Mae’r rhaglen Gwên am byth yn sicrhau bod gan gartrefi gofal a nyrsio i oedolion hŷn system o asesu anghenion gofal ceg preswylwyr yn rheolaidd.
Mae gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol yng Ngwasanaethau Deintyddol Cymunedol GIG Cymru yn hyfforddi staff cartrefi gofal i ddarparu cymorth hylendid geneuol dyddiol.
| Cwmpas | 84% (495/586). Mae 84% o gartrefi nyrsio a gofal preswyl i bobl hŷn un cymryd rhan yn y cynllun Gwên am byth. |
| Hyfforddiant | Cynhaliwyd 1262 o sesiynau, gyda 5048 o fynychwyr. Gall tîm deintyddol lleol Gwên am byth hyfforddi'r holl staff sy'n darparu gofal personol mewn cartref gofal, neu gallant hyfforddi hyrwyddwyr gofal y geg enwebedig o fewn cartref gofal, a fydd yn cael eu cefnogi i hyfforddi cydweithwyr. |
| Sicrhau Ansawdd | Cafodd 115 o gartrefi 1 ymweliad Sicrhau Ansawdd, a chafodd 280 o gartrefi 2 ymweliad Sicrhau Ansawdd eleni. Dylai tîm deintyddol Gwên am byth ymweld â chartrefi gofal sy'n cymryd rhan yn y cynllun o leiaf ddwywaith y flwyddyn i sicrhau bod nodau'r rhaglen yn cael eu cyflawni. |
Bydd y ddolen hon yn eich cyfeirio Adroddiad Blynyddol Rhaglen Gwên am byth 2022-2023
Bydd y ddolen hon yn eich cyfeirio Adroddiad Blynyddol Rhaglen Gwên am byth 2021-2022