Cyd-destun strategol
Ystyriwch y cyd-destun strategol cenedlaethol ar gyfer blaenoriaethu camau gwella yn y maes hwn (ar y cyd â chynllun blynyddol eich bwrdd iechyd a chynllun ardal y bwrdd partneriaeth rhanbarthol). Mae pwysigrwydd strategol pwnc penodol yn allweddol wrth feddwl am sut mae ein gweithredoedd yn cyd-fynd â mentrau a pholisïau lleol neu genedlaethol i ddarparu effeithiau cyfunol a mesuradwy ar iechyd y boblogaeth.
- Yn 2015-16 roedd gan draean o blant 5-6 oed yng Nghymru brofiad o bydredd dannedd; ar gyfartaledd byddai gan 10 o blant allan o ddosbarth o 30 bydredd dannedd, gyda'r 10 hyn â 3.6 o ddannedd wedi pydru (WOHIU 2017).
- Mae tystiolaeth o raglen Epidemioleg Ddeintyddol Cymru yn dangos bod anghydraddoldebau iechyd y geg yn bodoli o mor gynnar â 3 oed, a phlant sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig sydd â'r baich mwyaf o glefyd deintyddol.
- Gall profi pydredd dannedd yn ifanc nid yn unig achosi poen a haint, ond hefyd tarfu ar gwsg, cyfyngu ar y gallu i ganolbwyntio sylw a bwyta deiet amrywiol, llesteirio datblygiad lleferydd, ac effeithio'n negyddol ar hunanddelwedd ac iechyd meddwl.
- Pydredd dannedd yw un o'r rhesymau mwyaf cyffredin dros fynd i'r ysbyty yn ystod plentyndod; mae'n cael effaith gydol oes gan fod iechyd deintyddol gwael plentyndod yn rhagfynegydd o iechyd deintyddol gwael i oedolion.
- Yn y mwyafrif llethol o achosion, mae pydredd dannedd yn gwbl ataliadwy trwy ymddygiad iechyd cadarnhaol (Cynllun Gwên).
- Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfeiriad strategol ar gyfer gwella iechyd y geg yn Cymru Iachach: ymateb y gwasanaethau deintyddol ac iechyd y geg (LlC 2018).
- Mae angen dull amlweddog i wella iechyd y geg y boblogaeth, ynghyd â strategaeth sy’n dylanwadu ar benderfynyddion iechyd ehangach ac sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd y geg. Bydd clystyrau yn elwa ar gyngor deintyddol arbenigol o ran iechyd y cyhoedd wrth lunio cynlluniau i wella iechyd y geg y boblogaeth leol.
Dadansoddiadau data
Ystyriwch ddangosyddion ystadegol a thystiolaeth arall am anghenion y boblogaeth er mwyn cymharu eich sefyllfa chi ag eraill, o fewn a thu allan i’ch bwrdd iechyd (lle bo’n bosibl). Os yw'n berthnasol, ystyriwch unrhyw ofynion data lleol ychwanegol a allai gyfrannu at benderfyniad gwybodus ar weithredu.
- Dangosydd: Disgrifiad o ddangosydd a argymhellir yn ymwneud â'r pwnc hwn, a fyddai'n llywio asesiad o anghenion y boblogaeth.
- Ffynhonnell y data a'r ddolen: Pwy sy'n cynhyrchu'r dadansoddiad a ble i ddod o hyd i'r dadansoddiad mwyaf cyfredol ar eu gwefan (DS efallai na fydd y dadansoddiad diweddaraf yn defnyddio'r data mwyaf diweddar).
- Dolen dogfennaeth: Ble i ddod o hyd i gyngor cyffredinol ar ddehongli'r dadansoddiad e.e. beth sydd wedi'i gynnwys/ heb ei gynnwys, unrhyw gafeatau, ac ati.
Dangosydd:
|
Nifer yr achosion o ddannedd wedi pydru, ar goll neu wedi'u llenwi (%)
|
Ffynhonnell y data a'r ddolen:
|
Rhaglen Epidemioleg Ddeintyddol yng Nghymru
|
Dolen i'r ddogfennaeth:
|
Mae'r ffynhonnell ddata hon yn cynnwys adroddiadau sy'n rhoi cyd-destun
|
Camau gwella
Mae nodi camau blaenoriaeth yn cynnwys ceisio a gwerthuso tystiolaeth ar opsiynau gwella effeithiol a chost-effeithiol. Mae'r opsiynau isod yn fan cychwyn ar gyfer ystyried ymyriadau ar lefel practis, lefel clwstwr/ cydweithredfa proffesiynol neu draws-glwstwr. Mae cyfansoddiad eich clwstwr a'r rhanddeiliaid rydych chi'n gweithio gyda nhw yn debygol o ddylanwadu ar y math o gamau rydych chi'n eu cymryd.
