Ein gweledigaeth, yw bod pawb sy'n gymwys i gael sgrinio ar draws y rhaglenni sgrinio cenedlaethol yng Nghymru yn cael mynediad teg a chyfle i fanteisio ar eu cynnig sgrinio, gan ddefnyddio gwybodaeth ddibynadwy i wneud dewis gwybodus personol.
Dyma ein hail Adroddiad Anghydraddoldeb Sgrinio, gan roi'r diweddaraf ar y camau gweithredu a ddisgrifiwyd yn ein Strategaeth Tegwch a dod â data ynghyd o bob rhan o wahanol raglenni gan ganolbwyntio'n benodol ar anghydraddoldeb.
Mae'r disgrifiad o gamau gweithredu a gynhwysir yn yr adroddiad yn gyfredol ym mis Awst 2023 pan gafodd yr adroddiad ei gwblhau, ac mae wedi'i strwythuro o amgylch y Meysydd Allweddol a ddiffiniwyd yn y Strategaeth Tegwch.
Mae'r adroddiad hwn hefyd yn cyflwyno data ar y rhai a gafodd eu gwahodd i gael eu sgrinio o fis Ebrill 2021 i fis Mawrth 2022. Gan ganiatáu chwe mis i gyfranogwyr fanteisio ar eu cynnig sgrinio, mae hyn yn adlewyrchu canran y rhai a gafodd eu sgrinio/cwmpas ym mis Hydref 2022. Unwaith eto eleni mae’r data a gyflwynir yn canolbwyntio ar y penderfynyddion a'r ffactorau demograffig sy'n cael eu casglu ar hyn o bryd o fewn ein casglu data rheolaidd. Wrth i'n casglu data a'n dealltwriaeth o annhegwch ym maes sgrinio ddatblygu, ein nod yw ehangu'r amrywiaeth o ffactorau a drafodir yn yr adroddiad hwn ac rydym yn gweithio ar ehangu'r amrywiaeth o fesurau y gallwn eu cynnwys. Fel dogfen sy'n datblygu rydym yn croesawu adborth ar y cynnwys a'r cynllun er mwyn llywio fersiynau yn y dyfodol, ac rydym wedi diweddaru'r adroddiad hwn o ganlyniad i adborth o'r adroddiad a gyhoeddwyd yn 2022.