol am sgrinio coluddion. Cyhoeddiadau Panel Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Mae hyfforddiant ac addysg gymunedol yn cael eu cyflwyno gan yr Ymgysylltu â Sgrinio i bartneriaid cymunedol ledled Cymru. Mae'r hyfforddiant wedi'i groesawu ac mae nifer da wedi mynd iddo gyda thros 350 o gyfranogwyr dros y flwyddyn ddiwethaf ar draws 30 o sesiynau. Mae'r hyfforddiant yn cael ei werthuso ar hyn o bryd - bydd canlyniad y gwerthusiad yn gyfle i ni ddysgu o'r rhaglen waith bresennol a gwneud unrhyw ddiwygiadau a gwelliannau wrth symud ymlaen. Hyfforddiant ac Addysg Gymunedol - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Cam nesaf allweddol i ni yw gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau ein bod yn defnyddio'r holl ffynonellau mewnwelediad a dod â nhw at ei gilydd i lywio'r camau gweithredu.
Mae enghreifftiau o gamau gweithredu a gafodd eu cymryd yn 2022-23 yn y maes hwn yn cynnwys y canlynol:
Yn dilyn yr ymgysylltu cadarnhaol a gynhaliwyd gan y Tîm Ymgysylltu â Sgrinio, bydd Rhwydwaith Ymgysylltu â Sgrinio yn cael ei sefydlu. Bwriedir cynnal digwyddiad rhwydwaith ddwywaith y flwyddyn. Bydd hyn yn agored i bartneriaid y trydydd sector ac Uwch Ymarferwyr ac Ymarferwyr Timau Iechyd Cyhoeddus Lleol.
Mae'r grŵp Sgrinio ac Anghydraddoldebau, yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd bob yn ail fis, gyda chynrychiolwyr o Dimau Iechyd Cyhoeddus Lleol a'r Adran Sgrinio. Mae'r grŵp yn fforwm ar gyfer rhannu dysgu am waith lleol a chenedlaethol a datblygiadau newydd yn y rhaglenni, ac mae wedi ehangu ei gylch gwaith i edrych ar annhegwch ar draws y llwybr, nid dim ond o ran canran y rhai sy'n cael eu sgrinio.
Mae cydweithwyr Gofal Sylfaenol yn bartneriaid allweddol i ni ym maes sgrinio. Mae'r Tîm Ymgysylltu â Sgrinio wedi cynnal arolwg o arweinwyr clwstwr, gan ystyried pa ddata a gwybodaeth fyddai'n ddefnyddiol iddyn nhw a hefyd y dulliau gorau o gyfathrebu. Mae'r canfyddiadau hyn yn cael eu trafod gydag arweinwyr o Adran Gofal Sylfaenol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ogystal ag yn fewnol ym maes sgrinio.
Fel rhan o waith gyda gofal sylfaenol, mae'r adran wedi cyflwyno gwahoddiadau a llythyrau atgoffa ar gyfer rhaglen Sgrinio Coluddion Cymru sy'n cael eu cymeradwyo gan feddyg teulu'r defnyddiwr gwasanaethau. Mae hyn oherwydd tystiolaeth gyhoeddedig sy'n dangos bod cymeradwyaeth gan y meddyg teulu yn gwella canran y rhai sy'n cael eu sgrinio ac yn lleihau annhegwch o ran canran y rhai sy'n cael eu sgrinio. Mae dros 90% o Bractisau wedi optio i mewn a dechreuodd y dull hwn ym mis Chwefror 2023 a dim ond ychydig o bractisau sydd wedi optio allan neu heb ymateb. Dim ond yn gynharach eleni y cafodd hyn ei gyflwyno ac nid yw wedi'i werthuso'n ffurfiol eto. Bydd y canfyddiadau'n cael eu rhannu â phartneriaid gofal sylfaenol a gobeithio y byddant yn dangos manteision yr ymyriad ac yn annog mwy o gyflwyno'r dull hwn sy'n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn lleihau anghydraddoldeb.