Sicrhau bod staff rheng flaen yn gallu cynnig cyngor hybu ieched y geg
- Mae canllawiau NICE Oral health: local authorities and partners (PH55) yn argymell sicrhau bod staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen yn gallu rhoi cyngor ar bwysigrwydd iechyd y geg.
- Fel rhaglen ataliol i blant o'u genedigaeth, mae Cynllun Gwên yn cynnwys ystod eang o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys ymwelwyr iechyd a gwasanaethau blynyddoedd cynnar eraill; mae'r wefan yn darparu gwybodaeth a chyngor wedi'i deilwra ar gyfer rhieni a gofalwyr, ac i weithwyr proffesiynol.
Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod hybu ac addysg iechyd y geg yn cael ei gynnwys o fewn lleoliadau blynyddoedd cynnar lleol a gwasanaethau iechyd a chymdeithasol
- Mae Rhaglen Plant Iach Cymru yn nodi manylion y cyswllt y gall plant a theuluoedd ddisgwyl ei gael gyda gweithwyr iechyd proffesiynol; mae hyn yn cynnwys iechyd deintyddol fel elfen graidd.
- Mae canllawiau NICE Oral health: local authorities and partners (PH55) yn argymell cynnwys hybu iechyd y geg mewn manylebau ar gyfer pob gwasanaeth blynyddoedd cynnar; sicrhau bod yr holl wasanaethau blynyddoedd cynnar yn darparu gwybodaeth a chyngor iechyd y geg; a sicrhau bod gwasanaethau blynyddoedd cynnar yn darparu gwybodaeth a chyngor ychwanegol wedi'u teilwra i grwpiau sydd â risg uchel o iechyd y geg gwael.
- Darperir y gweithgareddau hyn gan Cynllun Gwên, rhaglen genedlaethol i wella iechyd y geg plant Cymru (a ddarperir gan Wasanaethau Deintyddol Cymunedol GIG Cymru).
Eirioli ar gyfer y ddarpariaeth leol orau bosibl o'r rhaglen Cynllun Gwên mewn meithrinfeydd ac ysgolion
- Cynllun Gwên yw'r rhaglen gwella iechyd y geg genedlaethol i blant yng Nghymru; sail hynny yw WHC/2017/23 a'i nod yw helpu i gychwyn arferion da yn gynnar drwy roi cyngor i deuluoedd â phlant ifanc, darparu brwshys dannedd a phast dannedd, ac annog mynd i bractis deintyddol cyn pen-blwydd cyntaf plentyn.
- Mae Cynllun Gwên yn cyflwyno rhaglenni brwshys dannedd dan oruchwyliaeth a rhaglenni farnais fflworid mewn meithrinfeydd ac ysgolion cynradd ledled Cymru.
- Mae canllawiau NICE Oral health: local authorities and partners (PH55) (saesneg yn unig) yn argymell goruchwylio cynlluniau brwshys dannedd ar gyfer meithrinfeydd ac ysgolion cynradd mewn ardaloedd lle mae plant mewn perygl uchel o iechyd y geg gwael; rhaglenni farnais fflworid ar gyfer meithrinfeydd ac ysgolion cynradd mewn ardaloedd lle mae plant mewn perygl uchel o iechyd y geg gwael; codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iechyd y geg, fel rhan o ddull 'ysgol gyfan' ym mhob ysgol gynradd; a chyflwyno cynlluniau penodol i wella a diogelu iechyd y geg mewn ysgolion cynradd mewn ardaloedd lle mae plant yn wynebu risg uchel o iechyd gwael y geg.
Gwella mynediad i wasanaethau deintyddol y GIG
- Yn unol â'r Rhaglen Diwygio Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol (GDS), cefnogwch gomisiynu lleol sy'n gwella mynediad a thegwch mynediad mewn ardaloedd o amddifadedd.
- Cefnogi gwasanaethau deintyddol gofal sylfaenol i gael ethos sy'n canolbwyntio ar atal a chanlyniadau.
- Darparu gwybodaeth gyhoeddus hygyrch ynglŷn â sut i gael gofal deintyddol brys lleol (drwy 111 neu linell gymorth leol).
Diweddarwyd diwethaf 11/04/23