Neidio i'r prif gynnwy

Adran 12 - Trafodaeth

Roedd y flwyddyn 2021-22 yn un heriol ar gyfer sgrinio – roedd rhai cyfyngiadau COVID yn eu lle o hyd, roedd gwaith ar adfer yn dilyn yr oedi yn mynd rhagddo, ac roedd busnes fel arfer yn ailddechrau hefyd gyda newidiadau a datblygiadau'n digwydd hyd yn oed gyda'r adfer yn gefndir i hyn.

Er bod llawer o ffocws wedi'i roi ar fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a gwella hygyrchedd, nid yw hyn o reidrwydd wedi'i adlewyrchu yn y ffigurau sy'n dangos canran y rhai a gafodd eu sgrinio yn ôl cwintel amddifadedd.

Tabl 6: Y gwahaniaeth o ran canran y rhai a gafodd eu sgrinio yn y cwintel â'r amddifadedd mwyaf a'r amddifadedd lleiaf

Rhaglen

2021/22

2020/21

2018/19

Coluddion

15.9%

14.5%

16.5%

Y fron

15.3%

18.9%

15.9%

Serfigol

13.2%

12.1%

11.5%

YAA

12.4%

8.7%

12.8%

Un ffactor a fydd wedi effeithio ar hyn yw'r effaith barhaus o bandemig COVID a'r ffordd y cafodd gwasanaethau eu darparu drwy gydol 2021/22. Er bod cynnal Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd yn rhan o'n harfer safonol wrth wneud newidiadau neu ddatblygiadau, yn ogystal ag ystyried effaith wahaniaethol ar grwpiau gwahanol o ddefnyddwyr gwasanaethau, roedd rhai newidiadau nad oedd modd eu hosgoi yn ystod y cyfnod hwn. Roedd un enghraifft yn ymwneud â lleoliadau, gan ein bod yn dal yn gyfyngedig o ran lle gallem sgrinio ar gyfer rhai rhaglenni, a effeithiodd ar amseroedd teithio. Cafodd ein Strategaeth Tegwch ei datblygu yn ystod 2021/22 ac rydym yn gobeithio gweld effaith fwy cadarnhaol yn y ffigurau ar gyfer 2022/23.

Fodd bynnag, mae'r ffigurau a gyflwynir yma yn fesur bras ac nid ydynt yn adlewyrchu ehangder y gwaith a drafodwyd yn rhan gyntaf yr adroddiad a'r gwaith ymgysylltu a chydweithredu parhaus i ddeall rhwystrau a galluogwyr i fynediad yn well a mynd i'r afael â hyn.

Mae'r data hyn yn yr adroddiad hwn wedi canolbwyntio ar ganran y rhai sy'n cael eu sgrinio, sef dechrau'r daith sgrinio yn unig. Nod cyffredinol sgrinio yw gwella canlyniadau iechyd i bobl Cymru drwy leihau afiachedd a marwoldeb. Wrth i ni weithio i wella anghydraddoldebau iechyd ar draws y llwybr sgrinio byddwn hefyd yn datblygu sut y gallwn ymgorffori data ar gamau gwahanol o'r llwybr clinigol gan gynnwys mynediad at brofion diagnostig a thriniaeth ac argaeledd hyn i lywio'r ymateb sydd ei angen i leihau annhegwch iechyd.

Mae canfyddiadau allweddol o'r data a fydd yn parhau i lywio camau gweithredu yn cynnwys y gwahaniaeth o ran canran y rhai sy'n cael eu sgrinio rhwng pobl sydd wedi cymryd rhan mewn sgrinio yn flaenorol a'r rhai nad ydynt wedi gwneud hynny. Mae hyn, ynghyd â'r canfyddiadau bod canran y rhai sy'n cael eu sgrinio yn is mewn pobl iau ar y cyfan, yn atgyfnerthu'r angen i ganolbwyntio ymdrechion ar gynyddu canran y rhai sy'n cael eu sgrinio ymhlith pobl sy'n cael eu gwahodd i sgrinio am y tro cyntaf.

Dros y flwyddyn nesaf, bydd yr Adran Sgrinio yn parhau i ddatblygu'r camau gweithredu sy'n deillio o'n Strategaeth Tegwch. Byddwn yn gweithio drwy gamau gweithredu cam 2 yn ogystal â meysydd ffocws ychwanegol a fydd yn parhau i godi, gan strwythuro ein camau gweithredu o amgylch themâu allweddol Cyfathrebu, Cymuned ac Ymgysylltu, Cydweithredu, Darparu Gwasanaethau a Data a Monitro.

Bydd hyn yn ein galluogi i symud ymlaen i gyflawni ein gweledigaeth, sef bod pawb sy'n gymwys i gael sgrinio ar draws y rhaglenni sgrinio cenedlaethol yng Nghymru yn cael mynediad teg a chyfle i fanteisio ar eu cynnig sgrinio, gan ddefnyddio gwybodaeth ddibynadwy i wneud dewis gwybodus personol.