Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiadau blynyddol

Mae’r rhaglen Gwên am byth yn sicrhau bod gan gartrefi gofal a nyrsio i oedolion hŷn system o asesu anghenion gofal ceg preswylwyr yn rheolaidd.

Mae gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol yng Ngwasanaethau Deintyddol Cymunedol GIG Cymru yn hyfforddi staff cartrefi gofal i ddarparu cymorth hylendid geneuol dyddiol.

Y Rhaglen Gwên am byth gweithgarwch cenedlaethol yn 2023-2024

Cwmpas 84% (495/586). Mae 84% o gartrefi nyrsio a gofal preswyl i bobl hŷn un cymryd rhan yn y cynllun Gwên am byth.
Hyfforddiant Cynhaliwyd 1262 o sesiynau, gyda 5048 o fynychwyr.  Gall tîm deintyddol lleol Gwên am byth hyfforddi'r holl staff sy'n darparu gofal personol mewn cartref gofal, neu gallant hyfforddi hyrwyddwyr gofal y geg enwebedig o fewn cartref gofal, a fydd yn cael eu cefnogi i hyfforddi cydweithwyr.
Sicrhau Ansawdd Cafodd 115 o gartrefi 1 ymweliad Sicrhau Ansawdd, a chafodd 280 o gartrefi 2 ymweliad Sicrhau Ansawdd eleni. Dylai tîm deintyddol Gwên am byth ymweld â chartrefi gofal sy'n cymryd rhan yn y cynllun o leiaf ddwywaith y flwyddyn i sicrhau bod nodau'r rhaglen yn cael eu cyflawni.

Bydd y ddolen hon yn eich cyfeirio Adroddiad Blynyddol Rhaglen Gwên am byth 2022-2023

Bydd y ddolen hon yn eich cyfeirio Adroddiad Blynyddol Rhaglen Gwên am byth 2021-2022