Mae safleoedd mewnrwyd gwybodaeth i weithwyr proffesiynol wedi'u sefydlu ar gyfer pob un o'r rhaglenni sgrinio, gan ddefnyddio templed cyson sy'n seiliedig ar egwyddorion arfer gorau ar y we. Un o’r camau nesaf allweddol yn ystod y flwyddyn nesaf fydd ynghylch y rhaglenni'n datblygu'r wybodaeth hon ymhellach yn seiliedig ar ymgysylltu â grwpiau rhanddeiliaid allweddol. Un o'r grwpiau hyn yw gofal sylfaenol ac rydym yn anelu at allu darparu ffynhonnell wybodaeth ddibynadwy a hygyrch a fydd yn cyflwyno ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth y gellir eu cynnal yn lleol.
Mae enghreifftiau o gamau gweithredu a gafodd eu cymryd yn 2022-23 yn y maes hwn yn cynnwys y canlynol:
Mae gan bob rhaglen Hyrwyddwr Tegwch enwebedig. Mae'r aelodau allweddol hyn o staff y rhaglen yn mynychu cyfarfodydd Tegwch adrannol rheolaidd ac yn cysylltu'r hyn a ddysgir yn ôl i mewn i'r gwaith o ddarparu rhaglen weithredol. Mae disgrifydd rôl wedi'i ddyfeisio sy'n nodi disgwyliadau.
Un mater a godwyd gan ddefnyddwyr gwasanaethau a sefydliadau partner yw pwysigrwydd cael dulliau lluosog o gyfathrebu er mwyn i ddefnyddwyr gwasanaethau gysylltu â'r rhaglenni. Cynhaliwyd archwiliad o'r dulliau a gynigiwyd mewn llythyrau ac ar y rhyngrwyd yn erbyn y safon o gael ffôn, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad post fel isafswm, a rhoddwyd cymorth i raglenni yr oedd angen iddynt wella o hyd. Bydd hyn yn cael ei ailarchwilio yn y flwyddyn newydd.
Rydym yn parhau i weithio i sefydlu'r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd (EHIA) fel rhan o arfer rheolaidd yn yr Adran Sgrinio. Mae'r offeryn a ddefnyddiwn wedi'i ddatblygu gan y Tîm Ymgysylltu â Sgrinio, gan weithio gyda thîm canolog Iechyd Cyhoeddus Cymru, i gael rhywbeth sy'n drylwyr a hefyd yn hawdd ei ddefnyddio ac yn arwain defnyddwyr tuag at gamau gweithredu a chamau nesaf.
Mae rhai grwpiau o bobl sy'n gymwys i gael sgrinio nad ydynt yn hawdd eu nodi a'u gwahodd gan nad ydynt wedi cofrestru gyda meddygon teulu yn yr un ffordd â'r boblogaeth gyffredinol. Mae'r grwpiau hyn yn cynnwys pobl mewn carchardai, rhai pobl mewn cyfleusterau gofal hirdymor, a phobl yn y Fyddin sydd wedi cofrestru gyda Gwasanaethau Meddygol Amddiffyn. Ar gyfer pob un o'r grwpiau hyn, mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau ein bod yn ymwybodol o bobl gymwys mewn ffordd amserol ac y gellir cynnig sgrinio iddynt.
Rydym yn ceisio mapio taith y defnyddiwr gwasanaethau ar draws yr holl raglenni sgrinio er mwyn mynd i'r afael â rhwystrau o ran cyfle a mynediad ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau ar bob cam o'r llwybr.
Mae enghreifftiau o gamau gweithredu a gafodd eu cymryd yn 2022-23 yn y maes hwn yn cynnwys y canlynol:
Mae cyhoeddi'r adroddiad Tegwch hwn yn un o'n hymrwymiadau, gan rannu data ond mae hefyd yn rhoi'r diweddaraf am ein camau gweithredu hyd yma yn dilyn cyhoeddi'r strategaeth y llynedd.
Rydym yn gweithio'n galed i archwilio ffyrdd gwahanol o gael rhagor o fesurau ar gyfer edrych ar degwch o ran canran y rhai sy'n cael eu sgrinio, a'r prif fesur yw ethnigrwydd.
Nid y camau a ddisgrifir uchod yw'r unig beth rydym yn ei wneud yn yr Is-adran Sgrinio a chyda'n partneriaid i fynd i'r afael ag annhegwch ar draws y llwybr sgrinio. Fodd bynnag, maent yn darparu cyfres dda o enghreifftiau o'r math o waith rydym yn ei wneud, o dan y pum maes blaenoriaeth, a'r camau gweithredu a gymerwyd mewn ymateb i flaenoriaethau a nodwyd yn ein Strategaeth Tegwch.